Diweddariad ar Brexit a phroblemau gyda’r gadwyn gyflenwi

Mae diwydiant bwyd y DU yn parhau i wynebu trafferthion yn sgil rhwystrau allforio sy’n gysylltiedig â Brexit, a phroblemau gyda’r gadwyn gyflenwi a achoswyd yn bennaf gan bandemig Covid-19.

Mae’r cynnydd yn araf o hyd yn nhermau sefydlu Safleoedd Rheoli Ffiniau yn Sir Fôn a Sir Benfro. Er bod Safle Rheoli Ffiniau wedi’i gytuno ar gyfer Sir Fôn ym Mawrth 2021, mae’r gwaith adeiladu a threfnu i gael y safle’n barod i weithredu yn araf, tra bod y trafodaethau ar gyfer safle yn Sir Benfro dal ar y gweill.

Serch y trafodaethau cyfredol ynghylch sut i fynd i’r afael â materion Protocol Gogledd Iwerddon, mae Llywodraeth Iwerddon wedi datgelu bod y masnachu trawsffiniol rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon wedi cynyddu €2.8 biliwn yn 2021, gyda mewnforion i’r Weriniaeth o Ogledd Iwerddon i fyny 65%, i €3.9 biliwn, ac allforion o’r Weriniaeth i Ogledd Iwerddon i fyny 54%, i €3.7 biliwn.

Y cynnydd mwyaf yn y masnachu i’r ddau gyfeiriad oedd bwyd ac anifeiliaid byw, ond disgynnodd y mewnforion o Brydain o €2.3 biliwn ar gyfer yr un cyfnod.

Mae cyflwyno Tystysgrifau Iechyd Allforio, a ddaeth ar gael 24 awr yn unig cyn iddynt ddod i rym, wedi arwain at amryw o broblemau, yn bennaf drwy achosi i rai allforwyr llaeth orfod cadw llwythi sy’n mynd i’r Undeb Ewropeaidd yn ôl.

Er bod yr UE wedi gofyn i Aelod-wladwriaethau fod yn hyblyg mewn perthynas â’r tystysgrifau newydd tan ddiwedd Ebrill, mae yna bryder na fydd modd allforio cynnyrch a wnaed o laeth buchesi sy’n cynnwys anifeiliaid a fewnforiwyd i’r DU yn y tri mis blaenorol i’r UE ar ôl Ebrill, oni bai bod llaeth o’r anifeiliaid a fewnforiwyd yn cael ei gadw ar wahân. Gall fod angen ardystiad nad yw’r cynnyrch yn cynnwys llaeth o anifeiliaid o’r fath. Mi fydd hyn hefyd yn effeithio ar allforion i Ogledd Iwerddon.


Mae Grŵp Monitro Marchnad Amaeth y DU yn parhau i fontro’r cynnydd yn y costau mewnbwn, yn arbennig yn nhermau gwrtaith – er bod disgwyl i gostau gwrtaith (tua £650 y dunnell) a’i argaeledd (ysbeidiol) gael effaith yn ei dro ar gostau mewnbwn eraill ac argaeledd porthiant wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 1af Chwefror ei bod wedi ffurfio cytundeb â safle CF Fertisilers yn Billingham, yn caniatáu iddo barhau i weithredu tra bod y prisiau nwy byd-eang yn dal i fod yn uchel – gan sicrhau bod y cynhyrchu’n parhau a bod y diwydiant bwyd yn dal i gael mynediad at gyflenwadau o garbon deuocsid.

Yn nhermau’r sector moch, mae dros 30,000 o foch wedi’u difa ar ffermydd erbyn hyn oherwydd y problemau sy’n wynebu’r diwydiant. Ar hyn o bryd mae tua 170,000 o foch wedi’u cadw’n ôl ar ffermydd oherwydd problemau yn y gadwyn gyflenwi.

Mae mesurau Cymorth Storio Preifat ar gyfer y diwydiant moch yn Lloegr, a gyflwynwyd ym mis Hydref, wedi’u diwygio a’u hymestyn erbyn hyn, gyda’r ceisiadau’n cau ar 2il Chwefror 2022 neu yn gynt os bydd yr uchafswm tunelledd oedd ar gael, sef 14,000 o dunelli, wedi’i ddiwallu.

Mae cyfraddau swyddi gwag mewn safleoedd prosesu’n parhau i fod yn uchel, ar tua 20%, gyda’r gyfradd uchaf o swyddi gwag mewn safleoedd prosesu cig, yn sgil prinder gweithwyr mudol, a gweithwyr lleol ddim yn dychwelyd ar ôl bod ar ffyrlo, neu’n chwilio am yrfa arall.

Ar Noswyl Nadolig, cafodd y Cynllun Gweithwyr Tymhorol mewn Amaethyddiaeth ei ymestyn am dair blynedd ond nid oedd yn cynnwys gweithwyr dofednod.

Amcangyfrifir bod cyfanswm y swyddi gwag yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn 140,000.