Ffermwr llaeth o Sir Benfro’n derbyn gwobr llaeth arbennig gan UAC

Mae ffermwr llaeth o Sir Benfro, Dai Miles, sy’n ffermio ar gyrion Hwlffordd, wedi’i ddewis yn enillydd gwobr Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) 2021 i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r diwydiant llaeth yng Nghymru.

Mae’r wobr yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad mawr ac wedi dod yn rhan annatod o’r diwydiant llaeth yng Nghymru. Mi wnaeth Mr Miles gryn argraff ar y beirniaid gyda’r cyfraniadau a wnaeth, ac mae’n parhau i’w gwneud, i’r diwydiant llaeth.

Tyfodd Dai Miles i fyny yn Felin-fach ger Llanbedr Pont Steffan a mynychodd Ysgol Gyfun Aberaeron. Nid oedd Dai yn dod o deulu ffermio, ac mi ddechreuodd ei yrfa ffermio drwy fynychu Coleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth, lle cafodd Ddiploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth, cyn cwblhau blwyddyn rhyngosod yn Godor, Nantgaredig.

Ar ôl gadael coleg, treuliodd pum mlynedd fel cowmon yn gofalu am 160 o fuchod yn Waun Fawr, Glynarthen, Llandysul, ac yna pum mlynedd arall yn IGER Trawscoed, yn gweithio fel cowmon llanw rhwng y ddwy fuches laeth, sef Lodge Farm a’r fuches organig yn Nhŷ Gwyn, cyn cymryd y cam dewr o sicrhau tenantiaeth i ffermio ar ei liwt ei hun.

Mae Dai, sy’n Is-lywydd UAC yn Ne Cymru, hefyd yn gyn-Gadeirydd Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth UAC, yn gyn-Gadeirydd Sirol UAC yn Sir Benfro ac yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Tenantiaid UAC.

Yn ogystal â rhedeg ei fferm laeth organig ei hun, yn 2000, daeth Dai Miles yn un o bedwar cyfarwyddwr sefydlu, a Chadeirydd cyntaf, Cydweithrediaeth Llaeth Organig Calon Wen. Mae’r gydweithrediaeth, sy’n berchen i 25 o deuluoedd ffermio, yn helpu i sicrhau marchnad hirdymor ar gyfer llaeth organig o Gymru, drwy gefnogi anghenion prosesu organig yma yng Nghymru.

Yn 2013 daeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr y fenter, gan fynd ati i ddatblygu’r brand o fewn y farchnad llaeth organig arbenigol. Erbyn hyn mae’r cwmni’n cyflenwi ei brand ei hun o laeth, menyn, cawsiau, a iogyrt wedi’i rewi, i fanwerthwyr mawr yng Nghymru a’r DU, yn ogystal ag amryw o safleoedd manwerthu eraill.

Yn ganolog i lwyddiant Dai mae ei gred angerddol mai diwydiant amaethyddol proffidiol yw’r allwedd i ddiogelu cefn gwlad a diwylliant gwledig Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.