Marchnad newydd i gig oen y DU yn gam arall yn y cyfeiriad iawn

Cadarnhaodd Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) yn ddiweddar y bydd y ‘rheol anifeiliaid bach sy’n cnoi cil’ diwygiedig yn dod i rym ar 3ydd Ionawr 2022, a fydd yn caniatáu allforio cig oen o’r DU i farchnad yr Unol Daleithiau yn dilyn degawdau o gyfyngiadau.

Rhagwelir y bydd hyn yn cyflenwi marchnad o dros 300 miliwn o bobl, a bydd yn werth £37 miliwn dros y pum mlynedd cyntaf (£7.4 miliwn y flwyddyn) i ddiwydiant y DU. Yn ôl ymchwil Hybu Cig Cymru (HCC) i’r farchnad, mi allai gynnwys “galw sylweddol am gig oen o ansawdd da.”

Yn ystod naw mis cyntaf 2021 yn unig, allforiodd y DU gyfanswm o werth £303 miliwn o gig oen, gyda £228 miliwn o hwnnw (95 y cant) yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd.

O ystyried yr ystadegau, mae UAC wedi dadlau ers amser maith dros bwysigrwydd cael masnach rydd hwylus rhwng y DU a’r UE ar gyfer marchnadoedd nwyddau amaethyddol, ac wedi pwysleisio’r un pwynt mewn ymateb i agor y farchnad Siapaneaidd ar gyfer cynhyrchwyr y DU yn Ionawr 2019, y rhagwelwyd y byddai’n werth £52 miliwn i gig oen dros gyfnod o bum mlynedd (£10.4 miliwn y flwyddyn).

Er bod agor marchnadoedd o’r fath ar gyfer cynnyrch amaethyddol yn rhywbeth i’w groesawu wrth gwrs, bach iawn yw’r budd ariannol i ddiwydiant cig coch y DU o’i gymharu ag effeithiau posib cytundeb masnach rydd â gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd, a’r posibilrwydd o ryfel masnachu â’r UE os torrir Protocol Gogledd Iwerddon.

Mae UAC yn parhau i annog Llywodraeth y DU i beidio â cholli golwg ar bwysigrwydd cynnal masnach rydd â’r UE tra’n trafod a chanolbwyntio ar gytundebau masnach newydd â mannau eraill.