Enid ac Wyn Davies yn ennill gwobr Bob Davies UAC am eu dewrder mewn rhaglen deledu ar TB

Pleidleisiodd aelodau UAC ar draws Cymru bod Wyn ac Enid Davies, sy’n rhedeg y fferm deuluol yng Nghastell Howell ger Capel Issac yn ennill Gwobr Goffa Bob Davies.

Cafodd eu dewrder a’u cryfder wrth ganiatáu i’r rhaglen deledu amaethyddol Gymreig ‘Ffermio’ fod ar eu fferm i ffilmio’r broses erchyll o ddifa chwarter eu buches odro oherwydd TB ei gydnabod gan aelodau UAC o bob rhan o Gymru. Roedd y tair cenhedlaeth yng Nghastell Howell yn trin eu gwartheg fel ‘anifeiliaid anwes’ eglurodd Enid, ni ellid amgyffred pam y bu’n rhaid iddynt ddioddef y boen o weld y gwartheg yn cael eu difa ar y fferm yn hytrach nag oddi ar y safle.

Mae’r wobr, er cof am ohebydd Cymru Farmers’ Weekly Bob Davies, yn cael ei chynnig i unigolyn neu grŵp sydd wedi codi proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.

Wrth dderbyn y wobr, ffon fugail a gerfiwyd yn arbennig gan Richard Hughes, Mathafarn, oddi wrth Lywydd UAC Ian Rickman, dywedodd Enid Davies: “Y gobaith, trwy rannu ein stori oedd y gallai helpu rhywun arall. Ni fyddem yn dymuno i unrhyw un fynd trwy’r hyn yr ydym wedi bod drwyddo a gobeithio, trwy ddangos beth ddigwyddodd i ni, y gallem helpu ffermwyr a theuluoedd eraill i deimlo’n llai unig.”

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Ian Rickman: “Fe allwn ni weiddi a gweiddi, ond os nad yw ein neges yn cael ei chlywed yna gwastraff yw ein hymdrechion. Rydyn ni angen pobl i glywed ein stori.

“Mae UAC yn wirioneddol ddiolchgar i Enid, Wyn a’r teulu Davies i gyd am ganiatáu camerâu Ffermio ar eu fferm yn ystod y broses erchyll o ddifa chwarter eu buches odro oherwydd TB.

“Eu cryfder wrth ganiatáu i’r cyhoedd eu gweld ar eu mwyaf bregus yw pam ein bod yn falch o gyflwyno gwobr goffa Bob Davies i Enid ac Wyn Davies, Castell Howell, Capel Issac.”