Llongyfarch Pennaeth Polisi newydd Undeb Amaethwyr Cymru

Llongyfarch Pennaeth Polisi newydd Undeb Amaethwyr Cymru

Braf yw gallu cyhoeddi bod Gareth Parry wedi ei benodi yn Bennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru a hynny ychydig ddyddiau’n unig cyn ei briodas.

Roedd dathliad dwbl i Gareth, brodor o Lanfarian ger Aberystwyth, wrth iddo ef a Catrin, Rheolwr Swyddfa pencadlys Undeb Amaethwyr Cymru, briodi yn ddiweddar. Maent eisoes wedi ymgartrefu ar fferm odro, beef a defaid y teulu yn Llanafan, Ceredigion.

Mae Gareth a raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn amaeth ac astudiaethau busnes o Brifysgol Aberystwyth yn gweithio i’r Undeb fel Swyddog Polisi ers pum mlynedd. Ef sydd wedi arwain ymateb 20,000 o eiriau diweddaraf yr Undeb i’r Llywodraeth ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy diweddar. Mae’n wyneb cyhoeddus i’r Undeb wrth gefnogi’r Llywydd mewn cyfarfodydd yn San Steffan ac yn y Senedd. Mae’n cyfarfod yn gyson gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a’i dîm ym Mae Caerdydd, cyfarfodydd gydag aelodau ledled Cymru ac mewn cyfweliadau gyda’r wasg. 

Mae Gareth eisoes wedi dechrau yn ei rôl ac yn ymfalchïo yng ngwaith yr Undeb: “Dwi’n hynod falch o’r cyfle yma ac yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth dros y misoedd prysur diwethaf. Mae gennym dîm o staff gweithgar ac arbenigol yn Undeb Amaethwyr Cymru, ac mae’n fraint cael cydweithio ȃ nhw wrth gynrychioli buddiannau ein haelodau. 

“Dwi’n edrych ymlaen at y sioeau amaethyddol dros yr haf, y cyfle i sgwrsio ȃ ffermwyr Cymru, i drafod materion y dydd gyda sefydliadau eraill ac i baratoi at y cyfnod cyffrous nesaf i’r diwydiant. Nid ar chwarae bach y mae gosod polisi amaethyddol newydd i Gymru sy’n gonglfaen i gefn gwlad, i’r economi, i ddiwylliant a threftadaeth. Dwi’n edrych ymlaen at chwarae rhan mewn cyfnod hanesyddol bwysig i gymunedau gwledig Cymru.”

Pan fo gwaith yr Undeb yn caniatau mae Gareth yn ralïwr ceir brwd ac wedi rasio droeon fel partner y gyrrwr sy’n llywio’r ffordd. Gyda’i bartner gyrru, Scott Faulkner, daeth gartref gyda chwpan y ‘British Trials and Rally Drivers Association’ nôl yn 2019. Mae wedi teithio’r byd yn ralïo ac mae’n mwynhau ail adnewyddu ceir a cherbydau. 

Wrth groesawu’r penodiad dywedodd Ian Rickman, Llywydd UAC: “Rydym yn falch iawn bod Gareth wedi ei benodi yn Bennaeth Polisi’r Undeb. Mae’n ŵr galluog, proffesiynol a brwdfrydig dros bopeth ym myd amaeth. Rydym yn ffodus iawn o fod wedi elwa ar ei arbengiedd a’i feddwl craff dros y misoedd diwethaf. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio ȃ Gareth, wrth i ni gamu i rhan nesaf y daith bwysig hon i fyd amaeth.

Dywedodd Guto Bebb, prif weithredwr UAC: “Llongyfarchiadau mawr i Gareth ar ddod i’r brig yn y rôl newydd ac i Catrin ag yntau ar eu priodas ddiweddar. Rydym yn ymfalchïo yn safon ein staff ac yn ddiolchgar iddynt ledled Cymru am eu hymroddiad i’r Undeb.

“Wrth longyfarch Gareth, hoffwn dalu teyrnged i Nick Fenwick, y cyn Bennaeth Polisi am ei waith dros Undeb Amaethwyr Cymru a ffermwyr Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad Nick dros gyfnod maith i’r Undeb a’r diwydiant yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Mae staff ac aelodau wedi cael y fraint o gydweithio ag arbenigwr amaethyddol a ddangosodd  ymrwymiad mawr i weithio ar ran ffermwyr Cymru. Dymunwn yn dda iddo ef a’i deulu i’r dyfodol.”