Crynodeb o Newyddion Medi 2021

i) Y diwydiant yn croesawu’r bwriad i godi gwaharddiad cig oen yr Unol Daleithiau

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu’r newyddion y bydd y gwaharddiad hirdymor ar fewnforio cig oen Cymru i’r Unol Daleithiau’n cael ei godi’n fuan. Gwnaed y cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU, Boris Johnson Ddydd Mercher 22 Medi.

Mae UAC wedi hen drafod y posibilrwydd o godi’r gwaharddiad digyfiawnhad hwn gydag Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) mewn cyfarfodydd gwahanol dros y degawdau diwethaf. Mae Hybu Cig Cymru wedi nodi y bydd gwerth amcangyfrifol y farchnad bosib ar gyfer Cig Oen Cymreig gyda Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (GPI) yn yr Unol Daleithiau gymaint ag £20 miliwn y flwyddyn, o fewn pum mlynedd o godi’r gwaharddiadau allforio.

Nawr yn fwy nag erioed mae’n bwysig archwilio marchnadoedd allforio eraill, gan warchod marchnadoedd hirsefydlog yn Ewrop ar yr un pryd. Mae’r newyddion y gallai’r gwaharddiad hwn gael ei godi’n fuan yn un a groesewir yn frwd gan ddiwydiant defaid y DU.

ii) Allforion caws y DU i fyny 17 y cant

Mae ffigurau diweddaraf CThEM yn awgrymu bod y DU wedi allforio cyfanswm o 2,300 tunnell o gaws yn ystod tri mis cyntaf 2021, sef cynnydd o 17 y cant ar 2020.

Er bod Brexit wedi amharu ar allforion caws i’r UE, cynyddodd yr allforion i Seland Newydd, Awstralia a De Korea o 26, 3 a thros 200 y cant, yn y drefn honno, yn ystod y chwarter cyntaf.

Fodd bynnag, gostyngodd cyfanswm allforion cynnyrch llaeth y DU yn ystod yr un cyfnod o’i gymharu â 2020, yn sgil y galw uchel ymhlith defnyddwyr cartref, a’r ffaith bod safleoedd gwasanaeth bwyd wedi cau ar y cyfandir.

iii) Llywodraeth y DU yn bwriadu cefnogi allforion bwyd

Yn dilyn cyhoeddiad ar Ddiwrnod Cefnogi Ffermio ym Mhrydain 2021, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cefnogi busnesau sy’n allforio bwyd a diod o’r DU drwy fenter newydd, sydd i’w lansio’n ddiweddarach eleni.

Bydd y fenter yn cynnwys penodi cynrychiolwyr bwyd-amaeth, i weithio tuag at sicrhau mynediad i farchnadoedd allforio newydd, sefydlu Cyngor Allforio Bwyd a Diod i weithio ar y strategaeth fewnforio ochr yn ochr â’r gwledydd cartref, ac ymgysylltu â ffermwyr a chynhyrchwyr i sicrhau eu bod yn elwa o gyfleoedd marchnata newydd.