‘Arolwg Gwledig Cymru Gyfan’ cyntaf yn casglu gwybodaeth am droseddau gwledig

Mae’r ‘Arolwg Gwledig Cymru Gyfan’ cyntaf gan Brifysgol Aberystwyth, a Chydlynydd yr Heddlu, ar agor erbyn hyn i bobl sy’n byw a/neu’n gweithio mewn cymunedau gwledig i roi eu hadborth ar droseddau gwledig ac ymateb yr heddlu.

Mae’n darparu cyfle i awgrymu beth ellir ei wella o ran ymateb a strategaeth ar gyfer taclo troseddau yng nghefn gwlad.

Mae’r arolwg ar agor hyd 31ain Rhagfyr ac mae ar gael ar y dolenni isod. Gobeithir cyhoeddi’r canlyniadau yng Ngwanwyn 2022.

Cymraeg: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/astudiaeth-trosedd-wledig-cymru

Saesneg: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/rural-crime-wales

Sesiynau ymwybyddiaeth iechyd meddwl di-dâl Sefydliad DPJ

Mae Sefydliad DPJ, sef Elusen Llywydd UAC, yn trefnu sesiynau ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar-lein am ddim i bobl sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth, neu rolau sy’n cefnogi’r gymuned ffermio.

Mae’r sesiynau wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maent yn agored i unrhyw un sy’n ffermio, yn gweithio gyda ffermwyr, neu’n byw yng nghefn gwlad Cymru. Mi allwch chi fod yn ffermwr, yn dod o deulu ffermio, neu’n gweithio i sefydliad sy’n cefnogi ffermwyr megis ym maes iechyd, addysgu, asiantaeth statudol, milfeddyg, cyflenwr ffermydd, busnes lleol, marchnad da byw, asiantaeth cymorth, neu elusen.

Yn ystod y sesiynau trafodir y prif ffactorau sy’n achosi straen o fewn amaethyddiaeth, ac mi gewch help i adnabod arwyddion iechyd meddwl gwael, i wybod sut i ddechrau sgwrs efo rhywun sy’n cael trafferth ymdopi, i ddeall y cymorth sydd ar gael, a sut i gael mynediad ato. Bydd y sesiynau hefyd yn ymdrin ag atal hunanladdiad ac yn rhoi cynghorion ar hunan-ofal, gan gynnwys sut i wella’ch gwydnwch eich hun.

Mae’r sesiynau’n dair awr a hanner o hyd, ac fe’u darperir ar Zoom neu mewn lleoliad cymunedol lleol, gydag opsiynau ar gyfer y dydd neu fin nos, ac yn Gymraeg neu Saesneg.

Y dyddiadau hyfforddi nesaf sydd ar gael yn 2022 yw:

  • 12fed Ionawr ar Zoom
  • 20fed Ionawr wyneb yn wyneb mewn lleoliad cymunedol yn Ardal Wrecsam
  • 9fed Chwefror ar Zoom

Gallwch archebu sesiynau yma: https://www.eventbrite.co.uk/o/the-dpj-foundation-32983967795


Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kay Helyar yn Sefydliad DPJ drwy This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu 07984169507.

Atgoffa ffermwyr o’u cyfrifoldebau wrth storio, gwerthu a phrynu gwrtaith

Mae Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC) a Gwasanaethau AIC, sy’n rheoli Cynllun Sicrwydd y Diwydiant Gwrtaith (FIAS) yn atgoffa ffermwyr o’u cyfrifoldebau mewn perthynas â storio gwrtaith yn ddiogel, yng ngoleuni cost gynyddol gwrtaith nitrogen a’r posibilrwydd o fod â stoc dros ben ar ffermydd.

Wrth i brisiau nwy uchel byd-eang wthio cost gwrtaith nitrogen i fyny, mae rhai ffermwyr yn wynebu penderfyniadau anodd wrth gynllunio i fwydo cnydau dros y gaeaf hwn a’r gwanwyn nesaf. Mae hyn yn bryder arbennig pan nad oes gan ffermwr stoc digonol neu archebion ar y ffordd i ddiwallu’i anghenion, oherwydd mi allai’r trafferthion gyda’r gadwyn cyflenwi gwrtaith barhau yn ystod gwanwyn 2022.

Mater arall sy’n peri pryder yw gwerth cynyddol stociau presennol o wrtaith nitrogen ar ffermydd, a allai arwain at fwy o ladrata.

Mae yna berygl y gall gwrtaith nitrogen gael ei ddefnyddio at ddibenion anghyfreithlon, ac mae gan unrhyw un sy’n trin a thrafod neu’n storio cynnyrch o’r fath gyfrifoldeb dros sicrhau ei fod yn cael ei storio’n ddiogel, a dylent fod yn wyliadwrus am unrhyw ladrata posib.

Newidiadau ar droed o ran defnydd o ddiesel coch yn Ebrill 2022

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno newidiadau deddfwriaethol, drwy Fil Cyllid 2021, i gyfyngu ar y defnydd o ddiesel coch a biodanwyddau rhatach o Ebrill 2022, i’w helpu i gwrdd â’i thargedau newid hinsawdd ac aer glân.

Bydd y defnydd o ddiesel coch yn cael ei ganiatáu o hyd ar gyfer amaethyddiaeth, garddwriaeth, ffermio pysgod, a choedwigaeth, gan gynnwys torri cloddiau a gwrychoedd, clirio eira a graeanu ffyrdd. Mae rhestr lawn o ddefnyddiau cymwys ar gael ar wefan Llywodraeth y DU yma.

Fodd bynnag, mae Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol (NAAC) wedi rhybuddio ffermwyr sy’n defnyddio offer ar gyfer gwaith anamaethyddol, gan gynnwys adeiladu, i fod yn ymwybodol o‘r rheolau newydd.

Mae NAAC hefyd am gael eglurder ar sut i gael gwared yn effeithlon â phob mymryn o ddiesel coch o danciau a hidlyddion er mwyn cydymffurfio. Os bydd cerbyd yn cael ei drethu at ddibenion amaethyddol, yna ni ddylai fod angen cwestiynu a yw‘n rhedeg ar ddiesel coch neu ddiesel gwyn.

O ystyried bod pris diesel gwyn oddeutu dwbl pris diesel coch, bydd y newidadau hyn yn anorfod yn golygu na fydd ffermwyr sy’n gwneud gwaith anamaethyddol yn gallu cystadlu o fewn marchnadoedd o’r fath bellach.

'Gwrandewch arnom ni. Cefnogwch ni.’: yr angen i sicrhau mynediad i bobl ifanc at gymorth iechyd meddwl

Mae Rhun ap Iorwerth yn cynnal arolwg i ddysgu mwy am y profiadau a ddaw i ran pobl yng Nghymru pan fydd angen siarad am iechyd meddwl.

Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol yn gyfrinachol. Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru i nodi beth sydd ei angen ar bobl ifanc yn nhermau cymorth iechyd meddwl, ac i annog system symlach o sicrhau bod pobl yn gwybod ble i fynd i gael cymorth a chyngor ar iechyd meddwl.

Gallwch gwblhau’r arolwg yma: https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSepBnWqKYiGc6tkSb4zTIEHTj4V6A0CEgrsMJIr3t7EX8YcPw/viewform

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Rhagfyr 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 
Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio Mae Cyswllt Ffermio nawr yn cynnig cyrsiau hyfforddiant TGCh i ddechreuwyr a dysgwyr canolradd.

Mae sesiynau un i un a gweithdai ar-lein ar gael hefyd ar integreiddio technoleg TGCh i’ch busnes fferm.

I archebu, cysylltwch â Lantra ar 01982 552646 neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
 


Ffenestr Cais am Hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Bydd y ffenestr cais am hyfforddiant Cyswllt Ffermio nesaf yn agor ar Ddydd Llun, 3ydd Ionawr am 9.00am ac yn cau ar Ddydd Gwener, 28ain Ionawr am 17.00.

  • Cynigir cymhorthdal o hyd at 80% ar yr holl gyrsiau hyfforddi i unigolion cofrestredig
  • Dros 70 o gyrsiau ar gael, dan y categorïau ‘Busnes, ‘Tir’ a ‘Da Byw’
  • Rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy wedi’u lleoli ledled Cymru

Am restr lawn o gyrsiau a/neu gymorth i ymgeisio, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Mae Llyfryn Hyfforddiant Cyswllt Ffermio ar gael yma.

3ydd Ionawr – 28ain Ionawr 2022

UAC yn cwrdd â llefarydd Plaid Cymru i drafod cytundeb cydweithio Llafur-Plaid

Cwrddodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) â Llefarydd Plaid Cymru ar Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Cefin Campbell AS, i drafod manylion y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Cyhoeddwyd ar 22ain Tachwedd bod y ddwy blaid, yn amodol ar gefnogaeth gan aelodau’r blaid, wedi cytuno i weithio ar y cyd am y tair blynedd nesaf ar 46 o bolisïau lle mae budd cyffredin, gan gynnwys ail gartrefi, plannu coed, llygredd amaethyddol, y Gymraeg, a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Roedd gwahaniaethau amlwg rhwng dyheadau Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn eu maniffestos yn y gwanwyn, ond o ystyried y cydbwysedd cyfredol o bleidleisiau yn y Senedd, roedd Llafur yn barod i drafod ar amryw o faterion.

Mae’r cytundeb yn nodi y bydd cyfnod pontio’n cael ei gyflwyno tra bod y system taliadau fferm yn cael ei diwygio, felly bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn nodwedd o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod a thu hwnt i dymor presennol y Senedd.

Mae UAC wedi dadlau’n gyson o blaid cynnwys taliadau sefydlogrwydd sy’n amddiffyn ffermydd teuluol Cymru mewn unrhyw gynllun yn y dyfodol, felly mae’r ymrwymiad hwn yn cael ei groesawu.

UAC yn lansio papur ar gapio taliadau yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Lansiodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ei phapur ar gapio taliadau o fewn cynlluniau cymorth yn y dyfodol yn ystod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni.

Yn 2015 cyflwynodd Llywodraeth Cymru ostyngiadau ar daliadau fferm uwch, a chyfyngiad yn y pen draw ar y swm y gall ffermwr ei hawlio drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) – system a elwir yn gapio taliadau.

Hefyd yn 2015, cyflwynwyd system ‘taliad wedi’i ailddosbarthu’, sy’n lleihau taliadau ar gyfer ffermydd gydag arwynebedd mwy, ac yn cynyddu’r swm a dderbynnir gan ffermydd bach a chanolig – dull sydd o fudd i fwyafrif helaeth ffermydd teuluol Cymru.

Mae UAC wedi cefnogi capio taliadau amaethyddol uniongyrchol, ar ôl ystyried cyflogau gweithwyr fferm a ffactorau eraill, ers 2007, ar sail y ffaith bod hynny’n sicrhau bod y swm mwyaf o arian yn mynd i ffermydd teuluol nodweddiadol a chymunedau gwledig yng Nghymru.

Adolygiad o wariant yn datgelu tor-addewid am yr eildro gan Lywodraeth y DU i ffermwyr a chymunedau gwledig

Mae’r cwtogi cymharol ar ddyraniad cyllid amaethyddiaeth a datblygu gwledig Cymru, a gyhoeddwyd yn yr adolygiad o wariant diweddaraf, yn torri adduned maniffesto’r Ceidwadwyr i beidio â chwtogi at gyllid gwledig am yr ail flwyddyn yn olynol.

Datgelodd cyllideb ac adolygiad o wariant y DU, a gyhoeddwyd ar 27ain Hydref, y byddai cyfartaledd o £300 miliwn y flwyddyn yn cael ei ddyrannu i Gymru ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig dros y tair blynedd ariannol nesaf.

Mae hyn £37 miliwn yn llai na’r gyllideb a ddyranwyd yn 2019 – blwyddyn pan addawodd maniffesto’r Ceidwadwyr "to guarantee the current annual [Common Agricultural Policy (CAP)] budget to farmers in every year of the next Parliament.” 

Cyflwynodd UAC ddadleuon cryf a dilys mewn ymateb i benderfyniad Trysorlys y DU y llynedd i fabwysiadu dehongliad creadigol o ymrwymiad y maniffesto, a dyrannu cyllideb oedd oddeutu £137 miliwn yn llai na’r hyn a ragwelwyd, drwy gynnwys cronfeydd UE nas gwariwyd o gyfnod cyllidol PAC 2014-2020 yn ei gyfrifiadau.

UAC yn mynegi siom mewn ymateb i’r cyhoeddiad am y Rhaglen i Ddileu TB

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn teimlo’n rhwystredig unwaith eto yn dilyn datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig ar 16eg Tachwedd ynghylch Rhaglen i Ddileu TB.

Cyhoeddodd y Gweinidog ymgynghoriad 12 wythnos, ‘Rhaglen Ddiwygiedig i Ddileu TB’, sy’n amlinellu cynigion polisi yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru i daclo’r clefyd ymhlith gwartheg yng Nghymru.

Gyda’r achosion o TB yn cynyddu yn Ardaloedd TB Isel Cymru, mae’n rhwystredig mai unig ymateb Llywodraeth Cymru i daclo’r mater hwn yw cynyddu’r rheolau ar wartheg, a gosod beichiau profi ychwanegol ar deuluoedd ffermio gweithgar.

Mae pryder cynyddol ynghylch iechyd a lles meddyliol ffermwyr, ac ni fydd y datganiad diweddaraf hwn yn gwneud dim i liniaru’r straen emosiynol ac ariannol.

Mae’n siom gweld ymgynghoriad arall sy’n adolygu taliadau am wartheg a brynwyd yn orfodol oherwydd TB. Mae UAC wedi rhoi ei barn ar y mater hwn yn glir; ni ddylai unhryw ffermwr gael gormod neu rhy ychydig o iawndal am wartheg o’r fath.

Crynodeb o newyddion Tachwedd 2021

i) Arolwg mawr yn rhoi hwb i’r sector cig coch yng Nghymru

Mae arolwg mawr o 1,000 o ddefnyddwyr a gynhaliwyd gan gwmni ymchwil MRQual ar ran Hybu Cig Cymru (HCC) wedi dangos bod cig oen gyda brand Cymru yn cael ei ffafrio dros gig gyda label Prydeinig.

Dywedodd ddwywaith yn fwy o bobl (47%) mai cig oen o Gymru oedd yn blasu orau, o’i gymharu â chig oen Prydeinig (23%), roedd 54% o’r ymatebwyr o’r farn mai Cymru oedd y lle mwyaf naturiol i fagu ŵyn (o’i gymharu â Phrydain yn ei chyfanrwydd – 27%), ac roedd 64% yn credu bod cig oen Cymru’n cael ei gynhyrchu ar ffermydd bach teuluol, o’i gymharu â 43% ar gyfer cig oen Prydeinig.

ii) Cig oen Cymru’n dod yn rhan o sector lletygarwch y Dwyrain Canol

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn gweithio ar raglen gyda mewnforwyr, gwestai a bwytai yn sector lletygarwch y Dwyrain Canol, a welodd cig oen Cymru fel un o brif noddwyr y Gwobrau Arweinwyr Mewn Bwyd a Diod.

Mi ddyblodd y swm a wariwyd gan ymwelwyr â’r Emiradau Arabaidd Unedig rhwng 2016 and 2019 ac arweiniodd y gwaith a wnaed gan HCC, proseswyr yng Nghymru a Llywodraeth Cymru at gynnydd yn yr allforion cig oen i’r Dwyrain Canol o tua 400% rhwng 2018 a 2020.

iii) Pum manwerthwr mawr yn addo haneru effaith amgylcheddol y fasged fwyd wythnosol

Mae Tesco, Sainsbury’s, Waitrose, Co-op a Marks & Spencer wedi cytuno i haneru effaith amgylcheddol y fasged fwyd wythnosol erbyn 2030.

Fel rhan o’r adduned, maent wedi cytuno i haneru’r gwastraff bwyd maent yn ei gynhyrchu, effaith amgylcheddol y nwyddau amaethyddol a bwyd môr sydd ym masged siopwyr, y coedwigoedd sy’n cael eu cwympo i greu cynnyrch, a maint y cynhesu byd-eang a achosir gan eu cynnyrch.

 

Achos o ffliw adar wedi’i gadarnhau yng Nghymru


Cafodd achos o ffliw adar H5N1 ei gadarnhau mewn haid fach iard gefn ger Y Waun, Wrecsam ar 1af Tachwedd. Sefydlwyd Parth Diogelu 3km a Pharth Cyfyngu 10km o amgylch y safle lle cadarnhawyd yr achos.

I gael mwy o wybodaeth am y lleoliad a’r mesurau sy’n weithredol o fewn y parthau Diogelu a Chyfyngu, dilynwch y ddolen isod, lle gellir defnyddio Datganiad a Map Rhyngweithiol:

https://llyw.cymru/ffliw-adar-y-diweddaraf

Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi datgan Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan.

Mae Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan yn annog pawb sy’n cadw adar i gynnal lefelau bioddiogelwch uchel.

Mae arwyddion clinigol o ffliw adar yn cynnwys pen chwyddedig, y gwddf yn troi’n las, diffyg archwaeth, anhawster i anadlu a dolur rhydd, ymhlith symptomau eraill.

Os ydych chi’n amau achos o Ffliw Adar, cysylltwch â’r swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar unwaith ar 0300 303 8268.

I gael mwy o wybodaeth am y mesurau a’r cyfyngiadau sy’n weithredol o fewn Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan, dilynwch y ddolen isod:

https://llyw.cymru/ffliw-adar-0

Cyhoeddi Adroddiad Ymwrthedd i Wrthfiotigau a Chadw Golwg ar Werthiant Milfeddygol y DU

Cyhoeddwyd Adroddiad Ymwrthedd i Wrthfiotigau a Chadw Golwg ar Werthiant Milfeddygol y DU 2020 (UK-VARSS 2020) yn ddiweddar, sy’n dangos lefel gyson neu leihad bach yn y defnydd o wrthfiotigau ar draws nifer o sectorau.

Mae adroddiad Tasglu Targedau Cynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaethau Mewn Amaethyddiaeth (RUMA), a gyhoeddwyd y llynedd, yn amlinellu tri uchelgais newydd, sef; 1) cynnal y gostyngiad sylweddol a sicrhawyd eisoes, 2) dal ati i sicrhau gostyngiad sylweddol pellach, a 3) bod y rhai sydd angen lleihau eu defnydd gwrthficrobaidd ymhellach yn deall y defnydd yn eu sectorau.

Ers 2014, mae adroddiadau VARSS wedi dangos sut mae data ar werthiant gwrthfiotigau, a defnydd ohonynt ar ffermydd, wedi helpu i ddangos tueddiadau a llunio camau gweithredu.

Mae prif bwyntiau adroddiad eleni fel a ganlyn:

Heddluoedd Cymru’n cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ar ffermydd

Cafodd cyfanswm o 21 o swyddogion gwledig o bob un o’r pedwar heddlu yng Nghymru brofiad uniongyrchol hanfodol o ffermio’n ddiweddar, drwy fynychu cwrs ‘Ymwybyddiaeth ar Ffermydd’ yng Ngholeg Sir Gâr yn Sir Gaerfyrddin, y cwrs cyntaf o’i fath i’w gynnal yng Nghymru.

Wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru, roedd y diwrnod yn gyfle i swyddogion heddlu yng Nghymru i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fynychu ffermydd yn ystod eu gwaith o ddydd i ddydd gyda hyder a dealltwriaeth o ffermio, ac yn bwysicach, gyda dealltwriaeth o beryglon yr amgylchedd gwaith hwn.

Dechreuodd y diwrnod gyda sesiwn yn ymwneud â gwahanol fathau o ffermio yng Nghymru a’r problemau go iawn sy’n wynebu’r diwydiant, o effaith troseddau gwledig i reolau’r llywodraeth a thrwyddedau symud da byw.

Yna cafodd y swyddogion brofiad o ymwneud â da byw, drwy helpu i gasglu a chyfrif defaid, a hefyd i ddeall y peryglon sy’n gysylltiedig â gweithio â gwartheg, dan do ac yn yr awyr agored. Roedd gwahanol fathau o beiriannau fferm ar yr agenda hefyd, ynghyd ag iechyd a diogelwch, a sut i wneud cerbydau fferm yn ddiogel os oes angen gwneud hynny mewn argyfwng, gyda rhai swyddogion yn cael y cyfle i yrru tractorau a chael profiad uniongyrchol o hyd a lled eu gallu.

HCC yn lansio canllaw ymarferol ar ffermio da byw mewn modd cynaliadwy

Yn ddiweddar mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio canllaw ymarferol ar gyfer ffermwyr, i wneud ffermio da byw yng Nghymru hyd yn oed yn fwy cynaliadwy.

Mae’r ddogfen ‘Perffeithio’r Ffordd Gymreig’ yn amlinellu sut y gall ffermwyr leihau eu hôl troed carbon. Credir y gallai mesurau ar ffermydd, megis bridio anifeiliaid a rheoli glaswelltir leihau allyriadau sector defaid Cymru gymaint ag 20%, ac mi allai cynyddu maint y carbon sy’n cael ei ddal a’i stori mewn priddoedd, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy gael fwy o effaith na hynny hyd yn oed.

Yn ôl ymchwil academaidd annibynnol, mae Cymru eisoes yn un o’r llefydd mwyaf cynaliadwy yn y byd i gynhyrchu cig coch, gyda’i ffermio llai dwys yn sgil digonedd o law a thyfiant glaswellt da.

Mae’r ddogfen yn anelu at helpu’r diwydiant i wella ymhellach a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o fwrw’r targed sero net erbyn 2050, gan sicrhau bod defnyddwyr yn cael y dewis o brynu’r cig oen a chig eidion mwyaf cynaliadwy posib.

Canolbwyntir i raddau helaeth ar reoli glaswelltir. Gall glaswelltir sy’n cael ei bori, sef y rhan helaethaf o dir amaethyddol Cymru, weithredu fel dalfa garbon. Bydd rheolaeth effeithiol o laswelltir yn sicrhau nid yn unig y maeth cywir ar gyfer gwartheg a defaid, ond mi fydd hefyd yn helpu i ddal a storio carbon o’r atmosffer.

Nid oes ‘un ateb syml’ o ran gwneud y mwyaf o botensial amaethyddiaeth Cymru i helpu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd, ond gall amrywiaeth o fesurau wneud cyfraniad sylweddol at ein cynaliadwyedd.

Mae’r adroddiad ‘Perffeithio’r Ffordd Gymreig’ i’w weld yma: https://meatpromotion.wales/cy/industry-resources/environment

Canllawiau i oresgyn prinder staff drwy noddi gweithiwr tymhorol

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer rheiny o fewn y sectorau garddwriaeth, cludiant, bwtsiera a dofednod sydd am oresgyn prinder staff drwy weithdrefnau mewnfudo.

Mae’r llwybr Gweithiwr Tymhorol yn caniatáu i gyflogwyr o fewn y sector garddwriaeth fwytadwy i ddod o hyd i weithwyr am hyd at chwe mis.

Gellir defnyddio’r llwybr Gweithiwr Tymhorol hefyd i noddi gweithwyr cynhyrchu dofednod rhwng 11eg Hydref 2021 a 31ain Rhagfyr 2021, gweithwyr sy’n gyrru cerbydau cludo nwyddau bwyd rhwng 11eg Hydref 2021 ac 28ain Chwefror 2022, a gweithwyr sy’n gwneud gwaith bwtsiera porc penodol, sy’n gorfod gwneud cais cyn 31ain Rhagfyr 2021, ac sy’n cael aros am hyd at chwe mis.

Mae’r fersiwn hon o’r canllaw yn ddilys o 1 Tachwed 2021:
https://www.gov.uk/government/publications/workers-and-temporary-workers-guidance-for-sponsors-sponsor-a-seasonal-worker

Cytundeb Seland Newydd yn dangoss parodrwydd Llywodraeth y DU i aberthu diogelwch ffermio a bwyd

Mae’r sêl fendith ar gytundeb masnach â Seland Newydd yn dangos parodrwydd Llywodraeth y DU i danseilio ffermio a diogelwch bwyd yn y DU yn gyfnewid am fuddion dibwys i’r economi.

Mae ffigurau Llywodraeth y DU ei hun yn dangos mai gwerth £112 miliwn yn unig o allforion ychwanegol y bydd y cytundeb yn ei greu ar gyfer cwmnïau’r DU o’i gymharu â’r lefelau cyn y pandemig.

Bydd y cytundeb yn caniatáu i Seland newydd gynyddu ei hallforion bwyd i’r DU, a fydd yn fygythiad mawr i ffermwyr Cymru a Phrydain, yn ogystal â diogelwch bwyd y DU.

Ym mlwyddyn 1 byddai’r cytundeb yn caniatáu cynnydd o 30% yn y cyfanswm o gig oen Seland Newydd y gellir ei fewnforio i’r DU yn ddi-doll (h.y. heb dariffau), gyda’r ffigur hwn yn codi i 44% ar ôl pum mlynedd, yna cynnydd pellach, ac yn y pen draw, cael gwared ar yr holl derfynau ar ôl 15 mlynedd.

Rhaid osgoi chwalu cysylltiadau masnach ar bob cyfrif yn nhrafodaethau protocol Gogledd Iwerddon, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi annog Llywodraeth y DU i weithio o fewn protocol Gogledd Iwerddon, a rhoi ystyriaeth ofalus i fuddiannau’r consesiynau a gynigir gan yr Undeb Ewropeaidd – neu wynebu’r perygl o effeithiau andwyol difrifol ar fusnesau’r DU os bydd y cysylltiadau masnach rhwng y DU a’r UE yn chwalu.

Mewn cyfarfod o Dîm Polisi Llywyddol UAC ar 13eg Hydref, trafododd yr aelodau y problemau a achosir gan y protocol, cynigion yr UE i liniaru’r rhain o fewn telerau a gytunwyd ac a arwyddwyd gan y DU, a’r bygythiad i amaethyddiaeth yng Nghymru a busnesau’r DU os bydd y cysylltiadau masnach rhwng y DU a’r UE yn chwalu.

Daethpwyd i’r casgliad mai’r ffordd fwyaf pragmatig o symud ymlaen oedd bod y DU yn ystyried y gwelliannau sylweddol a gyflwynwyd gan yr UE mewn goleuni positif, ac na ddylid rhoi busnesau yng Nghymru a’r DU, sydd eisoes yn wynebu problemau mawr yn sgil prinder gweithwyr, mewn mwy o berygl am fod y DU am ail-drafod cytundeb rhyngwladol.

Mae ymdrechion gan y DU i ail-drafod y protocol a’i egwyddorion sylfaenol yn llwyr, mor fuan ar ôl cytuno arno, eisoes wedi dwyn anfri ar y DU ar y llwyfan rhyngwladol, ac wedi arwain, dros yr wythnosau diwethaf, at rybuddion llym gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden.

UAC yn trafod plannu coed a masnachu carbon gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Cafodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) drafodaethau positif yn ddiweddar gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, gyda phlannu coed a busnesau o’r tu allan i Gymru’n prynu tir yng Nghymru at ddibenion gwrthbwyso carbon yn bynciau canolog.

Mae UAC wedi derbyn adroddiadau gan aelodau, yn wythnosol bron, am ffermydd cyfan neu ddarnau o dir yn cael eu prynu gan unigolion a busnesau o’r tu allan i Gymru ar gyfer plannu coed, er mwyn buddsoddi yn y farchnad garbon gynyddol, neu i wrthbwyso’u hallyriadau eu hunain, yn hytrach na cheisio lleihau eu hôl troed carbon yn y lle cyntaf.

Trafododd y Tîm Polisi Llywyddol bolisi’r Undeb ar fasnachu carbon, a chytunwyd ar hwnnw’n ddiweddarach mewn cyfarfod o Gyngor UAC sef:

‘Serch cydnabod y gallai credydau carbon ddod yn incwm pwysig i rai ffermydd yn y dyfodol, o ystyried:

  1. bod gwerthu credydau carbon o dir ffermio yng Nghymru’n bygwth tanseilio gallu ffermydd, amaethyddiaeth yng Nghymru neu Gymru gyfan rhag dod yn garbon niwtral
  2. y pryder bod mwy a mwy o dir ffermio yng Nghymru’n cael ei werthu i unigolion a chwmnïau o’r tu allan i Gymru, i greu carbon i’w werthu tu allan i Gymru, neu i wrthbwyso eu hôl troed eu hunain
  3. bod yna rai achosion o Lywodraeth Cymru’n ariannu cyrff ac unigolion o’r tu allan i Gymru i blannu ardaloedd o’r fath

dylai Llywodraeth Cymru a’r Senedd gymryd camau brys i daclo’r broblem hon drwy ryw fath o fecanwaith rheoli, ac er nad cwotâu carbon yw’r ffordd orau ymlaen o bosib, mae’n un o’r mesurau y dylid eu hystyried i osgoi effeithiau andwyol cynyddol i ffermydd teuluol yng Nghymru, cymunedau Cymru a Chymru gyfan.’

Pwyllgor Arallgyfeirio UAC yn Tynnu Sylw at yr Argyfwng Tai

Mae Pwyllgor Arallgyfeirio Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi pwysleisio’r angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau cadarn i warchod cymunedau gwledig rhag effeithiau perchnogaeth ail gartrefi, a ffactorau eraill sy’n effeithio ar y farchnad dai leol.

Yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Arallgyfeirio UAC a gynhaliwyd Ddydd Iau 14eg Hydref, pan drafodwyd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar, mynegodd yr aelodau bryderon mawr am yr effaith a gaiff perchnogaeth ail gartrefi a ffactorau tebyg ar y nifer o dai fforddiadwy sydd ar gael i bobl leol, a sut mae hyn yn bygwth cymunedau cefn gwlad Cymru.

Ar hyn o bryd mae 60% o drigolion Gwynedd yn methu â fforddio prynu tŷ, ac mae tua 11% o’r stoc dai gyfan yn y sir yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi. Mae’r broblem hon yn un sy’n effeithio ar ardaloedd ar draws Cymru ac mae’n dal i waethygu.

Mae’r cynnydd enfawr ym mherchnogaeth ail gartrefi, a nifer y tai a brynir gan fuddsoddwyr o’r tu allan fel llety AirBnB ers dechrau’r pandemig, wedi ychwanegu at y problemau oedd yn bodoli eisoes.

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth a llety hunanddarpar i’r economi, ond mae nifer o bentrefi gwledig ac arfordirol yng Nghymru’n gweld eu cymunedau’n chwalu, gyda goblygiadau difrifol i dreftadaeth a diwylliant Cymru.

Wrth ystyried ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, cyfeiriodd y Pwyllgor at nifer o gamau y dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau eraill eu cymryd i liniaru’r effaith.

Tarfu difrifol ar gadwyni bwyd y DU

Mae rheolau allforio newydd Brexit, ynghyd ag effeithiau’r pandemig, prinder milfeddygon a gweithwyr lladd-dai, colli’r farchnad Tsieiniaidd a phrinder CO2 wedi arwain at ôl-groniad o dros 100,000 o foch ar ffermydd y DU.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 15fed Hydref y bydd mesurau megis cynllun cymorth storio preifat yn caniatáu i broseswyr cig storio moch a laddwyd am dri i chwe mis ac yna’u prosesu’n nes ymlaen.

Maent hefyd yn caniatáu hyd at 800 o fisâu bwtsieriaid porc newydd dros dro am gyfnod o chwe mis, fel rhan o’r Cynllun Peilot Gweithwyr Tymhorol, ac mae’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn gweithio i ganfod marchnadoedd allforio newydd ar gyfer porc.

Er gwaethaf pecyn cymorth tair wythnos Llywodraeth y DU i ail-agor safle CF Industries, sy’n cwrdd â 60% o ofynion CO2 y DU, mae effaith cau’r safle am dymor byr yn cael ei deimlo eisoes gan ffermwyr, gydag UAC yn derbyn adroddiadau bod prisiau gwrtaith wedi codi i dros £700 y dunnell.

Crynodeb o newyddion Hydref 2021

i) Iwerddon yn cytuno ar gytundeb masnach newydd â Tsieina

Mae Gweriniaeth Iwerddon wedi cytuno ar gytundeb masnach newydd â Tsieina, a fydd yn caniatáu allforio cig dafad a moch magu.

Mae Tsieina’n gyfrifol am 38 y cant o fewnforion cig dafad y byd (365,000 tunnell), er bod cyfran fawr o hwnnw o wledydd megis Seland Newydd ac Awstralia – allforion net o gig coch.

ii) Tatws carbon niwtral o Gymru i’w gwerthu yn y Co-Op

Bydd tatws carbon niwtral cyntaf y DU, a dyfir gan Puffin Produce yn Sir Benfro, yn cael eu gwerthu ar draws 200 o siopau Co-op.

Mae’r hyn a elwir yn datws Root Zero yn dod o ffermydd lleol ac maent yn garbon niwtral ac wedi’u tyfu’n gynaliadwy. Mae’r cyfrifiadau ôl troed carbon hefyd yn cynnwys ôl troed y gadwyn gyflenwi gyfan.

Mae Puffin Produce wedi gosod targed o leihau dwysedd carbon tatws Root Zero gymaint â 51% erbyn 2030, a’i allyriadau gweithredu gymaint â 46% erbyn 2030.

iii) Gweinidog Amaeth yr Almaen yn galw am safonau mwy cyson yng nghytundebau masnach y dyfodol

Mae Gweinidog Amaeth yr Almaen, Julia Klöckner, wedi rhybuddio’r Comisiwn Ewropeaidd y byddai galw am Gytundeb Gwyrdd ar gyfer amaethyddiaeth yr UE heb gynnwys yr un uchelgais o fewn cytundebau masnach rydd â gwledydd y trydydd byd, yn rhoi ffermwyr domestig dan anfantais gystadleuol.

Mae hwn yn un o blith nifer o bryderon a godwyd gan UAC ac eraill mewn perthynas â’r cytundebau masnach rydd rhwng y DU ac Awstralia a Seland Newydd.

Rheoliadau Adnoddau Dŵr ‘NVZ’ dal yn berthnasol serch yr adolygiad

Mae UAC yn atgoffa’i haelodau bod rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) yn berthnasol o hyd er gwaetha’r ymchwiliad sydd ar y gweill gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd.

Ymatebodd UAC i ymchwiliad y Pwyllgor gyda thystiolaeth ysgrifenedig ym mis Medi, sydd i’w gweld yma.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Gweithlyfr Fferm y gellir ei ddefnyddio (er nad yw’n orfodol) i helpu i gwblhau’r cyfrifiadau.

I’ch atgoffa, mae’r rheoliadau a ddaeth i rym ar 1af Ebrill 2021 isod:

Arolwg Ffermio Mawr RABI yn datgelu ystadegau brawychus

Mae’r Sefydliad Amaethyddol Brenhinol Llesiannol (RABI) wedi cyhoeddi canlyniadau ei Arolwg Ffermio Mawr, sef y prosiect ymchwil mwyaf erioed yng Nghymru a Lloegr yn ymwneud â lles pobl sy’n ffermio.

Cynhaliwyd yr arolwg rhwng Ionawr a Mawrth 2021 ac roedd yr amcanion fel â ganlyn:

  • Deall llesiant cenhedlaeth o ffermwyr
  • Deall iechyd ein ffermwyr a’u busnesau
  • Deall mwy am effeithiau a phwysau o’r tu allan
  • Siapio cymorth a gwasanaethau’r dyfodol

Er bod dros 50% o’r 15,000 a mwy o bobl a ymatebodd i’r arolwg yn parhau i fod yn optimistaidd am ddyfodol eu busnesau ffermio, canfu’r arolwg:

  1. Bod 36% o’r gymuned ffermio’n debygol o ddioddef, neu o bosib yn dioddef o iselder
  2. Bod dros hanner y merched (58%) yn dioddef o orbryder i raddau bach, canolig neu ddifrifol
  3. Bod chwe ffactor, ar gyfartaledd, yn achosi straen ledled y gymuned ffermio. Y ffynonellau straen mwyaf cyffredin yw: rheoleiddio, cydymffurfio ac archwiliadau, Covid-19, tywydd garw/ansefydlog, colli cymorthdaliadau/cytundeb masnach yn y dyfodol
  4. Mae dros hanner (52%) y gymuned ffermio’n dioddef poen ac anghysur, mae gan un o bob pedwar broblemau symudedd, ac mae 21% yn cael trafferth cyflawni tasgau arferol oherwydd problemau iechyd
  5. Roedd 59% o’r ymatebwyr yn credu y byddai eu busnes yn goroesi dros y pum mlynedd nesaf.

Tractor Coch yn cyhoeddi Mynegai Ymddiried Mewn Bwyd cyntaf y DU

Mae Tractor Coch wedi llunio adroddiad ar Fynegai Ymddiried Mewn Bwyd cyntaf y DU, sy’n dadansoddi p’un ai yw defnyddwyr Prydain yn ymddiried yn y bwyd maent yn ei fwyta ai peidio.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar 3,500 o ymatebion gan oedolion ledled y DU, ac mae’n archwilio i ba raddau mae’r cyhoedd yn deall y berthynas rhwng bwyd a safonau bwyd y DU.

Yn ôl yr adroddiad, mae cwsmeriaid Prydain ‘trwyddi draw’ o’r farn bod bwyd y DU yn ddiogel, yn olrheiniadwy, ac o ansawdd da, gydag 84 y cant o’r defnyddwyr yn ymddiried mewn bwyd a gynhyrchir yn y DU. O fewn cyd-destun byd-eang, mae 73 y cant o ddefnyddwyr yn ymddiried mewn bwyd o Iwerddon, a 70 y cant mewn bwyd o Seland Newydd, ond dim ond 25 y cant sy’n ymddiried mewn bwyd o’r Unol Daleithiau ac 11 y cant mewn bwyd o Tsieina.

Ymddengys hefyd bod defnyddwyr yn Lloegr yn ymddiried yn gyfartal mewn bwyd ledled y DU ar y cyfan, ond bod defnyddwyr yng Nghymru a’r Alban yn ymddiried yn eu bwyd eu hunain yn fwy na bwyd gwledydd eraill.

Mae’r adroddiad terfynol i’w weld yma: https://assurance.redtractor.org.uk/wp-content/uploads/2021/10/HL_UKTIFI_landscape_pr13_final.pdf

Prawf ELISA newydd ar gael i ddiagnosio’r clafr

Mae Sefydliad Ymchwil Moredun, ynghyd â’r prosiect Stoc+ a Chanolfan Milfeddygaeth Cymru wedi datblygu prawf clafr ELISA newydd, sydd ar gael erbyn hyn drwy’r Ganolfan Milfeddygaeth.

Mae Stoc+ yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Hybu Cig Cymru (HCC) gyda’r nod o weithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hyrwyddo dull rhagweithiol o reoli iechyd preiddiau a buchesi. O blith y ffermydd defaid sy’n cymryd rhan yn y prosiect, mae 24 wedi nodi’r clafr fel un o’u blaenoriaethau o ran iechyd anifeiliaid.

Mae’r clafr yn bresennol yn oddeutu chwarter y preiddiau yng Nghymru ac mae’n costio tua £12 miliwn i’r diwydiant bob blwyddyn.

Gweithiodd UAC gyda Grŵp Dileu’r Clafr y Diwydiant i gyflwyno adroddiad ar y clafr ar ran y diwydiant i Lywodraeth Cymru yn 2018, a oedd yn cydnabod yr angen am driniaeth gydgysylltiedig ar draws ffermydd cyfagos, ac yn amlinellu rhaglen i reoli’r clafr a fyddai’n cynyddu’r tebygolrwydd o ffermydd cyfagos yn gweithio gyda’i gilydd i ddileu’r clafr drwy ddull mwy holistig ac ymarferol.

Arolwg y GWCT ar reoli pïod yng Nghymru

Mae'r Game and Wildlife Conservation Trust (GWCT) yn casglu data ar y graddau a'r ystod o reoli pïod yng Nghymru, gyda'r bwriad o herio ystyriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru efallai nad yw pïod yn addas i'w cynnwys ar drwyddedau cyffredinol fel y nodwyd yn eu hymgynghoriad cyfredol - 'Dull Cyfoeth Naturiol Cymru o reoleiddio saethu a dal adar gwyllt a dinistrio wyau a nythod'.

Bydd yr holl ddata yn ddienw.


Gellir gweld yr arolwg yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/magpie-control

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Hydref 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 
Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio Mae Cyswllt Ffermio nawr yn cynnig cyrsiau hyfforddiant TGCh i ddechreuwyr a dysgwyr canolradd.

Mae sesiynau un i un a gweithdai ar-lein ar gael hefyd ar integreiddio technoleg TGCh i’ch busnes fferm.

I archebu, cysylltwch â Lantra ar 01982 552646 neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
 


Ffenestr Cais am Hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Mae ffenestr gwneud cais am hyfforddiant Cyswllt Ffermio'n cau ar 29ain Hydref 2021.

Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu sydd angen diweddaru eu manylion cyfrif, gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ar 25ain Hydref 2021.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan ar wefan Cyswllt Ffermio: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy

29ain Hydref 2021

Cytundeb Masnach Rydd DU-Seland Newydd ar y gorwel

Dros y misoedd diwethaf, mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi mynegi pryderon am y modd y bydd y cytundeb masnach rydd rhwng y DU ac Awstralia, sy’n anelu at ryddfrydoli’r broses o fasnachu nwyddau amaethyddol, yn gosod cynsail ar gyfer cytundebau masnach â gwledydd eraill mawr rhyngwladol.

Mae’r trafodaethau ar gytundeb masnach rydd rhwng y DU a Seland Newydd ar droed erbyn hyn, a dywedir y bydd yn cynyddu’r masnachu rhwng y ddwy wlad tu hwnt i’r cyfanswm o £2.3 biliwn yn 2020.

Yn ôl Llywodraeth y DU, y bwriad gwreiddiol oedd cael cynllun mewn egwyddor yn ei le erbyn diwedd Medi. Fodd bynnag, mae fisâu i weithwyr, mynediad at farchnadoedd amaethyddol, a gwasanaethau ariannol yn parhau i fod yn rhwystrau allweddol.

Mae Seland Newydd wedi cadarnhau ei bod yn anelu at gael mynediad tebyg i’r farchnad â’r un a gynigiodd y DU i Awstralia, drwy ddarparu mynediad i farchnadoedd cig a llaeth y DU yn gyfnewid am wasanaethau ariannol Seland Newydd.

UAC yn croesawu estyniadau i gontractau BPS a Glastir

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, y bydd yna estyniad o ddwy flynedd i gontractau’r cynllun Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig, ac yn amodol ar dderbyn cyllid digonol gan Lywodraeth y DU, y bydd ffermwyr yn parhau i dderbyn taliadau uniongyrchol drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) hyd 2023.

Mae’r estyniad i’r contract Glastir yn cynrychioli ymrwymiad cyllidebol o £66.79 miliwn dros ddwy flynedd ar gyfer ffermwyr yng Nghymru. Bydd yr holl ddeiliaid contract cymwys presennol yn cael cynnig estyniad drwy eu cyfrif RPW ar-lein.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion da i’r diwydiant ffermio. Gyda’r ansicrwydd enbyd ynghylch taliadau fferm yn y dyfodol, a chytundebau masnach rydd ryngwladol, bydd y sicrwydd hwn yn darparu rhywfaint o sefydlogrwydd dros y ddwy flynedd nesaf.

Ychydig ddyddiau’n unig cyn y cyhoeddiad, cwrddodd UAC â’r Aelod Senedd Cefin Campbell, gan bwysleisio pwysigrwydd cymorth drwy gynlluniau Glastir i’r oddeutu 3,000 o ddeiliaid contract yng Nghymru oedd angen eglurder ynghylch p’un ai fyddent yn derbyn cyllid o’r fath o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

UAC yn aseinio Swyddog Materion Seneddol ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid newydd

Yn ddiweddar, penododd UAC Swyddog Materion Seneddol ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid:

"Helo. Libby Davies ydw i, Swyddog Materion Seneddol ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid UAC. Yn wreiddiol o gyffiniau Aberhonddu, rwyf wedi graddio eleni o Brifysgol Birmingham gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Wleidyddol a Chysylltiadau Rhyngwladol. Er nad wyf yn ffermio fy hun, mae dwy ochr fy nheulu yn ffermio ac rwy'n aelod gweithgar o CFfI Pontsenni. Rwy'n edrych ymlaen at gyfuno fy niddordebau mewn gwleidyddiaeth ac amaethyddiaeth yn fy ngwaith gyda UAC.

“Yn fy rôl, byddaf yn cysylltu gyda’r Senedd a San Steffan ar ran yr Undeb. Bydd hyn yn cynnwys cyfrifoldeb i drafod materion fel Cytundebau Masnach, Newid Hinsawdd a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd. Byddaf hefyd yn cefnogi ymgysylltiad â rhanddeiliaid yn siroedd Gwent a Morgannwg. Os allai fod o gymorth mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.."

 

Canlyniadau addawol i’r prawf TB Gwartheg newydd ond dim dull holistig yng Nghymru o hyd

Mae buchesi yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn rhan o dreialon ar ffermydd o’r prawf gwrthgyrff TB Gwartheg newydd, Enferplex.

Mae’r prawf wedi’i gynllunio i ganfod anifeiliaid heintiedig na chanfuwyd gan y prawf croen twbercwlin a’r prawf gwaed gama cymeradwy presennol.

Yn ôl yr adroddiadau mae’r canlyniadau cynnar yn bositif, gyda 2,500 o samplau’n dangos 23,4% o ganlyniadau Enferplex positif. Credir bod gan y prawf benodoldeb o rhwng 98.4 a 99.7% a sensitifrwydd o rhwng 89.4 a 94.5%, sy’n golygu y gall ganfod hyd at 94.5 o anifeiliaid a gadarnheir fel rhai heintiedig o fewn buches pan gânt eu profi 5-30 diwrnod ar ôl prawf croen.

Er bod y prawf Enferplex wedi’i gymeradwyo gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd i’w ddefnyddio fel prawf TB ar gyfer gwartheg, nid yw wedi’i gymeradwyo eto ar gyfer profion rheolaidd yn y DU.

Mae UAC yn parhau i gefnogi dull holistig sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i ddileu TB yng Nghymru, ond mae ‘na bryder y bydd cyflwyno prawf arall yn annog dull ‘adweithiol’ yn hytrach na symud tuag at ddull ‘ataliol’.

Cadwyni cyflenwi bwyd y DU yn wynebu problemau mawr

Mae adroddiadau yn y cyfryngau dros yr wythnosau diwethaf wedi datgelu problemau mawr i gadwyni cyflenwi bwyd y DU, yn sgil prinder gyrwyr cerbydau HGV a phrinder CO2 ar gyfer difa anifeiliaid a phecynnu bwyd.

Mae’r prinder o oddeutu 100,000 o yrwyr cerbydau HGV wedi effeithio ar nifer o fanwerthwyr a safleoedd gwerthu bwyd mawr, gan gynnwys Iceland a McDonalds, ar ôl i thua chwarter y gyrwyr hyn ddychwelyd i’r UE oherwydd Brexit a Covid-19.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi haeru ers amser maith y byddai problemau o’r fath yn codi o ganlyniad i’r rhwystrau a gododd rhwng y DU a’r UE yn sgil Brexit.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ers hynny y bydd yn cyflwyno pecyn o fesurau i helpu i daclo’r prinder gyrwyr cerbydau HGV, gan gynnwys fisâu dros dro i 5,000 o yrwyr tanceri tanwydd a chyflenwyr bwyd i weithio yn y DU yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, a phroses symlach i yrwyr newydd gael eu trwydded HGV.

Crynodeb o Newyddion Medi 2021

i) Y diwydiant yn croesawu’r bwriad i godi gwaharddiad cig oen yr Unol Daleithiau

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu’r newyddion y bydd y gwaharddiad hirdymor ar fewnforio cig oen Cymru i’r Unol Daleithiau’n cael ei godi’n fuan. Gwnaed y cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU, Boris Johnson Ddydd Mercher 22 Medi.

Mae UAC wedi hen drafod y posibilrwydd o godi’r gwaharddiad digyfiawnhad hwn gydag Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) mewn cyfarfodydd gwahanol dros y degawdau diwethaf. Mae Hybu Cig Cymru wedi nodi y bydd gwerth amcangyfrifol y farchnad bosib ar gyfer Cig Oen Cymreig gyda Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (GPI) yn yr Unol Daleithiau gymaint ag £20 miliwn y flwyddyn, o fewn pum mlynedd o godi’r gwaharddiadau allforio.

Nawr yn fwy nag erioed mae’n bwysig archwilio marchnadoedd allforio eraill, gan warchod marchnadoedd hirsefydlog yn Ewrop ar yr un pryd. Mae’r newyddion y gallai’r gwaharddiad hwn gael ei godi’n fuan yn un a groesewir yn frwd gan ddiwydiant defaid y DU.

ii) Allforion caws y DU i fyny 17 y cant

Mae ffigurau diweddaraf CThEM yn awgrymu bod y DU wedi allforio cyfanswm o 2,300 tunnell o gaws yn ystod tri mis cyntaf 2021, sef cynnydd o 17 y cant ar 2020.

Er bod Brexit wedi amharu ar allforion caws i’r UE, cynyddodd yr allforion i Seland Newydd, Awstralia a De Korea o 26, 3 a thros 200 y cant, yn y drefn honno, yn ystod y chwarter cyntaf.

Fodd bynnag, gostyngodd cyfanswm allforion cynnyrch llaeth y DU yn ystod yr un cyfnod o’i gymharu â 2020, yn sgil y galw uchel ymhlith defnyddwyr cartref, a’r ffaith bod safleoedd gwasanaeth bwyd wedi cau ar y cyfandir.

iii) Llywodraeth y DU yn bwriadu cefnogi allforion bwyd

Yn dilyn cyhoeddiad ar Ddiwrnod Cefnogi Ffermio ym Mhrydain 2021, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cefnogi busnesau sy’n allforio bwyd a diod o’r DU drwy fenter newydd, sydd i’w lansio’n ddiweddarach eleni.

Bydd y fenter yn cynnwys penodi cynrychiolwyr bwyd-amaeth, i weithio tuag at sicrhau mynediad i farchnadoedd allforio newydd, sefydlu Cyngor Allforio Bwyd a Diod i weithio ar y strategaeth fewnforio ochr yn ochr â’r gwledydd cartref, ac ymgysylltu â ffermwyr a chynhyrchwyr i sicrhau eu bod yn elwa o gyfleoedd marchnata newydd.

Diweddariad ar daliadau RPW 2021

Bydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn dosbarthu Rhagdaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2021 o 15 Hydref 2021, a fydd yn 70% o werth cyfanswm eich hawliad amcangyfrifedig. Sylwer na wneir y taliad o bosib os, er enghraifft, na chyflwynwyd y dogfennau ategol gofynnol, os oes anghydfod ar droed o ran y tir, os nodwyd tor-rheolau sylweddol yn ystod archwiliad, neu os oes yna faterion profiant sydd heb eu setlo.

Bydd y taliadau 30% sy’n weddill yn cael eu dosbarthu o 15 Rhagfyr 2021 cyn belled â bod yr hawliadau wedi’u dilysu’n llawn.

Mae’n bwysig hefyd, os cewch eich hysbysu gan RPW Ar-lein bod yna neges newydd yn eich cyfrif, eich bod yn mewngofnodi i’ch cyfrif i’w darllen, oherwydd mi all y neges fod yn gofyn am wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’ch hawliadau BPS, ac mi all peidio ag ymateb arwain at oedi cyn rhyddhau eich taliad.

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi newidiadau i brofion ôl-gerbydau a cherbydau HGV

Mae’n arbennig o amlwg mewn rhai ardaloedd o’r DU bod prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm (HGV) yn cael effaith ar y gadwyn cyflenwi bwyd.

Yn ôl y diwydiant Cludo Nwyddau a Logisteg mae’r prinder gyrwyr cerbydau HGV yn y DU wedi cynyddu o 45,000 yn 2016 i 76,000 erbyn heddiw.

Er bod yna nifer o resymau gwahanol am y prinder hwn, mae codi cyfyngiadau Covid-19 a system mewnfudo Brexit wedi rhoi pwysau mawr ar wasanaethau cludo nwyddau a logisteg.

Felly, yn dilyn ymgynghoriad diweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r drefn ar gyfer profion ôl-gerbydau a cherbydau HGV, er mwyn cyflymu’r broses gymhwyso ar gyfer gyrwyr.

Ar hyn o bryd, ni chaiff unrhyw rai a basiodd eu prawf gyrru ar ôl 1af Ionawr 1997 dynnu unrhyw beth lle mae’r ôl-gerbyd a’r cerbyd tynnu dros 3,500 kg o Uchafswm Mas Awdurdodedig (MAM). I dynnu unrhyw beth dros y trothwy hwn, rhaid iddynt basio prawf car ac ôl-gerbyd (B+E).

UAC yn annog plant i ddylunio cerdyn Nadolig amaethyddol er budd elusen

Mae disgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Gymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio cerdyn Nadolig ar y thema ffermio ar gyfer cystadleuaeth cardiau Nadolig UAC.

Mae UAC yn gofyn i blant rhwng 4 ac 11 oed i ddylunio golygfa amaethyddol Nadoligaidd ar gyfer ei chardiau Nadolig, a fydd yn cael eu gwerthu i godi arian ar gyfer elusen yr Undeb sef y DPJ Foundation.

Caiff y gystadleuaeth ei rannu’n ddau gategori - yr ymgeiswyr Cymraeg a’r ymgeiswyr Saesneg. Gall y plant ddefnyddio unrhyw gyfrwng i greu eu cardiau, megis creonau, pensiliau lliw, peniau blaen ffelt neu baent i dynnu’r llun, ac mae’n rhaid defnyddio dalen A4 o bapur a’i e-bostio atom ar ffurf jpeg.

Yr unig amod yw bod yn rhaid iddo fod yn gerdyn Nadolig sy’n dangos golygfa amaethyddol.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn tocyn anrheg gwerth £30 i’w hunain, pecyn o’r cardiau Nadolig yn dangos eu dyluniad, mynediad un diwrnod am ddim i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2021 er mwyn derbyn eu gwobrau a siec gwerth £50 ar gyfer eu hysgol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 29ain Hydref 2021.

Mae angen i bob cynnig gynnwys enw, oedran, rhif dosbarth, enw’r ysgol a chyfeiriad cartref y disgybl a’i e-bostio at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Ydych chi wedi manteisio ar eich gostyngiad hyfforddiant diogelwch fferm?

Mae Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf wedi ymuno â Lantra i ddod â chwrs e-ddysgu diogelwch fferm arbennig i gymunedau gwledig.

Yn 2020-21, lladdwyd 41 o bobl mewn amaethyddiaeth a chofnodwyd oddeutu 12,000 o anafiadau difrifol. Mae gan bob marwolaeth ac anaf ganlyniadau difrifol sy'n newid bywyd unigolion, teuluoedd, busnesau a chymunedau, ac mae modd osgoi bron pob un ohonynt.


Er mwyn helpu i fynd i'r afael â chyfraddau uchel o farwolaeth ac anafiadau difrifol, mae Lantra wedi gweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) i ddatblygu hyfforddiant sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch i bob ffermwr. Mae'r cwrs e-ddysgu Diogelwch Fferm newydd yn canolbwyntio ar achosion mwyaf cyffredin damweiniau fferm, megis:

  • Cwympo o uchder
  • Damweiniau a achosir gan gerbydau sy’n symud
  • Sathru gan wartheg
  • Cysylltiad gyda pheiriannau
  • Boddi a mygu

HCC yn lansio adnoddau addysgol i ddangos sut mae cig coch Cymru’n cael ei gynhyrchu

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio detholiad o adnoddau addysgol yn ddiweddar ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd.

Y bwriad yw bod yr adnoddau dwyieithog hyn yn cael eu defnyddio gan athrawon a gweithwyr iechyd proffesiynol, i helpu i ddangos sut mae cig coch yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, a’r buddiannau mae’n ei ddarparu o ran yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus.

Cafodd y cyflwyniadau, taflenni gwaith, fideos, posteri a llyfrynnau eu cynhyrchu drwy weithio gyda chyrff addysgol, i sicrhau eu bod yn berthnasol i gwricwlwm plant lefel sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 4 (TGAU).

Mae’n bwysig bod y genhedlaeth iau yn dysgu ble a sut mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu, a’u bod yn deall bod cig coch a gynhyrchir yng Nghymru’n fwy cynaliadwy o lawer na’r ffigurau a ddefnyddir ar raddfa fyd-eang.

Bydd yr adnoddau’n cael eu diweddaru’n barhaus i adlewyrchu newidiadau o fewn canllawiau iechyd ac addysg, ac maent ar gael i’w lawrlwytho am ddim yma: https://hwbcigcoch.cymru/

Llywodraeth Cymru’n lansio prosiect Amaethyddiaeth Mewn Amgylchedd a Reolir

Yn ddiweddar mae Llywodareth Cymru wedi lansio prosiect Amaethyddiaeth Mewn Amgylchedd a Reolir, sy’n anelu at gynyddu maint y bwyd a gynhyrchir yng Nghymru sy’n defnyddio technoleg newydd mewn ffordd sy’n gwneud cyfraniad positif tuag at daclo’r newid yn yr hinsawdd.

Bydd y prosiect yn cynorthwyo busnesau bwyd i ddefnyddio systemau megis hydroponeg, aeroponeg a ffermio fertigol, lle mae amodau tyfu megis dŵr a golau’n cael eu rheoli i sicrhau bod y cnwd yn tyfu gymaint â phosib.

Mi fydd hefyd yn cyfrannu at yr economi gylchol drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy.

Er bod ffrwythau a cnydau’n anodd eu tyfu yng Nghymru a bod y tir sy’n briodol ar gyfer defnydd o’r fath yn gyfyngedig, bydd y prosiect hwn yn caniatáu i gynhyrchwyr gynhyrchu mwy drwy ddulliau sy’n helpu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd.

Fodd bynnag, rhaid nodi mai un arf yn unig o blith llawer yw hwn ar gyfer cynnal a chynyddu maint y bwyd a gynhyrchir yng Nghymru, gan gyfrannu at yr ymdrech i liniaru’r newid yn yr hinsawdd a pharhau i gynnig sicrwydd bwyd.

Rhaglen Arloesi Porthiant Biomas BEIS

Mae Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiant y DU (BEIS) wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd £4 miliwn o’r gronfa arloesi sero net o £1 biliwn yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo sefydliadau i gynhyrchu mwy o borthiant biomas yn y DU.

Bydd cyfanswm o 24 o brosiectau’n derbyn cyllid o hyd at £200,000 yr un i gynyhyrchu mwy o biomas er mwyn creu mwy o ynni gwyrdd, menter a gydnabyddir gan Lywodraeth y DU fel rhan o’r ateb o ran taclo’r newid yn yr hinsawdd.

Gellir hefyd defnyddio deunyddiau biomas megis glaswellt, cywarch, gwastraff coed a gwymon i greu cemegau a bio-blastigau.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn £160,000 ar gyfer ei phrosiect Miscanspeed, sy’n edrych ar ffyrdd gwell o dyfu Miscanthus neu Hesg Eliffant toreithiog a gwydn sy’n addas ar gyfer cynhyrchu biomas yn y DU.

Gobeithir y bydd y strategaeth hon yn lleihau’r galw am gynnyrch biomas wedi’i fewnforio, ac y bydd y 24 o brosiectau’n cefnogi economïau a swyddi lleol.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Medi 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Grant Busnes i Ffermydd

Bydd cyfnod newydd ar gyfer datgan diddordeb ar gyfer Grant Busnes i Ffermydd yn agor ar 1 Medi 2021 gyda chyllideb o £2 filiwn o'r cronfeydd Cynllun Datblygu Gwledig sy'n weddill.

Bydd ffermwyr yn gallu derbyn cefnogaeth i fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd i wella perfformiad y fferm.
 
Gofynnir i ymgeiswyr sicrhau bod yr eitemau ar gael o hyd i’w prynu o fewn 120 diwrnod os cynigir contract. Os nad ydynt, dylid cysylltu ag RPW i drafod y mater cyn derbyn y contract.

Bydd angen prynu’r holl eitemau erbyn diwedd Mawrth 2022.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://llyw.cymru/grant-busnes-i-ffermydd
1 Hydref 2021

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 
Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio Mae Cyswllt Ffermio nawr yn cynnig cyrsiau hyfforddiant TGCh i ddechreuwyr a dysgwyr canolradd.

Mae sesiynau un i un a gweithdai ar-lein ar gael hefyd ar integreiddio technoleg TGCh i’ch busnes fferm.

I archebu, cysylltwch â Lantra ar 01982 552646 neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
 


Ffenestr Cais am Hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Bydd ffenestr nesaf gwneud cais am hyfforddiant Cyswllt Ffermio’n agor ar 6ed Medi ac yn cau ar 29ain Hydref 2021.

Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu sydd angen diweddaru eu manylion cyfrif, gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ar 25ain Hydref 2021.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan ar wefan Cyswllt Ffermio: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy

29ain Hydref 2021

Y Llywodraethau’n cyhoeddi rheolau symud anifeiliaid llymach a gwaharddiad ar allforion byw

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar 18fed Awst y byddai’r rheolau o ran symud anifeiliaid yn cael eu tynhau’n sylweddol, serch bod y safonau mewn gwledydd eraill yn is o lawer na’r hyn sydd eisoes yn ofynnol yn y DU. Roedd y cyhoeddiad hefyd yn cadarnhau y byddai’r cynigion newydd yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw i’w lladd.

Mae hyn yn dod wythnosau ar ôl i’r DU gytuno ar gytundeb masnach mewn egwyddor gydag Awstralia, a fydd yn caniatáu mewnforio meintiau enfawr o fwyd a gynhyrchwyd o anifeiliaid sy’n cael eu symud dan amodau sydd eisoes yn gwbl anghyfreithlon yn y DU.

Addawodd maniffesto 2019 y Ceidwadwyr “in all of our trade negotiations, we will not compromise on our high environmental protection, animal welfare and food standards,” ond dewisodd Llywodraeth y DU beidio â chynnwys y safonau hynny yn Neddf Amaethyddiaeth 2020, nac yn nhrafodaethau’r cytundeb masnach diweddar ag Awstralia, gan gytuno i gynnydd enfawr o ran mynediad di-dariff i gig eidion a chig oen o Awtralia, heb fawr ddim sicrwydd o ran safonau lles.

UAC i drafod manteision ac anfanteision cwotâu masnachu carbon

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi trefnu i drafod manteision ac anfanteision cyfyngu ar nifer y credydau carbon y gellir eu gwerthu o dir Cymru, cwotâu masnachu carbon, a dulliau eraill y gellid eu defnyddio yng Nghymru.

Yn ystod cyfarfod diweddar o Bwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol UAC, mynegodd yr aelodau bryder difrifol y gallai cyfran fawr o’r carbon sydd wedi’i ddal a’i storio yn nhir Cymru gael ei werthu i wledydd eraill a chwmnïau tu allan i Gymru, gan danseilio gallu amaethyddiaeth yng Nghymru, a hyd yn oed Cymru gyfan,i fod yn garbon niwtral.

Hefyd, cyfeiriodd yr aelodau at y pryderon presennol bod ffermydd yng Nghymru’n cael eu prynu gan gwmniau o’r tu allan i Gymru, er mwyn elwa ar garbon Cymru. Cafodd pryderon o’r fath sylw’n ddiweddar mewn adroddiad gan y BBC, a ddatgelodd fod dwsin o ffermydd wedi’u prynu yng Nghanolbarth Cymru gan gwmnïau o’r tu allan i’r wlad, a oedd yn bwriadu plannu coed ar y tir yn bennaf.

Cytunodd y pwyllgor y dylid cyflwyno system gwota i leihau’r perygl hwn, a chytunwyd y dylai Cadeiryddion holl Bwyllgorau UAC a’r Tîm Llywyddol gynnal trafodaeth fanwl ar fanteision ac anfanteision cyfyngiadau o’r fath, mewn cyfarfod dilynol o Dîm Polisi Llywyddol UAC.

Pwyllgor Iechyd a Lles UAC yn ymateb i Ymgynghoriad Safonau FAWL

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) gyfarfod brys ar 28ain Gorffennaf 2021 i drafod a llunio ymateb i ymgynghoriad Safonau Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) 2021.

Roedd yn ymgynghoriad yn cynnig gwneud hi’n orfodol i filfeddygon gofnodi data defnydd o wrthfiotigau drwy gyfrwng cyfrifiannell ar-lein, ynghyd â safonau amgylcheddol llymach, i enwi ond ychydig.

Gwnaeth UAC hi’n glir nad oedd pedair wythnos, yn ystod un o’r adegau prysuraf o’r flwyddyn yn y calendr ffermio, yn hanner digon o amser i ddeuddeg Pwyllgor Gweithredol Sirol yr Undeb drafod y cynigion a llunio ymateb llawn a democrataidd, ac felly gwnaeth gais i ymestyn y dyddiad cau.

Mae mwyafrif y cynhyrchwyr cig oen a chig eidion yng Nghymru â gwarant FAWL, ac er ei fod yn gynllun gwirfoddol i lawer, mae’n orfodol ar gyfer cytundebau llaeth y rhan fwyaf o ffermwyr llaeth, ac felly mae angen rhoi ystyriaeth deilwng i bwysigrwydd newidiadau i safonau o’r fath.

Roedd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid UAC yn cefnogi’r syniad o gasglu data defnydd o wrthfiotigau, er mwyn cynhyrchu llinell sylfaen genedlaethol o’r defnydd o wrthfiotigau, i ffermwyr da byw yng Nghymru ei defnyddio fel meincnod, ac er mwyn i’r diwydiant ddangos sut mae’n ymdrechu i leihau defnydd o wrthfiotigau.

UAC yn pwysleisio pwysigrwydd lladd-dai bach mewn ymateb i ymgynghoriad yr ASB

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi pwysleisio pwysigrwydd cefnogi lladd-dai bach a chanolig mewn ymateb i ymgynghoriad rhanddeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gynigion cynnar ar gyfer model cyflenwi yn y dyfodol.

Mae’r ymgynghoriad yn gosod cynigion o ran sut y dylai model cyflenwi’r dyfodol symud i ffwrdd o’r dull safonedig presennol, a thuag at ffordd o weithio sydd wedi’i moderneiddio a’i thargedu i wella dulliau o gydymffurfio a dosbarthu adnoddau.

Roedd UAC o blaid y cynigion o ran presenoldeb wedi’i deilwra ar gyfer Gweithredwyr Busnes Bwyd gyda lefelau amrywiol o gydymffurfio, gwahanol reolau ar gyfer cyflenwyr marchnadoedd domestig a/neu farchnadoedd allforio, a chasglu data mwy cywir. Serch hynny, roedd pryder o hyd ynghylch sut y gallai newidiadau o’r fath effeithio ar ddiogelwch bwyd, a chynyddu costau i Weithredwyr Busnes Bwyd bach a chanolig.

Yn ôl adroddiad diweddar gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Les Anifeiliaid roedd yna 30,000 o ladd-dai yn y DU yn 1930, ond erbyn 2017 dim ond 249 oedd ar gael, ac roedd 56 o’r rheiny’n lladd-dai cig coch bach.

Gwlân Prydain yn lansio cynllun olrhain gwlân

Mewn ymdrech i gynnig taliad premiwm i gynhyrchwyr gwlân y DU, mae Gwlân Prydain wedi lansio menter yn ddiweddar sy’n anelu at olrhain y gwlân o gât y fferm hyd at y cynnyrch terfynol.

Yn sgil cau marchnadoedd gwlân ar draws y byd oherwydd pandemig Covid-19, gadawyd Gwlân Prydain gyda thua 7 miliwn cilogram o stoc heb ei werthu, o gyfanswm cneifiad o 27 miliwn cilogram yn 2019/20. Roedd hyn yn golygu bod cynhyrchwyr yn derbyn tâl cyfartalog o 17 ceiniog y cilogram am gneifiad tymor 2019/20, tua 70% yn is a’r tâl a gafwyd yn 2019.

Er bod Gwlân Prydain wedi llwyddo i glirio pentwr stoc y llynedd a bod y prisiau felly wedi dechrau codi eto, ni ddisgwylir i brisiau ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig tan 2022.

Bydd y cynllun olrhain gwlân newydd yn caniatáu i ddefnyddwyr ddeall y broses sy’n rhaid i wlân fynd trwyddi cyn cyrraedd y silffoedd, ond bydd hefyd yn cynhyrchu pris premiwm ar gyfer cynhyrchwyr cymwys, ac yn helpu i adfer prisiau gwlân yn dilyn pandemig Covid-19.

Rhagwelir y bydd dros hanner miliwn o gilogramau o wlân y gellir ei olrhain yn cael ei werthu yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, gan gynnwys i Devon Duvets a Harrison Spinks, a hynny o dri o ddepos mwyaf Gwlân Prydain, sef Bradford, Y Drenewydd a South Molton.

Crynodeb o newyddion Awst 2021

i) Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer tail organig yn Lloegr

Mewn ymdrech i roi mwy o amser i ffermwyr yn Lloegr i addasu i’r ‘Farming Rules for Water’ a gyflwynir yn 2022, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi Datganiad o’r Sefyllfa Reoleiddiol (RPS) 252, sy’n gosod canllawiau llym ar gyfer gwasgaru tail organig.

Er y bydd ffermwyr yn cael gwasgaru tail organig tu hwnt i anghenion uniongyrchol y cnwd, ond nid tu hwnt i anghenion y cylchdro cnwd cyfan, bydd gofyn iddynt ddangos mai gwasgaru yw’r unig opsiwn gwaredu sydd ar gael.

O 1af Mawrth 2022, bydd yr eithriadau hyn yn dod i ben ac ni chaniateir gwasgaru tail os yw’n mynd tu hwnt i anghenion y cnwd, neu os yw’n creu perygl difrifol o lygru dŵr.

ii) Ffermwyr yn Lloegr yn amheus o’r Cynllun Creu Coetir newydd

Mae’r Cynllun Creu Coetir newydd yn Lloegr (EWCO) wedi derbyn tua £16 miliwn o gyllid i annog ffermwyr a rheolwyr tir i blannu mwy o goed a chwrdd â thargedau Llywodraeth y DU.

Fodd bynnag, yn ôl pôl piniwn a gynhaliwyd gan y Fforwm Ffermio byddai 59% o’r ymatebwyr yn amheus o unrhyw gynllun plannu coed gan y Llywodraeth. Ymddengys mai nod y cynllun yw creu planhigfeydd coedwigaeth mawr heb roi ystyriaeth i newidiadau yng ngwerth y tir, cyfyngiadau ar droi tir yn ôl yn laswelltir, neu fentrau plannu coed eraill megis agro-goedwigaeth.

iii) Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yn ennill statws Dynodiad Daearyddol (GI)

Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yw cynnyrch bwyd cyntaf y DU i ennill statws gwarchodedig drwy’r cynllun Dynodiad Daearyddol (GI) newydd, a gyflwynwyd ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben.

Bydd cael cydnabyddiaeth fel cynnyrch Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) yn caniatáu i gynhyrchwyr cig oen ar Benrhyn Gŵyr i arddangos a gwarchod arferion amaethyddol traddodiadol a nodweddion unigryw'r cig.

Erbyn hyn mae cyfanswm o 17 cynnyrch GI gwarchodedig yng Nghymru.

Diweddariad ar werthoedd yr Hawliad BPS a Chytundebau Glastir

Mae gwerth yr hawliad BPS ar gyfer 2021 yn £116.86, ac ymddengys ei fod felly tua 4% (£5.30) yn is na chyfanswm cyfun y gwerthoedd BPS a’r taliadau gwyrdd ar gyfer 2020, oedd yn £122.16.

Yn dilyn sicrwydd blaenorol y byddai cyllideb y BPS ar gyfer 2021 yn darparu’r un lefel o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2021 ag a ddarparwyd yn 2020, mi nath UAC gofyn i RPW egluro pam fod gwerth yr hawliad yn is na’r disgwyl.

Mewn ymateb, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi egluro "Mewn blynyddoedd blaenorol, cyfrifwyd y taliad Gwyrddu a ddyrannwyd i bob hawlydd cymwys yn seiliedig ar yr hawliau wedi’i actifadu mewn blwyddyn gynllun penodol. Ar gyfer 2021 mae'r gyllideb Wyrddio flaenorol wedi'i hymgorffori'n llawn yng nghyllideb hawliau BPS, fodd bynnag, mae gwerth y gyllideb Gwyrddu wedi'i ddosbarthu ar hyn o bryd ar draws yr holl hawliau sydd ar ein cofrestr, ac nid dim ond y rhai sydd wedi'u hactifadu yn unig."

“Cyn gwneud taliadau BPS 2021 byddwn yn ystyried yr holl hawliau a ddelir nad ydynt wedi'i hawlio, ynghyd â gwerth y Gronfa Genedlaethol sydd heb ei hawlio a byddwn yn cynyddu gwerth yr hawliau wedi’i actifadu. Yna bydd hawlwyr BPS 2021 yn gweld gwerth eu hawliau'n cynyddu a thaliad BPS yn unol â'r hyn a dderbyniwyd ar gyfer 2020."

Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys y taliad wedi’i ailddosbarthu a delir ar 54 hectar cyntaf unrhyw hawliad.

Cafodd y mater o ymestyn cytundebau Glastir ei gynnwys mewn papur cynigion polisi a anfonwyd yn ddiweddar at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, mewn perthynas â Chynllun Datblygu Gwledig Cymru a ariannir yn ddomestig.

Diwygio Safonau Tractor Coch Fersiwn 5

Yn dilyn ymgynghoriad yn gynharach eleni, mae’r cynllun Tractor Coch wedi diwygio Safonau Fersiwn 5 ar gyfer y pum sector gwahanol.

Mae mwyafrif y safonau amgylcheddol arfaethedig wedi’u cadw’n ôl am y tro nes daw’r ddeddfwriaeth derfynol ar ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru a Lloegr.

Bydd angen storio gwrtaith nitrogen yn ddiogel ac o’r golwg, yn hytrach na’i gloi dan do fel y cynigiwyd yn wreiddiol, a bydd gofyn i gynhyrchwyr gadw cofnod o’r cyfrifiadau stori slyri diweddaraf.

Yn nhermau personél, bydd yn ofynnol i staff newydd gael sesiwn sefydlu, a bydd angen cadw cofnod o hynny, gan gynnwys esboniad o’r polisïau iechyd a diogelwch, a’r llinellau adrodd mewn perthynas â rheoli. Hefyd, bydd angen i bob fferm gael polisi iechyd a diogelwch.

Mae’r safonau personél ac amgylcheddol na chafwyd eu cynnwys yn safonau diwygiedig Fersiwn 5 wedi dod yn safonau ‘modiwlaidd’, a fydd yn caniatáu i’r cynhyrchydd a phroseswr neu brynwr y llaeth i gytuno ar y rhai maent am eu cynnwys fel rhan o’u sicrwydd fferm

O ran meddyginiaethau anifeiliaid, bydd gofyn i un aelod staff ymgymryd ag hyfforddiant meddyginiaethau anifeiliaid, a dylid nodi hynny yn y cofnodion hyfforddiant fferm, ond gellir ei ‘sianelu’ i aelodau staff eraill, gan gadw cofnod o hynny.