UAC yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am ymestyn y taliad sengl sylfaenol i’r diwydiant amaeth

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wedi croesawu’r newyddion heddiw bod Llywodraeth Cymru am barhau’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) i gefnogi ffermwyr Cymru ochr yn ochr â chyfnod paratoi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ar gyfer 2025.

Wrth ymateb i’r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, dywedodd Llywydd UAC, Ian Rickman: “Rydym yn croesawu’r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ddyfodol ffermio yng Nghymru a’i gynlluniau i weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant amaethyddol.

“Ers yr ymgynghoriad diwethaf, rydym wedi galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y BPS ar y lefelau presennol ar gyfer y flwyddyn nesaf o ystyried faint o newid sydd ei angen i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy o fewn yr amserlen dynn.

“Mae’r cyhoeddiad hwn ar gynnal y BPS ochr yn ochr â chyfnod paratoadol SFS y flwyddyn nesaf yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir. Bydd yn rhoi sefydlogrwydd i fusnesau amaeth ac yn sylfaen gadarn ar gyfer trafodaethau ystyrlon.

“Datblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw’r newid mwyaf arwyddocaol mewn polisi amaethyddol yng Nghymru ers degawdau. Mae’n galonogol felly bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi na fydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod.”

Mae’r datganiad hefyd yn cyfeirio at barhad cynlluniau buddsoddi gwledig, gan gynnwys ystyried ymestyn Cynllun Cynefin Cymru a chymorth i amaethwyr organig.

“Mae’n hanfodol ein bod yn osgoi unrhyw fylchau yn y cymorth yn ystod y cyfnod pontio o’r BPS i’r SFS sy’n sail i gynaliadwyedd economaidd busnesau ffermio. Croesawn felly barhad y gefnogaeth wrth i ni weithio i ddylunio Cynllun sy’n cyflawni ar gyfer busnesau amaeth, ein cymunedau gwledig a’r amgylchedd.

“Er ein bod yn croesawu’r datganiad heddiw sy’n dangos parodrwydd i wrando, i weithio gyda’r diwydiant a chefnogi cefn gwlad Cymru, rydym yn awyddus i weld y manylion llawn yn natganiad llafar Ysgrifennydd y Cabinet yn y Senedd y prynhawn yma. 

“Bu drwgdeimlad mawr o fewn y diwydiant dros y misoedd diwethaf, a bydd craffu ar y manylion yn hollbwysig wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo yn yr wythnosau nesaf.”

“Aelodau Uneb Amaethwyr Cymru yw calon ein sefydliad a byddwn yn parhau i wneud ein gorau i sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau gorau posib i’n ffermydd teuluol yng Nghymru,” meddai Ian Rickman.