Arolwg Ffermio Mawr RABI yn datgelu ystadegau brawychus

Mae’r Sefydliad Amaethyddol Brenhinol Llesiannol (RABI) wedi cyhoeddi canlyniadau ei Arolwg Ffermio Mawr, sef y prosiect ymchwil mwyaf erioed yng Nghymru a Lloegr yn ymwneud â lles pobl sy’n ffermio.

Cynhaliwyd yr arolwg rhwng Ionawr a Mawrth 2021 ac roedd yr amcanion fel â ganlyn:

  • Deall llesiant cenhedlaeth o ffermwyr
  • Deall iechyd ein ffermwyr a’u busnesau
  • Deall mwy am effeithiau a phwysau o’r tu allan
  • Siapio cymorth a gwasanaethau’r dyfodol

Er bod dros 50% o’r 15,000 a mwy o bobl a ymatebodd i’r arolwg yn parhau i fod yn optimistaidd am ddyfodol eu busnesau ffermio, canfu’r arolwg:

  1. Bod 36% o’r gymuned ffermio’n debygol o ddioddef, neu o bosib yn dioddef o iselder
  2. Bod dros hanner y merched (58%) yn dioddef o orbryder i raddau bach, canolig neu ddifrifol
  3. Bod chwe ffactor, ar gyfartaledd, yn achosi straen ledled y gymuned ffermio. Y ffynonellau straen mwyaf cyffredin yw: rheoleiddio, cydymffurfio ac archwiliadau, Covid-19, tywydd garw/ansefydlog, colli cymorthdaliadau/cytundeb masnach yn y dyfodol
  4. Mae dros hanner (52%) y gymuned ffermio’n dioddef poen ac anghysur, mae gan un o bob pedwar broblemau symudedd, ac mae 21% yn cael trafferth cyflawni tasgau arferol oherwydd problemau iechyd
  5. Roedd 59% o’r ymatebwyr yn credu y byddai eu busnes yn goroesi dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd y canlyniadau brawychus hyn, sy’n dangos pwysigrwydd darparu cymorth iechyd meddwl, yn cael eu defnyddio gan RABI ac elusennau iechyd meddwl eraill y gymuned ffermio i helpu i siapio gwasanaethau’r dyfodol.

Mae RABI wedi cadarnhau ei fwriad i lansio gwasanaeth hyfforddi cymorth cyntaf iechyd meddwl sydd wedi’i deilwra ar gyfer y gymuned ffermio, i sicrhau mynediad i gymorth iechyd meddwl wyneb yn wyneb, a threialu menter Hoelion Wyth y Gymuned RABI ymhellach.

Gwnaeth UAC ymrwymiad yn Sioe Frenhinol Cymru 2017 i ddal ati i roi sylw i faterion iechyd meddwl tra’u bod yn parhau i fod yn broblem o fewn cymunedau gefn gwlad, a bydd yn parhau i gefnogi elsusennau fel RABI i ddarparu cymorth o’r fath.


Cynhaliodd UAC weminar rithwir ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2021 yn dwyn y teitl ‘Iechyd Meddwl – sut wyt ti?’ i drafod sut mae elusennau iechyd meddwl gwledig wedi helpu yn ystod pandemig Covid-19, pa help sydd ei angen arnynt i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl, ac i archwilio beth all unigolion ei wneud i gadw’n feddyliol iach.