Bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn archwilio’r rhwystrau sy’n wynebu’r sector llaeth yng Nghymru yn ystod Sioe Laeth Cymru (dydd Mawrth 24 Hydref).
Gofynnir i ffermwyr sy’n ymweld â’r digwyddiad ar faes sioe Caerfyrddin gymryd rhan mewn arolwg a fydd yn edrych ar yr heriau penodol y mae busnesau llaeth yn eu hwynebu a sut mae hynny’n effeithio ar eu penderfyniadau busnes.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn raffl, a’r brif wobr am lenwi’r arolwg yw taleb £50 gan KiwiKit a het beanie UAC, a noddir gan Wasanaethau Yswiriant FUW.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd cadeirydd dros dro pwyllgor Llaeth UAC, Brian Walters: “Mae ein ffermwyr llaeth yn wynebu nifer o faterion y byddwn yn eu harchwilio’n fanylach yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolwg.
“Mae materion fel argaeledd cyllid fforddiadwy, prisiau llaeth wrth gât y fferm, marchnadoedd llaeth byd-eang a chytundebau masnach, yn ogystal â newid hinsawdd a’r amgylchedd yn rhai o’r pynciau y byddwn yn mynd i’r afael â nhw ar y diwrnod ac fel rhan o’r arolwg.”
Bydd swyddogion a staff yr Undeb hefyd ar gael i drafod pryderon aelodau ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, argaeledd a costau tir, NVZs, a chlefydau fel TB, BVD, a Johne’s.
“Mae’r diwydiant llaeth yng Nghymru yn eithriadol o wydn ac mae ein cynnyrch ni ymhlith y gorau yn y byd. Rydym yn falch o’n ffermwyr llaeth angerddol a gweithgar ac mae Sioe Laeth Cymru yn gyfle gwych i arddangos y busnesau hynny wrth barchu’r heriau presennol sy’n eu hwynebu,” ychwanegodd Mr Walters.