Llywio Drwy Dirwedd Wleidyddol Sy’n Newid yn Gyson: UAC yn nodi ei blaenoriaethau yn y Sioe Fawr

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi nodi ei phrif ofynion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er gwaethaf yr heriau o geisio ymdopi â sefyllfa  wleidyddol sy’n newid yn gyson.

Mae safiad yr Undeb yn parhau’n gadarn a diflino o fewn arena wleidyddol sy’n newid o hyd.

Mae ffermio yng Nghymru ar groesffordd bwysig a fydd yn pennu dyfodol y diwydiant am ddegawdau i ddod. Er bod y trywydd yn dibynnu i raddau helaeth ar ddatblygu polisïau amaethyddol datganoledig yma yng Nghymru, ni ddylid anghofio y bydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth newydd y DU yn pennu, i bob pwrpas, y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i gefnogi amaethyddiaeth a datblygu gwledig.

Bydd hyn, yn ei dro yn cael effaith ar allu cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru i gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr gwledydd eraill y DU a ledled y byd, ar wahanol lefelau.

Serch yr heriau hyn, ffocws UAC fel Undeb yw dal ati i lobïo llywodraethau’n  ddi-baid i gael y canlyniadau gorau posib i aelodau UAC, amaethyddiaeth a chymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae’r ad-drefnu diweddar o fewn Cabinet y Senedd ac Etholiad Cyffredinol y DU wedi arwain at newidiadau sylweddol o fewn y darlun gwleidyddol yng Nghymru, yn enwedig penodi Huw Irranca-Davies AS yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, a Llywodraeth Lafur newydd â mwyafrif yn San Steffan.

Fodd bynnag, mae’r helbul yng Nghaerdydd yn parhau, wrth i ymddiswyddiad Vaughan Gething adael y drws yn llydan ar agor ar gyfer ad-drefnu pellach o fewn ychydig fisoedd yn unig.

Ar lefel y DU, mae UAC yn galw am setliad ariannol amlflwydd teg o £450 miliwn y flwyddyn o gyllid etifeddol PAC yr UE ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru. 

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y cymorth sylfaenol hwn ar gyfer cynhyrchu bwyd, a gwarchod yr amgylchedd a chymunedau gwledig Cymru.

Mae angen inni hefyd weld agwedd mwy cadarn o hyn allan tuag at unrhyw gytundebau masnach newydd gyda gwledydd a blociau masnachu eraill, os ydym am amddiffyn ffermwyr Cymru a diogelu cyflenwad bwyd y DU.  Mae’n rhaid i fewnforion ac allforion bwyd wynebu’r un tollau a chadw at safonau tebyg os ydym am sicrhau tegwch rhwng cynhyrchwyr bwyd y DU a’r UE.

Mae UAC yn galw am anogaeth a chefnogaeth er mwyn i ffermwyr allu buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y fferm a fydd o fudd i gymunedau lleol.  Dylid cydnabod cynhyrchu bwyd fel ased cenedlaethol a dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio tir amaethyddol da i gyrraedd targedau plannu coed a thargedau amgylcheddol eraill.

Mae’n rhaid i bolisïau caffael roi blaenoriaeth i gefnogaeth cyrff cyhoeddus i fusnesau Cymreig a Phrydeinig, gan gydnabod y llu o fanteision y gall polisïau sydd wedi’u dylunio’n briodol eu sicrhau i gymdeithas. Mae’n rhaid i Lywodraeth Lafur newydd y DU ddiogelu a hyrwyddo safonau uchel y DU o ran iechyd a lles anifeiliaid, a dod â chyfraith i rym sy’n sicrhau bod pob ci’n cael ei gadw ar dennyn mewn caeau gerllaw da byw.

Er gwaethaf yr ansicrwydd yng Nghaerdydd, mae UAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i feithrin cysylltiadau cryf gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth yng Nghymru’n cael sylw teilwng. Rhaid diogelu cyllid etifeddol PAC yr UE ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru at y diben hwn a dylai cyllid o’r fath barhau i gael ei gyd-ariannu gan ddefnyddio cronfeydd cenedlaethol.

Mae’n rhaid i’r broses o ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy diwygiedig, a fydd yn rhoi sefydlogrwydd i ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd, barhau os yw’r cynllun yn mynd i gael ei weithredu yn 2026.  Mae’n hanfodol bod y cynllun yn rhoi ystyriaeth gyfartal i gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, a’i fod yn hygyrch ac o fewn cyrraedd pob ffermwr gweithredol yng Nghymru.

Mae UAC hefyd am weld  atebion technolegol ac arloesol yn cael eu mabwysiadu fel rhan ganolog o’r broses o adolygu’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol ‘NVZ’.  Mae’n rhaid i’r broses fod yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth gadarn, a dylai geisio mynd i'r afael â materion ansawdd dŵr drwy arloesi yn hytrach na rheoleiddio.

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, nawr yn fwy nag erioed o'r blaen, fabwysiadu dull gwyddonol a chyfannol o ddileu TB Gwartheg yng Nghymru, drwy weithio gyda’r Grŵp Cynghori Technegol i ymchwilio i effeithlonrwydd y dulliau a’r trefniadau profi presennol o atal y clefyd rhag cael ei ledaenu gan fywyd gwyllt.

Yn olaf, rhaid i gamau tuag at sero net fod yn gynaliadwy ac yn seiliedig ar wyddoniaeth gadarn yn y fath fodd fel nad yw camau a gymerwyd mewn ymateb i dargedau tymor byr yn cael eu gwyrdroi. Rhaid i’r camau tuag at leihau ein hôl troed carbon fod yn hwylus ac yn realistig, ac ni ddylent beryglu cynhyrchiant na hyfywedd economaidd busnesau fferm.

Mae’r Sioe Fawr yn ddathliad o amaethyddiaeth yng Nghymru a’r ffermwyr sy’n parhau i gynhyrchu bwyd o safon uchel a gwarchod yr amgylchedd, yn erbyn cefndir o ansicrwydd a heriau gwleidyddol.

Effeithiau ansicrwydd o’r fath ledled y DU a rhai cwestiynau polisi sylfaenol fydd ffocws seminarau UAC  yn ystod y Sioe Fawr, wrth i baneli o ymarferwyr proffesiynol daclo nifer o bynciau amrywiol  sy’n peri pryder i’r sector amaeth yng Nghymru.

Fel bob amser, yn ogystal â’r digwyddiadau hyn, bydd staff a Thîm Llywyddol UAC yn cwrdd â swyddogion a rhanddeiliaid i dynnu sylw at straeon newyddion da aelodau UAC, yn ogystal â phryderon y diwydiant. Mae un peth yn sicr, serch gorfod ymdopi â sefyllfa wleidyddol sy’n newid yn gyson, bydd safiad cyson a chadarn UAC yn aros yn ddigyfnewid, sef cynrychioli buddiannau ffermwyr Cymru.