Y diwydiant yn croesawu’r newyddion bod deunydd lapio silwair i’w eithrio o’r dreth pecynnu

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu cyhoeddiad gan CThEM na fydd gofyn talu treth pecynnu amaethyddol ar ddeunydd lapio silwair o 1af Ebrill 2022, yn sgil cydnabod ei fod yn hanfodol i eplesu glaswellt.

Heb y consesiwn hwn, byddai treth o £200 y dunnell wedi’i chyflwyno ar bob deunydd pecynnu plastig untro, gan ychwanegu at y baich ariannol presennol ar y diwydiant.

Mae costau mewnbwn yn uwch nag erioed yn nhermau cost ynni, gwrtaith a phorthiant. Gyda hyn mewn golwg, croesewir penderfyniad CThEM i eithrio deunydd lapio silwair o’r dreth pecynnu plastig ar gyfer amaethyddiaeth.