Cynllun | Crynodeb | Ffenestr yn Cau | ||
Apwyntiadau SAF 2022 |
Mae UAC yn atgoffa’i haelodau mai’r dyddiad olaf ar gyfer llenwi eu Ffurflenni Cais Sengl (SAF) heb gosb yw 16eg Mai. Mae UAC yn annog ei haelodau a’r rheiny sy’n llenwi’r ffurflen am y tro cyntaf i gysylltu â’u swyddfa leol cyn gynted â phosib i drefnu apwyntiad os oes angen help arnynt i lenwi’r ffurflen. |
16eg Mai 2022 | ||
Trosglwyddo Hawliau BPS |
Mae’r hysbysiad ynghylch trosglwyddo hawliau 2022 ar gael ar RPW Ar-lein. Rhaid hysbysu RPW erbyn 15 Mai 2022 er mwyn i’r derbynnydd wneud cais am hawliau mae’n eu derbyn ar gyfer blwyddyn 2022 y cynllun BPS. Mae croeso i aelodau UAC gysylltu â’u Swyddfa Sirol am gymorth. |
15fed Mai 2022 | ||
Ffenestr Cais am Hyfforddiant Cyswllt Ffermio |
Bydd y ffenestr gais nesaf am hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn agor ar Ddydd Llun 2il Mai ac yn cau ar Ddydd Gwener 27ain Mai.
Am restr lawn o gyrsiau a/neu gymorth i ymgeisio, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Ceir mwy o wybodaeth yma. |
2il – 27ain Mai 2022 | ||
Cynllun Datblygu Garddwriaeth |
Mae’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru. Mae’r gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr gais hon yn £1.5 miliwn. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-llyfryn-rheolau https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-gan-defnyddio-rpw-ar-lein-i-wneud-cais |
27ain Mai 2022 | ||
Cynllun Cynllunio Creu Coetir |
Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd. Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu coed. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-cynllunio-creu-coetir Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd. Bydd y cynllun ar agor trwy’r flwyddyn (yn amodol ar gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos. Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar gyllideb). |
|||
Cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru |
Mae’r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd o fewn cartrefi a busnesau yng Nghymru. Cyn gwneud cais, ewch i wiriwr cyfeiriadau Openreach i weld a oes gennych chi fynediad at gysylltedd band eang cyflym yn barod. Bydd y swm a ddyrannir yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma. |
Cafodd cynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) gyfarfod adeiladol â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd Lesley Griffiths i dynnu sylw at, a thrafod y camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru effeithiau rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin.
Ysgrifennodd UAC at y Gweinidog ar 4ydd Mawrth yn tynnu sylw at effeithiau’r rhyfel ac yn gofyn am drefnu cyfarfod bwrdd crwn brys gyda rhanddeiliaid.
Mae’r rhyfel yn cael, a bydd yn parhau i gael effaith fawr ar gadwyni cyflenwi bwyd y DU a chostau mewnbwn. Mae’r DU yn dibynnu’n drwm ar Wcráin a Rwsia am oddeutu tri deg y cant o’i india-corn, yn ogystal â nifer o gynhwysion eraill a ddefnyddir mewn bwydydd anifeiliaid, ac mae gwrtaith erbyn hyn yn costio tua mil o bunnau’r dunnell.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi disgrifio agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddiogelu’r cyflenwad bwyd ac amaethyddiaeth fel un ddi-hid mewn ymateb i’r cyhoeddiad bod cytundeb masnach rydd wedi’i arwyddo â Seland Newydd.
Mae ffermwyr yn teimlo’n ddig iawn bod Llywodraeth y DU wrthi’n ffurfio cytundebau masnach a fydd, yn ôl yr hyn mae ei ffigurau ei hun yn cadarnhau, yn niweidiol i sectorau bwyd a ffermio’r DU, ac yn tanseilio diogelwch y cyflenwad bwyd.
Does dim angen edrych yn bellach na’r hyn sy’n digwydd yn Wcráin, a’r effaith ar gyflenwadau nwy a thanwydd, i weld pa mor gyflym y gall pethau newid ar y llwyfan rhyngwladol, ac eto mae polisi masnach Llywodraeth y DU yn mynd ati’n ddi-hid i danseilio diogelwch ein cyflenwad bwyd, drwy symud y ddibyniaeth i wledydd sydd ddegau o filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ardrethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar, pwysleisiodd UAC y dylai’r effeithiau sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi gael eu hystyried fel mater ar gyfer y gymuned amaethyddol ledled Cymru, o ystyried bod 80 y cant o holl dir amaethyddol Cymru wedi’i leoli yn y saith sir sy’n cynnwys dwy ran o dair o’r holl ail gartrefi.
Cynigiodd yr Undeb y dylid cynyddu cyfanswm premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi fesul tipyn er mwyn gallu monitro’r canlyniadau o flwyddyn i flwyddyn, a bod llety hunanddarpar ar gael am 280 o ddiwrnodau yn hytrach na 140, i’w osod am o leiaf 140 o ddiwrnodau, yn hytrach na 70, yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis, i fod yn gymwys i hawlio ardrethi busnes.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd y lefel uchaf ar gyfer premiymau Awdurdodau Lleol ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir yn codi i 300% yn Ebrill 2023.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu agweddau o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ond mae’n rhybuddio bod yn rhaid iddynt fod yn rhai y gellir eu gorfodi.
Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1987 i gynnwys tri dosbarth defnydd gwahanol ar gyfer prif gartrefi, ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ynghyd â newidiadau dilynol i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1995 a’r ddeddfwriath sylfaenol ar sut a phryd y dylai caniatâd cynllunio fod yn ofynnol.
Mynegodd UAC ei chefnogaeth i dri argymhelliad mewn perthynas â’r polisi cynllunio o’r adroddiad ‘Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’ y llynedd. Felly, mae’n croesawu’r ffaith bod y tri argymhelliad yn cael eu hystyried.
i) Llywodraeth Cymru i sefydlu Gweithgor Tenantiaeth yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn sefydlu Gweithgor Tenantiaeth yng Nghymru i archwilio materion a rhwystrau y mae’r sector ffermio tenant yn debygol o’u hwynebu yn ystod cyfnod pontio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Disgwylir y bydd y grŵp newydd yn cael ei greu yn dilyn cyhoeddi amlinelliad o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Ngorffennaf 2022.
ii) Chile yn agor ei drysau i fewnforion porc o’r DU
Mae 27 o safleoedd prosesu porc y DU wedi cael y golau gwyrdd i ddechrau allforio’n fasnachol i Chile, fel rhan o gytundeb newydd y rhagamcanir y bydd yn werth tua £4 miliwn y flwyddyn am y pum mlynedd cyntaf.
Mae’r cytundeb yn sicrhau tariffau Gwlad a Ffefrir Fwyaf o 6% yn unol â rhai amodau.
iii) Llywodraeth y DU yn cyflwyno tariffau ar fewnforion bwyd o Rwsia
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno tariff o 35% ar gannoedd o nwyddau o Rwsia, gan gynnwys bwyd môr, un o’i heconomïau mwyaf.
Rwsia sy’n gyfrifol am dros 40% o’r pysgod gwyn a gynhyrchir yn fyd-eang ac mae’n gyfrifol am dros 30% o benfras yr Iwerydd, a 25% o’r hadog a gynhyrchir yn fyd-eang.
Mae Llywodraeth Cymru a Defra wedi comisiynu prosiect ymchwil cymdeithasol i ddeall agweddau ffermwyr tuag at frechu gwartheg a moch daear yn erbyn TB yng Nghymru a Lloegr. Mae’r prosiect yn cael ei gynnal gan y Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymunedol (CCR) a Phrifysgol Caerdydd..
Maent yn cynnal nifer o weithdai ledled Cymru a Lloegr i gasglu barn ac adborth gan ffermwyr. Yng Nghymru, trefnwyd gweithdai ar y dyddiadau hyn:
- 23ain Mawrth – Sir Benfro (Gwesty Nant y Ffin , Llandysilio, Clunderwen) 12-2pm
- 31ain Mawrth - Dinbych (Marchnad Da Byw Rhuthun, Parc Glasdir, Rhuthun) 12-2pm
Gwneir rhodd ariannol o £20 i linell gymorth bTB newydd Rhwydwaith y Gymuned Ffermio am bob ffermwr sy’n mynychu (Gall cyfranogwyr hawlio’r arian tuag at gostau teithio, os dymunant).
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael – i gofrestru, cysylltwch â Holly Shearman (Gwasanaeth Cynghori TB) ar
Yng nghyllideb 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn diddymu’r hawl i ddefnyddio diesel coch yn y rhan fwyaf o sectorau o 1af Ebrill 2022. Nid yw hyn yn cynnwys y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, ffermio pysgod a rheilffyrdd, a’i ddefnydd ar gyfer gwresogi anfasnachol.
Mae hyn yn golygu y bydd ffermwyr a chontractwyr a hurir i wneud gwaith amaethyddol ar y tir yn parhau i allu defnyddio tanwydd rhatach yn y cerbydau a’r peiriannau a ddefnyddir at ddibenion cymwys o fewn y sector amaethyddol.
Mae dibenion cymwys o fewn y sector amaethyddol yn cynnwys bridio neu fagu unrhyw anifail a gedwir i gynhyrchu bwyd, gwlân, croen neu ffwr; tyfu neu gynaeafu cnydau; porthiant i gynhyrchu tanwydd; tyfu neu gynaeafu planhigion blodeuol neu addurniadol; tyfu neu gynaeafu coed neu gynnyrch coedwigaeth arall; a chynnal a chadw tir amaethyddol dan gynlluniau rheolaeth amgylcheddol.
Agorodd ffenestr bresennol y Cynllun Cynllunio Creu Coetir ar 28ain Chwefror 2022. Mae’r cynllun yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd.
Pan fydd cynllun wedi’i gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed. (Mae cyllid o £500,000 ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau a wneir erbyn 31ain Mawrth 2023).
Ceir mwy o wybodaeth yma: https://llyw.cymru/cynllun-cynllunio-creu-coetir
Mae gwasanaeth archwilio samplau o grafiadau croen defaid sy’n dangos arwyddion clinigol amheus o’r clafr ar gael tan 31ain Mawrth 2022.
Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a chynhelir y profion yn APHA Canolfan Ymchwil Milfeddygol Caerfyrddin. Dylid postio’r samplau o grafiadau croen i Ganolfan Ymchwil Milfeddygol Caerfyrddin drwy filfeddyg y ffermwr.
I fod yn gymwys ar gyfer y profion, rhaid cyflwyno holiadur epidemiolegol byr gyda’r samplau. Dylai milfeddygon lenwi’r holiadur hwn gyda’r ffermwyr wrth gasglu’r samplau.
Gellir cyflwyno samplau un ai gyda ffurflen Anifeiliaid Bach sy’n Cnoi Cnil, sydd ar gael ar y Porth Milfeddygon neu drwy’r Gwasanaeth Profi Clefydau Anifeiliaid.
Ar 1af Mawrth 2022, lansiwyd platfform hyfforddiant lles ar-lein, lle bydd gofyn i unrhyw un sy’n trin a thrafod moch i gwblhau cwrs hyfforddiant ar-lein fel rhan o safonau’r cynllun Tractor Coch.
Bydd disgwyl i aelodau’r cynllun Tractor Coch gwblhau’r modiwl hyfforddiant cyntaf, sef ‘Symud a Thrafod Moch’ cyn 31ain Awst 2022. Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’r 8,000 cyntaf sy’n cymryd rhan, neu am y 6 mis cyntaf, pa un bynnag a ddaw gyntaf, ac wedi hynny codir tâl o £10. Bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn derbyn tystysgrif ddigidol, y gellir ei chadw ar gyfer geirda ac archwiliadau yn y dyfodol.
Mae AHDB, Tractor Coch, y Gymdeithas Foch Genedlaethol, y Gymdeithas Milfeddygon Moch a’r Cyngor Iechyd a Lles Moch wedi gweithio ochr yn ochr â chynhyrchwyr moch i ddatblygu’r platfform hyfforddiant, i sicrhau hyfforddiant achrededig cyson ar gyfer y diwydiant.
Am wybodaeth bellach ar sut i gofrestru a chael mynediad at y platfform hyfforddiant cliciwch yma.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi lansio menter a elwir yn ‘Natur a Ni’, sy’n anelu at greu platfform a fydd yn caniatáu i bobl Cymru ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.
Hyd at ddiwedd Mai, gall unrhyw un yng Nghymru gymryd rhan a dweud eu dweud ar https://freshwater.eventscase.com/CY/Natureandus
Mae hyn yn cynnwys cwblhau arolwg Natur a Ni neu gymryd rhan yn un o’r digwyddiadau neu grwpiau ffocws ar-lein. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gobeithio y bydd hyn yn help i ddeall sut mae pobl yn teimlo am fyd natur, ac yn gwneud iddyn nhw feddwl am y newidiadau y gallwn eu mabwysiadu i warchod byd natur a’r amgylchedd.
Arolwg o ganfyddiadau defnyddwyr o ansawdd cig eidion a phriodoldeb system EUROP
Mae Megan Phillips, myfyriwr Busnes-Amaeth pedwaredd blwyddyn ym Mhrifysgol Harper Adams yn cynnal arolwg o ‘ganfyddiadau presennol defnyddwyr y DU o ansawdd cig eidion, ac a system dosbarthu carcasau EUROP yn briodol i gwrdd â gofynion defnyddwyr?’
Mae’r arolwg, sy’n cymryd llai na phum munud i’w gwblhau, ar gael yma:
https://harper-adams.onlinesurveys.ac.uk/consumer-perceptions-of-beef-meat-quality
Rheoli clefydau o fewn buchesi gwartheg y DU
Hoffai ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Nottingham a Warwick siarad â ffermwyr gwartheg yn y DU am reoli clefydau yn eu buchesi, ac maent yn chwilio am wirfoddolwyr a fydd yn cael eu talu i gymryd rhan mewn cyfweliad unigol ar-lein.
Bydd y cyfweliad yn para am awr ar y mwyaf a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn taleb gwerth £40 (o ddewis o siopau e.e. John Lewis, M&S) am eu hamser.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan ac ychwanegu’ch enw ar y rhestr recriwtio, cofrestrwch ar https://feed.warwick.ac.uk/research.html. Neu gallwch ebostio Naomi Prosser (
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu agweddau o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ond mae’n rhybuddio bod yn rhaid iddynt fod yn rhai y gellir eu gorfodi.
Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1987 i gynnwys tri dosbarth defnydd gwahanol ar gyfer prif gartrefi, ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ynghyd â newidiadau dilynol i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1995 a’r ddeddfwriath sylfaenol ar sut a phryd y dylai caniatâd cynllunio fod yn ofynnol.
Mynegodd UAC ei chefnogaeth i dri argymhelliad mewn perthynas â’r polisi cynllunio o’r adroddiad ‘Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’ y llynedd. Felly, mae’n croesawu’r ffaith bod y tri argymhelliad yn cael eu hystyried.
Mae UAC wedi mynegi gwrthwynebiad cryf i gynlluniau a allai gosbi ceidwaid gwartheg am ‘fethu â rhoi sylw’ i wybodaeth TB wrth brynu stoc, yn ei hymateb i ymgynghoriad diweddaraf Rhaglen Dileu TB Adnewyddedig.Llywodraeth Cymru.
Mi allai’r cynigion Masnachu Seiliedig ar Risg a geir o fewn yr ymgynghoriad olygu bod yna ‘oblygiadau’ i geidwaid gwartheg sy’n prynu stoc heb ystyried y ‘risgiau a amlygir’ yn yr wybodaeth TB a ddarperir yn y man gwerthu.
Er bod yr ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar gyfer gwybodaeth TB orfodol yn y man gwerthu, mae’n aneglur o hyd pa feini prawf fyddai’n cael eu defnyddio i bennu risg cymharol y stoc. Mae UAC yn annog gofal yn hyn o beth, oherwydd gall cynigion Masnachu Seiliedig ar Risg sydd heb eu datbygu’n iawn wneud hi’n hynod o anodd i brynwyr ffurfio barn wybodus wrth brynu stoc.
Mae diwydiant bwyd y DU yn parhau i wynebu trafferthion yn sgil rhwystrau allforio sy’n gysylltiedig â Brexit, a phroblemau gyda’r gadwyn gyflenwi a achoswyd yn bennaf gan bandemig Covid-19.
Mae’r cynnydd yn araf o hyd yn nhermau sefydlu Safleoedd Rheoli Ffiniau yn Sir Fôn a Sir Benfro. Er bod Safle Rheoli Ffiniau wedi’i gytuno ar gyfer Sir Fôn ym Mawrth 2021, mae’r gwaith adeiladu a threfnu i gael y safle’n barod i weithredu yn araf, tra bod y trafodaethau ar gyfer safle yn Sir Benfro dal ar y gweill.
Serch y trafodaethau cyfredol ynghylch sut i fynd i’r afael â materion Protocol Gogledd Iwerddon, mae Llywodraeth Iwerddon wedi datgelu bod y masnachu trawsffiniol rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon wedi cynyddu €2.8 biliwn yn 2021, gyda mewnforion i’r Weriniaeth o Ogledd Iwerddon i fyny 65%, i €3.9 biliwn, ac allforion o’r Weriniaeth i Ogledd Iwerddon i fyny 54%, i €3.7 biliwn.
Tra bod Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar newidiadau i drefniadau adnabod, cofrestru ac adrodd ar symudiadau da byw y llynedd, cyhoeddodd Gweinidog Iwerddon dros Amaeth, Bwyd a’r Môr, Charlie McConalogue y penderfyniad i gyflwyno Tagiau Adnabod Electronig (EID) gorfodol ar gyfer gwartheg yn Awst 2021.
Fel rhan o’r symudiad tuag at dagiau EID gorfodol yn Iwerddon, bydd pob set o dagiau gwartheg newydd gan gyflenwyr cymeradwy yn cynnwys tag EID gwyn.
O 1af Ionawr 2022, mae’n ofynnol bod pob cyflenwr tagiau gwartheg cymeradwy’n cyflenwi tag EID gyda phob archeb tagiau newydd. Bydd pob set o dagiau newydd yn cynnwys un tag EID ac un tag meinwe.
i) Cynnydd yn nifer y taliadau Glastir a wnaed yn gynnar
Talwyd dros 2,200 o hawiadau dan gynlluniau Glastir yn Ionawr 2022, sef 78% o’r holl hawliadau gwerth £26.2 miliwn i ffermwyr yng Nghymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, gwnaed hyn yn bosib yn sgil cyflwyno rhagdaliadau BPS ym mis Hydref y llynedd. Mae hyn yn rhan o’r £66.7 miliwn a glustnodwyd i ymestyn y cynlluniau Glastir tan Rhagfyr 2023.
ii) Iceland yn ymrwymo i rewi prisiau 60 o eitemau tan ddiwedd y flwyddyn
Mae’r manwerthwr mawr, Iceland, wedi ail-ddatgan ei ymrwymiad i rewi prisiau dros 60 o’i nwyddau gwerth gorau hyd at ddiwedd 2022.
Credir y bydd yr holl fanwerthwyr yn gorfod codi eu prisiau, ond bydd yr holl nwyddau rhewedig a werthir gan Iceland am £1 yn aros felly, er nad oes cap ar brisiau ynni busnesau, ac er gwaetha’r cynnydd ym mhris nwyddau, cludiant a llafur.
iii) Tesco’n disgwyl i brisiau’r archfarchnad godi 5%
Mae Cadeirydd Tesco, John Allen, wedi amcangyfrif y gallai prisiau’r archfarchnad godi cymaint â 5% yn ystod chwarter cyntaf 2022 yn sgil y cynnydd ym mhrisiau ynni.
Ar hyn o bryd mae tua 2,100 o’u nwyddau ar eu pris isaf.
Daeth yr adeg honno o’r flwyddyn unwaith eto pan fydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn dechrau meddwl am y Ffurflenni Cais Sengl (SAF). Mae’r ffenestr ymgeisio’n agor ar 1af Mawrth ac mae UAC yn atgoffa’i haelodau bod staff sirol ar gael i helpu, a lliniaru’r straen o lenwi’r ffurflen.
Mae UAC yn darparu’r gwasanaeth hwn yn benodol i’w holl aelodau taledig fel rhan o’u pecyn aelodaeth, ac mae wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i filoedd o aelodau dros y blynyddoedd – gan arbed amser a phoen pen gwaith papur iddyn nhw.
Mae’n siŵr mai’r broses o lenwi ffurflen SAF yw’r ymarfer llenwi ffurflen pwysicaf a wneir gan ffermwyr Cymru, a hynny ers 2004, ac mae ôl-effeithiau ariannol camgymeriadau yn y ffurflen yn rhai difrifol. Mae staff UAC nid yn unig wedi’u hyfforddi’n dda ond maent yn gyfarwydd iawn â delio â’r broses ymgeisio gymhleth.
Ers i Lywodraeth Cymru fynnu bod yr holl geisiadau’n cael eu gwneud ar-lein, mae UAC wedi canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i’w haelodau.
Mae UAC yn annog ei haelodau, a’r rheiny sy’n llenwi’r ffurflen am y tro cyntaf, i gysylltu â’u swyddfa leol cyn gynted â phosib i drefnu apwyntiad, os oes angen help arnynt i lenwi’r ffurflen.
Ar 21 Chwefror 2022, cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru bod achos o Ffliw Adar H5N1 wedi ei gadarnhau ar ddau safle:
Cafodd achos newydd ei gadarnhau ar safle masnachol ger Y Trallwng, Sir Drefaldwyn, Powys. Mae Parth Diogelu 3km, Parth Gwyliadwriaeth 10km a Pharth Cyfyngedig 10km wedi’u sefydlu o amgylch y safle. Amlinellir manylion y mesurau o fewn y parthau rheoli clefyd ar gyfer y parth hwn ar Gov.Wales
Cadarnhawyd achos newydd hefyd ar safle masnachol ger Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, Powys. Mae Parth Diogelu 3km a Pharth Gwyliadwriaeth 10km wedi’u sefydlu. Mae rhan o’r Parth Gwyliadwriaeth yn ymestyn i Loegr mewn nifer o leoedd ac felly mae datganiadau wedi’u rhoi ar waith yng Nghymru a Lloegr. Mae Parth Cyfyngedig o 10km hefyd wedi’i ddatgan yng Nghymru gyda’r un mesurau â’r Parth Gwyliadwriaeth. Amlinellir manylion y mesurau o fewn y parthau rheoli clefyd ar gyfer y parth hwn ar Gov.Wales.
Sylwch fod y https://llyw.cymru/parth-atal-ffliw-adar-cymru-gyfan yn parhau i fod ar waith ledled Prydain Fawr.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu cyhoeddiad gan CThEM na fydd gofyn talu treth pecynnu amaethyddol ar ddeunydd lapio silwair o 1af Ebrill 2022, yn sgil cydnabod ei fod yn hanfodol i eplesu glaswellt.
Heb y consesiwn hwn, byddai treth o £200 y dunnell wedi’i chyflwyno ar bob deunydd pecynnu plastig untro, gan ychwanegu at y baich ariannol presennol ar y diwydiant.
Mae costau mewnbwn yn uwch nag erioed yn nhermau cost ynni, gwrtaith a phorthiant. Gyda hyn mewn golwg, croesewir penderfyniad CThEM i eithrio deunydd lapio silwair o’r dreth pecynnu plastig ar gyfer amaethyddiaeth.
Bydd Cyswllt Ffermio’n cynnal ei ail ddigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio ar 15fed Mehefin 2022 ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Denodd y digwyddiad cyntaf, a gynhaliwyd ym Medi 2019, dros 1,000 o ymwelwyr a 90 o arddangoswyr.
I adeiladu ar y momentwm, nod y digwyddiad eleni yw annog mwy o fusnesau fferm a choedwigaeth i gael cymorth, gwybodaeth a syniadau gan brif siaradwyr, cymorthfeydd un i un, gweithdai a seminarau, ar bynciau sy’n cynnwys:
- Arloesi – ffyrdd mwy effeithlon o weithio sy’n manteisio ar dechnolegau newydd cyffrous
- Arallgyfeirio – syniadau newydd a fydd yn eich helpu i gynyddu elw
- Da byw – ffyrdd newydd o gryfhau perfformiad a gwella cynhyrchiant
- Cynaliadwyedd – arbed amser ac arian, cynyddu allbynnau, lleihau eich ôl troed carbon
- Newid y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn gweithio – cymorth, arweiniad, hyfforddiant ac arddangosiadau ymarferol a fydd yn eich paratoi chi a'ch busnes ar gyfer y dyfodol.
Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim i ymwelwyr. Bydd gwybodaeth bellach, gan gynnwys rhestr lawn o arddangoswyr ac amserlen siaradwyr a seminarau ar gael maes o law.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma neu cysylltwch â thîm digwyddiadau Cyswllt Ffermio’n uniongyrchol ar:
Gweithiodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Anifeiliaid Hela a Chadwraeth Bywyd Gwyllt (GWCT) i dynnu sylw at y rôl bwysig mae ffermwyr yn ei chwarae yn gofalu am adar tir amaethyddol, yn ogystal â helpu ffermwyr i ddeall beth allan’ nhw ei wneud ar eu ffermydd i ddiogelu adar.
Cyn y Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol (4-20 Chwefror), cynhaliodd UAC weminar ar y cyd â GWCT ar 1af Chwefror.
Roedd y siaradwyr gwadd yn y weminar, a oedd dan gadeiryddiaeth Dirprwy Lywydd UAC, Ian Rickman yn cynnwys Matthew Goodall o GWCT, a siaradodd am bwysigrwydd cymryd rhan yn y Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol, cefndir y fenter, a sut y gellir cynyddu niferoedd adar tir amaethyddol. Trafododd Uwch Swyddog Polisi a Chyfathrebu UAC, Gareth Parry, y materion polisi sy’n effeithio ar y ffordd rydym yn cynhyrchu bwyd ac yn gofalu am yr amgylchedd er budd rhywogaethau adar Cymru, a chlywodd y weminar hefyd gan y ffermwr defaid a chig eidion o Gymru a chyn-lywydd sirol UAC ym Meirionnydd, Geraint Davies, a oedd wedi cymryd rhan mewn Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol blaenorol.
Mae’r weminar ar gael nawr i’w gwylio yma: https://www.fuw.org.uk/cy/adnoddau/seminarau-aelodau
Dros y 12 mis diwethaf mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio gyda Natural England i adolygu a diweddaru’r cyngor i reolwyr tir, yn sgil diweddaru’r Cod Cefn Gwlad o ran cyngor i ymwelwyr yn 2021.
Mae’r cyngor diwygiedig yn rhoi gwybodaeth glir i reolwyr tir am:
- Hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas â hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad agored
- Hawliau mynediad ymwelwyr
- Sut i helpu ymwelwyr i ymddwyn yn gyfrifol
- Sut i greu amgylchedd diogel
- Gyda phwy i gysylltu i gael cymorth
Mae’r canllawiau ar gael yma: https://naturalresources.wales/land-manager-advice?lang=cy
Bydd Gwobrau Farmers Weekly 2022 yn dathlu goreuon y byd amaeth ym Mhrydain drwy gydnabod y ffermwyr mwyaf gweithgar a blaengar ar draws y DU.
Y dyddiad cau i roi cynnig arni neu i wneud enwebiad yw 31ain Mawrth, a chynhelir y digwyddiad yn Llundain ar 6ed Hydref 2022.
Mae cyfanswm o 15 categori gwahanol eleni sef:
- Myfyriwr Amaethyddol y Flwyddyn
- Cynghorydd r y Flwyddyn
- Ffermwyr r y Flwyddyn
- Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn
- Contractwr y Flwyddyn
- Ffermwr Llaeth y Flwyddyn
- Ffermwr Arallgyfeirio y Flwyddyn
- Rheolwr Fferm y Flwyddyn
- Rheolwr Glaswelltir y Flwyddyn
- Cynghorydd Da Byw y Flwyddyn
- Ffermwr Cymysg y Flwyddyn
- Ffermwr Moch y Flwyddyn
- Ffermwr Dofednod y Flwyddyn
- Ffermwr Defaid y Flwyddyn
- Ffermwr Ifanc y Flwyddyn
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae’r elusen Donkey Sanctuary wedi lansio prosiect pum mlynedd newydd a fydd yn edrych ar gylch oes asynnod yn y DU ac Iwerddon, ac yn annog perchnogaeth gyfrifol.
Mae’r elusen am weld gostyngiad yn y nifer o asynnod sy’n dioddef oherwydd llesiant gwael neu am fod pobl wedi cefnu arnynt. I ganfod pa ffactorau sy’n effeithio ar y llesiant hwnnw, mae angen iddynt ddeall pam y mae pobl yn berchen asynnod, pam y mae asynnod yn cael eu hail-gartrefu, ac unrhyw fylchau o ran cynorthwyo neu addysgu perchnogion.
Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’r elusen yn bwriadu ffurfio grŵp Rhanddeiliaid yn cynnwys pobl o bob sector a chefndir sy’n ymwneud ag asynnod.
Os oes gan unrhyw aelodau o UAC ddiddordeb mewn cymryd rhan, ebostiwch Katrina Hammond ar
Cynllun | Crynodeb | Ffenestr yn Cau |
Grant Brechu Moch Daear Llywodraeth Cymru |
Mae’r Grant Brechu Moch Daear yn darparu ffermwyr, perchnogion tir a sefydliadau eraill â’r cyfle i wneud cais am gymorth ariannol. Mae £100,000 ar gael ar gyfer y ffenestr grant hon. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyd at 50% o gostau cymwys brechu moch daear. Gall ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau brechu o Fai 2022 yn amodol ar dderbyn trwydded brechu moch daear. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi wneud cais am y grant, cysylltwch â: Lydia Chambers |
10fed Mawrth 2022 |
Trosglwyddo hawliau BPS |
Mae’r hysbysiad ynghylch trosglwyddo hawliau 2022 ar gael ar RPW Ar-lein. Rhaid hysbysu RPW erbyn 15 Mai 2022 er mwyn i’r derbynnydd wneud cais am hawliau mae’n eu derbyn ar gyfer blwyddyn 2022 y cynllun BPS. Mae croeso i aelodau UAC gysylltu â’u Swyddfa Sirol am gymorth. |
15fed Mai 2022 |
Cwrs dysgu Cymraeg ar gyfer y sector amaethyddol |
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Menter a Busnes wedi lansio Cwrs Dysgu Cymraeg ar-lein newydd ar gyfer y sector amaethyddol. Mae’r cyrsiau Cymraeg Gwaith 10 awr sector-benodol, gan gynnwys amaethyddiaeth, ar gael yn rhad ac am ddim ar y wefan Dysgu Cymraeg. Am fwy o wybodaeth, ebostiwch |
|
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio |
O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd. Ceir mwy o wybodaeth yma: |
|
Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio |
Mae Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Mae’n darparu cyngor wedi’i ariannu hyd at 80% i unigolion neu 100% ar gyfer sesiynau grŵp. Y nod yw sicrhau eich bod yn:
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma. |
Cynllun | Crynodeb | Ffenestr yn Cau |
Trosglwyddo hawliau BPS |
Mae’r hysbysiad ynghylch trosglwyddo hawliau 2022 ar gael ar RPW Ar-lein. Rhaid hysbysu RPW erbyn 15 Mai 2022 er mwyn i’r derbynnydd wneud cais am hawliau mae’n eu derbyn ar gyfer blwyddyn 2022 y cynllun BPS. Mae croeso i aelodau UAC gysylltu â’u Swyddfa Sirol am gymorth. |
15fed Mai 2022 |
Cwrs dysgu Cymraeg ar gyfer y sector amaethyddol |
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Menter a Busnes wedi lansio Cwrs Dysgu Cymraeg ar-lein newydd ar gyfer y sector amaethyddol. Mae’r cyrsiau Cymraeg Gwaith 10 awr sector-benodol, gan gynnwys amaethyddiaeth, ar gael yn rhad ac am ddim ar y wefan Dysgu Cymraeg. Am fwy o wybodaeth, ebostiwch |
|
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio |
O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd. Ceir mwy o wybodaeth yma: |
|
Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio |
Mae Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Mae’n darparu cyngor wedi’i ariannu hyd at 80% i unigolion neu 100% ar gyfer sesiynau grŵp. Y nod yw sicrhau eich bod yn:
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma. |
Mewn ymateb i adroddiadau am dir yn cael ei brynu yng Nghymru at ddibenion plannu coed a dal a storio carbon, cynhaliodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) weminar lwyddiannus ar 19eg Ionawr yn dwyn y teitl ‘Atal Cipio Tir Carbon Corfforaethol yng Nghymru: Cydbwyso carbon, coed a chymunedau gwledig’.
Dan gadeiryddiaeth Swyddog Polisi UAC, Teleri Fielden, rhoddodd y weminar ddarlun o’r sefyllfa yng Nghymru.
Fel rhan o lwybr Cymru tuag at Sero Net, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol o blannu 180,000ha ychwanegol o goed erbyn 2050, a gwella dulliau o reoli coedlannau. Mae hyn yn cyfateb i 10% o dir ffermio Cymru.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd cyllideb taliadau uniongyrchol 2022 yn cael ei chadw ar yr un lefel ag un 2020 a 2021.
Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths ar 23 Rhagfyr 2021 y byddai uchafswm cyllideb taliadau uniongyrchol o £238 miliwn ar gael yn 2022, gan gyfateb i gyllideb 2020 a 2021.
Mae penderfyniad y Gweinidog yn cydnabod pwysigrwydd y gyllideb taliadau uniongrychol, nid yn unig i’r oddeutu 16,000 o fusnesau fferm sy’n dibynnu arni, ond hefyd y degau o filoedd o fusnesau eraill sy’n elwa o’r taliadau hyn.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi codi pryderon am y newidiadau arfaethedig i gofrestru ac adrodd ar symudiadau da byw.
Yn ei hymateb i ‘Ymgynghoriad ar newidiadau i Drefniadau Adnabod, Cofrestru ac Adrodd ar Symudiadau Da Byw’ Llywodraeth Cymru, tynnodd yr Undeb sylw at nifer o feysydd lle byddai’r cynigion yn arwain at fwy o gostau a biwrocratiaeth i ffermwyr.
Mae’r rhain yn dod ar adeg pan mae’r DU wrthi’n ffurfio cytundebau masnach â gwledydd megis Awstralia a Seland Newydd, lle nad yw beichiau o’r fath yn dod yn agos at yr hyn sydd eisoes yn ofynnol gan ffermwyr yng Nghymru, heb sôn am yr hyn sy’n cael ei gynnig.
Mae Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi rhybuddio nad yw’r prisiau ynni cynyddol yn gynaliadwy ar gyfer y sector.
Daw’r rhybudd yn sgil adroddiadau gan ffermwyr llaeth bod eu costau ynni wedi codi gymaint â £1000 y mis, gyda’r disgwyliad y bydd y costau’n cynyddu ymhellach.
Mae’r sector ffermio yn gyffredinol eisoes dan bwysau enfawr. Mae’r cynnydd mewn prisiau ynni, gydag adroddiadau, mewn rhai achosion, o gynnydd o £1,000 y mis i fusnesau llaeth, yn ergyd i bawb yn y diwydiant.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ysgrifennu at ASDA ynghylch penderfyniad yr archfarchnad i gamu’n ôl o’i haddewid i werthu 100% cig eidion ffres Prydeinig, wythnosau’n unig ar ôl rhoi’r addewid ar waith.
Daw’r llythyr ar ôl i ffermwyr o bob rhan o Gymru gysylltu â’r Undeb i fynegi eu dicter a’u siom.
Mae UAC wedi cwrdd â chynrychiolwyr o ASDA ar sawl achlysur yn ystod y pandemig, i drafod pwysigrwydd cefnogi cynhyrchwyr o Gymru a’r DU ar adeg pan oedd cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang yn gyfnewidiol iawn.
i) 93% o ffermydd Cymru wedi cael eu taliadau BPS 2021 llawn neu olaf
Ar 15fed Rhagfyr 2021, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths fod dros 93% o fusnesau fferm Cymru wedi derbyn eu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) llawn neu olaf.
Roedd hyn yn uwch na nifer y taliadau a wnaed yn gynnar yn ffenestr 2020, ac yn golygu bod £227 miliwn wedi’i dalu i dros 15,000 o ffermwyr ledled Cymru, gan gynnwys y taliadau ymlaen llaw a wnaed ym mis Hydref.
Serch hynny, mae UAC yn annog Llywodraeth Cymru i brosesu’r taliadau BPS 2021 sydd ar ôl mor gyflym â phosib.
ii) Ad-drefnu Plaid Cymru yn sgil y Cytundeb Cydweithio
Mae Plaid Cymru wedi’i had-drefnu’n ddiweddar fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Lafur Cymru, gyda Cefin Campbell, AS, yn cael ei ethol fel yr Ail Aelod Dynodedig.
Mae gan Heledd Fychan AS, Sioned Williams AS a Mabon ap Gwynfor AS rolau newydd ill tri, gyda Mabon ap Gwynfor yn dod yn llefarydd newydd Plaid Cymru ar Amaethyddiaeth a Materion Gwledig.
iii) Y manwerthwr Aldi’n parhau i gefnogi cynhyrchwyr bwyd Prydeinig trwy gydol y pandemig
Mae’r manwerthwr mawr Aldi wedi cyhoeddi ei fod wedi gwario £1.6 biliwn ychwanegol gyda chyflenwyr Prydeinig ers dechrau pandemig Covid-19. Mae hyn yn cynnwys £125 miliwn ar gig, dofednod a chynnyrch llaeth Prydeinig.
Ochr yn ochr â’i ymrwymiad i werthu 100% cig ffres a chynnyrch llaeth Prydeinig, mae Aldi wedi ailadrodd ei addewid i wario £3.5 biliwn ychwanegol bob blwyddyn gyda busnesau Prydeinig erbyn diwedd 2025.
O 17eg Ionawr 2022, bydd 2 newid newydd i’r rheolau mewn perthynas ag achosion o TB Gwartheg yn dod i rym yng Nghymru.
Newid 1: Statws Heb TB Swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW) yn Ddiofyn
Bydd pob achos newydd o TB ledled Cymru (gyda’r 2 eithriad a restrir isod) yn cael eu categoreiddio fel Statws Heb TB Swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW).
Y ddau eithriad, a fydd yn parhau i gael eu categoreiddio fel Statws Heb TB Swyddogol Wedi’i Atal (OTFS) yw:
- Buchesi Statws Heb TB Swyddogol (OTF) lle mae un neu ragor o achosion lladd-dy tybiedig wedi’u datgelu ac mae canlyniadau meithriniad yn dal i fod yn yr arfaeth
- Achosion mewn buchesi lle mae anifeiliaid nad ydynt wedi’u magu ar y fferm yn ymateb yn bositif i brofion gwrthgyrff Interfferon-gamma a/neu IDEXX yn unig (h.y. dim adweithyddion croen) ac nad yw'r clefyd wedi'i gadarnhau ar ganlyniadau PME/meithriniad.
Bydd buchesi OTFS lle dechreuodd yr achos o TB cyn 15fed Tachwedd 2020 yn aros yn OTFS oni bai bod adweithydd prawf croen pellach yn cael ei ddatgelu, neu bod yna ffactorau risg epidemiolegol.
Beth mae’r newid hwn yn ei olygu i mi?
Mae Llywodraeth Cymru’n chwilio am fwy o ffermwyr i gymryd rhan yng ngham nesaf y broses o gyd-ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Bwriedir cyflwyno’r cynllun arfaethedig yn 2025, gan ganiatáu cyfnod pontio o sawl blwyddyn i symud i ffwrdd o’r system bresennol, sef Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS).
Mae ffermwyr Cymru’n cael eu hannog i gofrestru i gymryd rhan yn y broses, er mwyn rhoi barn uniongyrchol ar ymarferoldeb y cynigion sy’n sail i’r cynllun newydd a’i bolisïau ehangach.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cynllun ‘yn cynorthwyo ffermwyr i leihau ôl troed carbon eu ffermydd, yn helpu i wella’r amglchedd, a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.’
Bydd cam nesaf y cyd-ddylunio’n arwain at ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng ngwanwyn 2023.
I gofrestru ar gyfer ail gam y broses o gyd-ddylunio’r cynllun newydd, gall ffermwyr gofrestru eu diddordeb ar wefan Llywodraeth Cymru neu siarad â’u cynrychiolydd Gwasanaeth Cyswllt Ffermio lleol.
Mae ffermwyr ledled Cymru sy’n cadw defaid a geifr yn cael eu hatgoffa i gyflwyno eu stocrestr flynyddol erbyn 1af Chwefror 2022.
Mae angen i’r stocrestr nodi nifer y defaid a/neu eifr oedd yn berchen i bob daliad (CPH) ar 1 Ionawr 2022.
Mae ffermwyr yn cael eu hannog i gwblhau’r ffurflen ar-lein drwy eu cyfrif EIDCymru ond gellir cyflwyno copïau papur hefyd.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen yw Dydd Mawrth 1af Chwefror ac mi all ei chyflwyno’n hwyr gynyddu’r risg o gael eich dewis ar gyfer archwiliad.
Mae angen i ffermwyr nad ydynt yn cadw defaid neu eifr bellach ddatgofrestru, arwyddo a dychwelyd y ffurflen ddatgan.
Gellir llenwi ffurflenni ar-lein drwy fewngofnodi ar www.eidcymru.org. Dylid anfon copïau drwy’r post i EIDCymru, Tŷ Merlin, Parc Merlin, Aberystwyth, SY23 3FF.
Mae mwyafrif helaeth y rheolau Trawsgydymffurfio’n parhau i fod yn berthnasol fel yn 2021. Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru taflenni ffeithiau ac adrannau cysylltiedig y Safonau Dilysadwy ar gyfer 2022, i adlewyrchu newidiadau mewn gofynion, arfer da, ac i egluro geiriad:
SMR 4: cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid. Mân newidiadau i egluro geiriad y gofynion.
SMR 6: adnabod a chofrestru moch. Canllawiau newydd ar dagio moch i'w hallforio wedi’u cynnwys. Manylion cyswllt wedi'u diweddaru.
SMR 7: adnabod a chofrestru gwartheg. Canllawiau newydd ar dagio gwartheg i'w hallforio wedi’u cynnwys.
SMR 8: adnabod defaid a geifr. Canllawiau newydd ar dagio defaid a geifr i'w hallforio wedi’u cynnwys. Gofyniad i gadw dogfennau symud wedi’i ddiweddaru.
SMR 10: cyfyngiadau ar ddefnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP). Eglurhad o ddiffiniad PPP a darpariaethau'r CE a ddargedwir. Manylion cyswllt wedi'u diweddaru.
GAEC 6: pridd a deunydd organig - eu diogelu. Diweddarwyd y canllawiau o ran cyswllt â’r Asesiad o'r Effaith ar yr Amgylchedd.
Mae’r holl ddogfennau cysylltiedig ar gael yma: https://llyw.cymru/trawsgydymffurfio-2022
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi ei rifyn diweddaraf o’r ‘Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig’.
Mae’r cyhoeddiad blynyddol hwn yn cynnwys ystadegau a gwybodaeth gyffredinol am amaethyddiaeth yng Nghymru, gydag adrannau penodol ar wartheg, defaid a moch, dros y 12 mis diwethaf – sef blwyddyn eithriadol i ddiwydiant cig coch y DU.
Mae’r Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig ar gael yma: https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/adnoddau-datar-farchnad
Mae bwletinau misol y farchnad HCC ar gael yma: https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/bwletin-y-farchnad
Mae’r Sefydliad Amaethyddol Brenhinol Llesiannol (RABI) wedi lansio dau wasanaeth cymorth newydd mewn ymateb i ganlyniadau’r Arolwg Ffermio Mawr, a ddatgelodd bod 36% o’r gymuned ffermio’n debygol o ddioddef, neu o bosib yn dioddef o iselder.
Mae cwnsela personol ar gyfer pobl ffermio, a hyfforddiant iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar ffermio ar gyfer y sector amaethyddol ehangach, yn ddau wasanaeth newydd sy’n anelu at ddarparu cymorth iechyd meddwl cynnar.
Mae’r cwnsela personol cyfrinachol a di-dâl yn darparu:
• Mynediad at gwnselydd proffesiynol o fewn 24 awr o alwad
• Cymorth heb atgyfeiriad clinigol
• Cymorth wedi’i ddarparu gan bobl broffesiynol hyfforddedig sy’n deall pwysau a heriau ffermio
• Cwnsela wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy fideo gynadledda.
Mae RABI yn gobeithio y bydd yr hyfforddiant iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar ffermio yn darparu platfform i unigolion o fewn y sector i siarad am eu profiadau, a magu’r hyder i gael y sgyrsiau hyn â phobl eraill.
Mae’r ddau wasanaeth yn cael eu darparu mewn partneriaeth â Red Umbrella, sef darparwr arbenigol, di-elw sy’n cynnig cwnsela iechyd meddwl achrededig, hyfforddiant iechyd meddwl, a chymorth ôl-ofal.
Ewch i www.rabi.org.uk i gael mwy o wybodaeth, neu i gael help ffoniwch llinell gymorth 24/7 RABI ar 0800 188 4444.
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi ail-lansio ei raglen Ysgoloriaeth Deithio ar gyfer unrhyw un sydd wedi’i gyflogi’n llawn-amser o fewn y sector cig coch.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn treulio hyd at chwe wythnos yn astudio agweddau penodol o’r sector cig eidion, defaid neu borc mewn gwlad o’u dewis nhw. Bydd angen i brosiect yr ysgoloriaeth ddangos sut y gall wneud cyfraniad parhaus i’r diwydiant.
I ymgeisio, rhaid i unigolion lenwi’r ffurflen gais ar wefan HCC cyn 11eg Chwefror 2022.
Os yn llwyddiannus, byddant yn derbyn hyd at £3,000 tuag at y daith. Yn gyfnewid am hynny, disgwylir iddynt gyflwyno adroddiad i HCC ar eu canfyddiadau, a bod yn barod i rannu eu gwybodaeth newydd â’r diwydiant drwy wneud cyflwyniadau gerbron grwpiau o ffermwyr.
Mae Grisial Roberts, myfyriwr PhD gyda’r Sefydliad Heintiau, Gwyddorau Milfeddygol ac Ecolegol ym Mhrifysgol Lerpwl, yn cynnal astudiaeth o achosion o glefydau parasitig ymhlith gwartheg sy’n pori ar draws y DU, a’r dulliau rheoli presennol.
Anogir ffermwyr sy’n pori gwartheg i gwblhau’r arolwg dienw drwy ddilyn y ddolen isod. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i enill iPad a/neu danysgrifiad 12 mis i gynlluniwr rheoli parasitiaid ar-lein NADIS.
https://liverpool.onlinesurveys.ac.uk/parasitic-worms-on-uk-farms-risk-and-control-2
Cynllun | Crynodeb | Ffenestr yn Cau |
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio |
O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd. Ceir mwy o wybodaeth yma: |
|
|
Bydd y ffenestr cais am hyfforddiant Cyswllt Ffermio presennol yn cau ar Ddydd Gwener, 28ain Ionawr am 17.00.
Am restr lawn o gyrsiau a/neu gymorth i ymgeisio, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Mae Llyfryn Hyfforddiant Cyswllt Ffermio ar gael yma. |
28ain Ionawr 2022 |
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi lansio galwad i weithredu ar fasnachu carbon, i sicrhau bod teuluoedd ffermio yng Nghymru’n rhan o’r ateb i gyrraedd Sero Net, yn hytrach na’u bod yn colli i chwaraewyr pwerus yn y gêm gwrthbwyso carbon.
Er mwyn cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5ºC uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol, mae gwledydd a chwmnïau ar draws y byd wedi bod ar ras i osod eu haddunedau neu dargedau ‘sero net’ eu hunain.
Mae hyn wedi arwain at don fawr o unigolion a busnesau’n ceisio gwrthbwyso eu hallyriadau carbon drwy’r Farchnad Garbon Wirfoddol. O ganlyniad, mae nifer cynyddol o ffermydd yng Nghymru’n cael eu prynu gan gwmnïau er mwyn plannu coed i wrthbwyso eu hallyriadau eu hunain, neu i werthu’r credydau carbon cysylltiedig yn y dyfodol.
I fynd i’r afael â’r pryderon hyn, mae UAC wedi llunio rhestr o 10 argymhelliad:
Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hargymhellion i gynyddu maint yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru, yn dilyn ymarfer ‘at wraidd y mater’.
Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru darged o gwrdd â 70 y cant o’r galw am drydan yng Nghymru o ffynonellau trydan adnewyddadwy Cymru erbyn 2030. Erbyn 2019, roedd 51 y cant o’r trydan a ddefnyddiwyd yng Nghymru wedi’i gynnyrchu o ffynonellau ynni adnewyddadwy, i fyny o 19 y cant yn 2014, a 50 y cant yn 2018.
Fodd bynnag, mae diddymu Tariffau Cyflenwi Trydan yn 2019 wedi arafu’n sylweddol y buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy ar ffermydd, ac o ganlyniad wedi gwanhau’r buddiannau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â mentrau preifat, ac wedi lleihau’r momentwm i gyrraedd targed 2030 Llywodraeth Cymru.
Mae ei hadroddiad diweddaraf yn gosod 21 o argymhellion cyffredinol ar Strategaeth; Grid; Cydsynio, trwyddedu a threfniadau cynghori ategol; Cyllid; Cyfleoedd i gynyddu Ynni Cymunedol a Lleol yng Nghymru; Cyfleoedd i wneud y mwyaf o Werth Economaidd a Chymdeithasol yng Nghymru; ac Arloesedd.
Cadarnhaodd Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) yn ddiweddar y bydd y ‘rheol anifeiliaid bach sy’n cnoi cil’ diwygiedig yn dod i rym ar 3ydd Ionawr 2022, a fydd yn caniatáu allforio cig oen o’r DU i farchnad yr Unol Daleithiau yn dilyn degawdau o gyfyngiadau.
Rhagwelir y bydd hyn yn cyflenwi marchnad o dros 300 miliwn o bobl, a bydd yn werth £37 miliwn dros y pum mlynedd cyntaf (£7.4 miliwn y flwyddyn) i ddiwydiant y DU. Yn ôl ymchwil Hybu Cig Cymru (HCC) i’r farchnad, mi allai gynnwys “galw sylweddol am gig oen o ansawdd da.”
Yn ystod naw mis cyntaf 2021 yn unig, allforiodd y DU gyfanswm o werth £303 miliwn o gig oen, gyda £228 miliwn o hwnnw (95 y cant) yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd.
O ystyried yr ystadegau, mae UAC wedi dadlau ers amser maith dros bwysigrwydd cael masnach rydd hwylus rhwng y DU a’r UE ar gyfer marchnadoedd nwyddau amaethyddol, ac wedi pwysleisio’r un pwynt mewn ymateb i agor y farchnad Siapaneaidd ar gyfer cynhyrchwyr y DU yn Ionawr 2019, y rhagwelwyd y byddai’n werth £52 miliwn i gig oen dros gyfnod o bum mlynedd (£10.4 miliwn y flwyddyn).
i) Llywodraeth y DU yn gwrthod asesiad o effaith cytundeb masnach Awstralia ar Gymru
Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar effaith cytundeb masnach DU-Awstralia ar Gymru, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd y testun drafft yn cael ei rannu â’r Llywodraethau Datganoledig.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod argymhellion y Pwyllgor bod y Adran Masnachu Rhyngwladol yn cyhoeddi asesiad o’r effaith benodol ar Gymru, ar sail y ffaith ei fod eisoes wedi’i ddarparu fel rhan o asesiad y DU gyfan.
ii) CEBR yn darogan cynnydd ym mhrisiau’r Archfarchnadoedd dros y Nadolig eleni
Mae’r Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes (CEBR) wedi rhybuddio y bydd siopa Nadolig yn costio mwy eleni yn sgil costau tanwydd ac ynni uwch, problemau cyflenwi, a phrinder staff.
O’i gymharu â Rhagfyr 2020, rhagwelir y bydd teulu arferol yn y DU yn gwario £33.60 yn fwy yr wythnos oherwydd chwyddiant, ond mae nifer o archfarchnadoedd yn ceisio amsugno’r costau cynyddol dros y Nadolig er mwyn cadw cwsmeriaid.
iii) Adroddiad newydd HCC yn dadansoddi’r rhagolygon i sector defaid y DU
Mae adroddiad newydd gan Hybu Cig Cymru (HCC) wedi datgelu bod nifer yr ŵyn a gafodd eu prosesu o gnwd 2021 12.7 y cant yn is na lefelau 2020, a 10.9 y cant yn is na 2019.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn darogan y gall y prisiau presennol – sydd tua 20 y cant yn uwch na lefelau’r llynedd ar gyfartaledd – barhau yn sgil y galw uchel o du manwerthwyr. Hefyd, mae’r ffaith bod lefelau cynhyrchu cig oen Seland Newydd i lawr oddeutu 4 y cant o un flwyddyn i’r llall yn gymorth ychwanegol.
Mae ffermwr llaeth o Sir Benfro, Dai Miles, sy’n ffermio ar gyrion Hwlffordd, wedi’i ddewis yn enillydd gwobr Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) 2021 i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r diwydiant llaeth yng Nghymru.
Mae’r wobr yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad mawr ac wedi dod yn rhan annatod o’r diwydiant llaeth yng Nghymru. Mi wnaeth Mr Miles gryn argraff ar y beirniaid gyda’r cyfraniadau a wnaeth, ac mae’n parhau i’w gwneud, i’r diwydiant llaeth.
Tyfodd Dai Miles i fyny yn Felin-fach ger Llanbedr Pont Steffan a mynychodd Ysgol Gyfun Aberaeron. Nid oedd Dai yn dod o deulu ffermio, ac mi ddechreuodd ei yrfa ffermio drwy fynychu Coleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth, lle cafodd Ddiploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth, cyn cwblhau blwyddyn rhyngosod yn Godor, Nantgaredig.
Ar ôl gadael coleg, treuliodd pum mlynedd fel cowmon yn gofalu am 160 o fuchod yn Waun Fawr, Glynarthen, Llandysul, ac yna pum mlynedd arall yn IGER Trawscoed, yn gweithio fel cowmon llanw rhwng y ddwy fuches laeth, sef Lodge Farm a’r fuches organig yn Nhŷ Gwyn, cyn cymryd y cam dewr o sicrhau tenantiaeth i ffermio ar ei liwt ei hun.
O Ddydd Llun 29ain Tachwedd ymlaen, mae Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan (a sefydlwyd ar 3ydd Tachwedd) wedi’i ymestyn, ac erbyn hyn mae’n orfodol cadw dofednod ac adar caeth dan do. Bydd y mesurau hyn, ochr yn ochr â’r rheolau bioddiogelwch presennol, yn helpu i leihau’r risg o Ffliw Adar yn lledaenu o adar gwyllt i adar domestig:
- Cadw dofednod ac adar caeth dan do neu roi netin o’u hamgylch i’w cadw ar wahân i adar gwyllt
- Glanhau a diheintio dillad, esgidiau, offer a cherbydau, cyn ac ar ôl unrhyw gyswllt â dofednod ac adar caeth – os yn ymarferol, defnyddio dillad amddiffynnol tafladwy
- Sicrhau bod cyn lleied o bobl, cerbydau ac offer â phosib yn mynd a dod o ardaloedd lle cedwir dofednod ac adar caeth, i leihau halogiad o dail/tom, slyri a chynnyrch arall, a defnyddio dulliau effeithiol o reoli llygod mawr
- Glanhau a diheintio mannau lle mae adar yn byw yn drylwyr ac yn rheolaidd
- Cadw diheintydd o’r crynhoad cywir ger pob mynedfa ac allanfa ar y fferm ac ardaloedd lle cedwir dofednod
- Sicrhau cyn lleied â phosib o gyswllt, uniongyrchol ac anuniongyrchol, rhwng dofednod ac adar caeth ag adar gwyllt, gan gynnwys gwneud yn siŵr nad yw adar gwyllt yn gallu mynd at unrhyw fwyd a dŵr
Mae cyrff cyngor iechyd cyhoeddus a safonau bwyd yn cynghori bod y perygl i iechyd dynol a’r risg i ddiogelwch bwyd defnyddwyr yn y DU yn isel iawn.
Os ydych chi’n amau bod gennych haint Ffliw Adar yn eich haid, dylech ffonio’r llinell hon, sy’n benodol ar gyfer Cymru: 0300 303 8268.
Dylid rhoi gwybod am unrhyw adar gwyllt marw a welir drwy ffonio llinell gymorth DEFRA ar 03459 33 55 77.
Am wybodaeth bellach ewch i: https://llyw.cymru/ffliw-adar
Cododd UAC bryderon yn ddiweddar gyda Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) ac yn ystod cyfarfod gyda’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths ynghylch amseriad cynnig estyniadau i gontractau Glastir ar drothwy cyfnod y Nadolig.
Oherwydd amseriad cyfarfod Pwyllgor Monitro’r Rhaglen, byddai’r cyfnod tair wythnos yn dilyn hynny i ddeiliaid contractau Glastir allu derbyn eu hestyniadau’n gorfod dod i ben ar 31ain Rhagfyr – ar adeg pan mae llai o staff ar gael yn RPW a swyddfeydd Llywodraeth Cymru, gan olygu bod y rhai oedd am gwestiynu contractau yn methu â gwneud hynny cyn y dyddiad cau.
Cyhoeddwyd ers hynny bod y dyddiad cau i dderbyn estyniadau i gontractau wedi’i ymestyn hyd 31ain Ionawr 2022.
Er bod y contractau presennol yn dod i ben ar 31ain Rhagfyr 2021 a bod gan ddeiliaid contractau hyd at 31ain Ionawr 2022 i dderbyn eu contract newydd, mae’n bwysig nodi y bydd angen i ddeiliaid contractau ddal ati i gadw at holl amodau eu contract presennol o 1 Ionawr 2022 os ydyn nhw bwriadu derbyn yr estyniad i’r contract.