Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn ei chanol hi yn mwynhau Eisteddfod ym Mharc Ynys Angharad yr wythnos hon.
Mae croeso twymgalon i ymwelwyr ac eisteddfodwyr rif y gwlith yn ystod wythnos brysur ar stondin yr FUW fydd yn cynnwys arddangosiadau coginio, cwis amaethyddol, trafodaeth gan arbenigwr gwlȃn a negeseuon cerddorol ynghylch diogelwch fferm gyda’r annwyl Welsh Whisperer.
Dywedodd Dirprwy Swyddog Gweithredol Sirol UAC dros Gwent a Morgannwg, Gemma Haines: “Fel un o’r ardal sydd wedi ail afael yn ei Chymraeg mae cael bod yn rhan o drefniadau Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer yr Eisteddfod wedi bod yn gyffrous iawn.
“Rydym yn awyddus i ddod ag ychydig o fywyd cefn gwlad i ardal boblog Pontypridd yr wythnos hon gan atgoffa trigolion lleol, teuluoedd ac ymwelwyr o le’n union mae ei bwyd yn dod.
“Byddwn yn atgoffa pobl am bwysigrwydd safon bwyd ac am y broses o ofalu ac ymddwyn yn ddoeth yng nghefn gwlad. Byddwn hefyd yn rhoi sylw i ddiogelwch ar y fferm, a hynny ar ffurf cȃn.
“Amaethwyr yw ceidwaid cefn gwlad, a thrwy ddod a Thegwen y fuwch liwgar draw i faes yr Eisteddfod ein gobaith yw cynnig paned, diod oer a chyfle i bobl a theuluoedd gael gorffwys, sgwrsio a hamddena ar ein stondin gan wneud yr FUW yn gyrchfan i oedi a chael pum munud o brysurdeb yr Ŵyl.
“Mae hi’n fraint o’r mwyaf i ni allu croesawu eisteddfodwyr yma i ardal Rhondda Cynon Taf. Mae’r gwaith paratoi a’r codi arian gan y gymuned wedi bod yn anhygoel a phenllanw’r holl waith fydd yr wythnos hon. Dewch draw i’n stondin yn ystod yr wythnos i’n gweld,” meddai Gemma Haines.
Rhaglen o weithgareddau’r wythnos ar stondin yr FUW
Dydd Sadwrn 3.8.24
Daeth Ambiwlans Awyr Cymru i’r stondin i rannu pwysigrwydd ei gwasanaeth yng nghefn gwlad, wrth i ni godi arian at elusen yr FUW dros y ddwy flynedd nesaf
Dydd Sul 4.8.24
11.00 a 14.00 Diogelwch y Fferm gyda’r Welsh Whisperer a’i gitȃr
Dydd Llun 5.8.24
10.30 Sgwrs “Ein taith amaeth” gyda chyn Lywydd UAC, Glyn Roberts; y Dirprwy Lywydd, Dai Miles; Natalie Hepburn a Grug Jones.
11:30 Natalie Hepburn o Garlic Meadow yn creu sebon
13:00 Blasu caws, diolch i nawdd gan gwmni Calon Wen
14:00 Coginio gan ddefnyddio cynnyrch llaeth gyda’r cogydd, Aneira o Siop Fferm Cwm Farm
Dydd Mawrth 6.8.24
10.30 Sefydliad y Merched - Cyflwyniad rhoi diwedd i drais yn erbyn Merched
14:00 Creu cacennau cri gydag Aneira o Siop Fferm Cwm Farm a sgwrs gyda’r elusen The DPJ Foundation
Dydd Mercher 7.8.24
10.00 Sgwrs gyda Gareth Jones, Pennaeth Ymgysylltu ag aelodau’r Bwrdd Gwlȃn
13:00 Dyfodol y diwydiant gwlȃn yng Nghymru, gyda Gareth Jones ac Anwen Hughes
14:00 Celf a chrefft i blant gan ddefnyddio gwlȃn y ddafad
Dydd Iau 8.8.24
10.00 Rhian Pierce o’r RSPB yn trafod adar ar ein ffermydd a rhannu crefftau byd natur gyda phlant a phobl ifanc
11:30 Arddangosfa goginio gyda’r cogydd, Nerys Howell arbenigwr bwyd Cymreig
13:30 Cyflwyniad gan Lee Oliver o’r Game and Wildlife Conservation Cymru
14:30 Arddangosfa goginio gyda’r cogydd, Nerys Howel
15:30 Rhian Pierce o’r RSPB yn trafod adar ar ein ffermydd a rhannu crefftau byd natur
Dydd Gwener 9.8.24
11.00 Cwis amaethyddol teuluol ac elusen The DPJ Foundation ar y stondin
Prynhawn o grefftau a phom pom gyda Mari Anne
Dydd Sadwrn 10.8.24
Arddangosfa goginio gyda’r cogydd, Nerys Howell
Prynhawn o grefftau