Newidiadau ar droed o ran defnydd o ddiesel coch yn Ebrill 2022

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno newidiadau deddfwriaethol, drwy Fil Cyllid 2021, i gyfyngu ar y defnydd o ddiesel coch a biodanwyddau rhatach o Ebrill 2022, i’w helpu i gwrdd â’i thargedau newid hinsawdd ac aer glân.

Bydd y defnydd o ddiesel coch yn cael ei ganiatáu o hyd ar gyfer amaethyddiaeth, garddwriaeth, ffermio pysgod, a choedwigaeth, gan gynnwys torri cloddiau a gwrychoedd, clirio eira a graeanu ffyrdd. Mae rhestr lawn o ddefnyddiau cymwys ar gael ar wefan Llywodraeth y DU yma.

Fodd bynnag, mae Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol (NAAC) wedi rhybuddio ffermwyr sy’n defnyddio offer ar gyfer gwaith anamaethyddol, gan gynnwys adeiladu, i fod yn ymwybodol o‘r rheolau newydd.

Mae NAAC hefyd am gael eglurder ar sut i gael gwared yn effeithlon â phob mymryn o ddiesel coch o danciau a hidlyddion er mwyn cydymffurfio. Os bydd cerbyd yn cael ei drethu at ddibenion amaethyddol, yna ni ddylai fod angen cwestiynu a yw‘n rhedeg ar ddiesel coch neu ddiesel gwyn.

O ystyried bod pris diesel gwyn oddeutu dwbl pris diesel coch, bydd y newidadau hyn yn anorfod yn golygu na fydd ffermwyr sy’n gwneud gwaith anamaethyddol yn gallu cystadlu o fewn marchnadoedd o’r fath bellach.