Prosiect arloesol sy'n defnyddio technoleg DNA cŵn yn symud i'r cam nesaf

Mae prosiect arloesol sy'n defnyddio technoleg DNA cŵn yn dilyn ymosodiadau ar dda byw yn symud i’r cam nesaf yn y broses trwy ymgysylltu â'r gymuned amaethyddol i ddatblygu a hyrwyddo'r dechnoleg ymhellach.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae UAC wedi bod wrth galon trafodaethau pwysig i ddarparu pwerau deddfwriaethol gwell yn San Steffan ar gyfer ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. Mae’r Undeb wedi cefnogi pwerau gwell i’r heddlu er mwyn helpu eu swyddogion i ymateb yn fwy effeithiol pan mae ymosodiad gan gi wedi digwydd ar fferm.

Dan arweiniad Prifysgol Lerpwl John Moores, bydd y prosiect yn dosbarthu pecynnau casglu DNA cŵn i gynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru i’w rhannu ag ardaloedd â phroblemau cyson gyda chŵn yn effeithio ar ffermydd ledled Cymru. 

Mae'r pecynnau'n cynnwys swabiau, sisyrnau, tâp, cyfarwyddiadau manwl ar gyfer casglu DNA a gwybodaeth am y prosiect. Y gobaith yw y gallai'r cyfnod prawf hwn o brofi a chasglu arwain at ehangu'r prosiect a chasglu tystiolaeth a allai arwain at erlyniad, yn y dyfodol agos.

Bydd trafodaeth banel ynglŷn â’r prosiect yn cael ei chynnal ar Faes y Sioe Frenhinol (dydd Mercher 24 Gorffennaf am 11yb ym mhafiliwn UAC). Mae Dr Nick Dawnay, gwyddonydd fforensig gydag 20 mlynedd o brofiad fel arweinydd y Prosiect Adfer DNA Cŵn, yn un o bedwar aelod y panel. Mae hefyd yn darlithio mewn Fferylliaeth a Gwyddorau Biomoleciwlaidd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. 

Bydd Rhys Evans o dîm troseddau gwledig Heddlu Gogledd Cymru, sydd hefyd yn cadw gwartheg a defaid ar ei dyddyn yn Ynys Môn yn cynnig ei safbwynt ar y prosiect, ynghyd ag AS Caerfyrddin sydd newydd ei hethol, Ann Davies. Mae hi’n gweithio’n agos gydag AS Ceredigion, Ben Lake sy’n brysur yn symud y newid yn y ddeddfwriaeth yn San Steffan yn ei flaen. 

Wyn Evans yw pedwerydd aelod y panel. Yn ffermwr bîff a defaid yng Nghwm Ystwyth, mae wedi cael profiad personol o ymosodiadau gan gŵn ar ei fferm. Mae'n annog y cyhoedd i gadw eu cŵn ar dennyn wrth gerdded yng nghefn gwlad. 

Caiff y panel ei gadeirio gan Anwen Hughes, Is-lywydd Rhanbarthol UAC : “Rwyf wedi bod yn cadw llygad ar ddatblygiadau’r prosiect hwn ers y dechrau ac wedi bod yn rhan o lawer o’r trafodaethau ar faterion sy’n ymwneud a phoeni da byw yng Nghymru, ar ran aelodau UAC.

“Mae’n anodd iawn anghofio’r gweld y gyflafan sy’n cael ei adael ar ôl i gŵn ymosod a niweidio defaid mewn cae. Mae’n effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles ni, yn ogystal â’r goblygiadau ariannol ar y busnes. Mae’n sefyllfa ddirdynnol i fod ynddi,” ychwanegodd Anwen Hughes.