Cyhoeddi Adroddiad Ymwrthedd i Wrthfiotigau a Chadw Golwg ar Werthiant Milfeddygol y DU

Cyhoeddwyd Adroddiad Ymwrthedd i Wrthfiotigau a Chadw Golwg ar Werthiant Milfeddygol y DU 2020 (UK-VARSS 2020) yn ddiweddar, sy’n dangos lefel gyson neu leihad bach yn y defnydd o wrthfiotigau ar draws nifer o sectorau.

Mae adroddiad Tasglu Targedau Cynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaethau Mewn Amaethyddiaeth (RUMA), a gyhoeddwyd y llynedd, yn amlinellu tri uchelgais newydd, sef; 1) cynnal y gostyngiad sylweddol a sicrhawyd eisoes, 2) dal ati i sicrhau gostyngiad sylweddol pellach, a 3) bod y rhai sydd angen lleihau eu defnydd gwrthficrobaidd ymhellach yn deall y defnydd yn eu sectorau.

Ers 2014, mae adroddiadau VARSS wedi dangos sut mae data ar werthiant gwrthfiotigau, a defnydd ohonynt ar ffermydd, wedi helpu i ddangos tueddiadau a llunio camau gweithredu.

Mae prif bwyntiau adroddiad eleni fel a ganlyn:

  • Llwyddwyd i gynnal yr un lefel o ostyngiadau sylweddol a sicrhawyd o ran gwerthiant gwrthfiotigau milfeddygol dros y blynyddoedd diwethaf yn ystod 2020, gyda newid bach (gostyngiad o 1%), ers 2019, i 30.1 mg/kg. Dyma’r ffigur ail-isaf a gofnodwyd gan y DU eioed ar gyfer gwerthiant o wrthfiotigau milfeddygol ac mae’n cynrychioli gostyngiad o 52% ers 2014.
  • Mae diwydiant da byw y DU wedi dal ati i weithio ar y cyd i leihau defnydd o Wrthfiotigau Hollbwysig â Blaenoriaeth Uchel (HP-CIA), sydd erbyn hyn wedi gostwng o 79% ar draws anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ers 2014. Mae defnydd o wrthfiotigau HP-CIA yn cyfrif am 0.5% yn unig o’r holl wrthfiotigau milfeddygol a werthir.
  • Yn 2020, lleihaodd y sectorau moch, ieir, tyrcwn ac adar hela eu defnydd o wrthfiotigau.
  • Dangosodd canlyniadau’r rhaglen Monitro Wedi’i Gysoni ar gyfer AMR duedd ar i lawr o ran ymwrthedd o fewn dangosyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae yna duedd ar i lawr hefyd o ran bacteria sy’n cario genau sy’n ymwrthod â gwrthfiotigau hollbwysig mewn meddyginiaeth ddynol. Mae’r gostyngiadau sylweddol a sicrhawyd o ran defnydd o wrthfiotigau yn y sectorau da byw a’r proffesiwn milfeddygol yn debygol o fod yn gyfrifol am y lefelau is o ymwrthedd a welwn.

    Mae Adroddiad UK-VARSS 2020, ynghyd â’r Adroddiad Deunydd Atodol a Phrif Bwyntiau i’w gweld yma: https://www.gov.uk/government/publications/veterinary-antimicrobial-resistance-and-sales-surveillance-2020