Gweithdai Arferion Amaethyddiaeth Gylchol

Mae gweithdai Arferion Amaethyddiaeth Gylchol yn cael eu cydlynu gan Brifysgol Bangor ar gyfer DEFRA.

Mae’r gweithdai’n chwilio am gyfranogwyr sy’n arddel, neu sydd â diddordeb mewn arferion Amaethyddiaeth Gylchol. Mae’r rhain yn cynnwys arferion megis Treuliad Anaerobig, ffermio cymysgedd o gnydau a da byw, rhannu peiriannau ac adnoddau eraill, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, systemau pori hunangynhaliol, neu gynhwysion porthiant amgen.

Bydd y gweithdai’n gyfle i rannu barn a phrofiadau am amaethyddiaeth gylchol, a hefyd yn gyfle i gyd-drafod y rhwystrau, cyfleoedd a ffyrdd gwahanol o fabwysiadu arferion cylchol penodol.  Bydd canlyniadau’r gweithdai hyn yn helpu i nodi a datblygu ffyrdd o gynorthwyo ffermwyr i symud tuag at arferion cylchol. 

Os hoffech chi gymryd rhan mewn gweithdy ar-lein a gynhelir yn ystod Ebrill/Mai, cofrestrwch yma

Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni

Bydd y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni ar gael am 12 mis o 1af Ebrill 2023 hyd 31ain Mawrth 2024.

Mae’r cynllun hwn yn disodli’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni a oedd yn cefnogi busnesau a sefydliadau rhwng 1af Hydref 2022 a 31ain Mawrth 2023.

Bydd y gostyngiad sylfaenol yn darparu cymorth gyda biliau ynni i gwsmeriaid annomestig cymwys ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon – bydd y cymorth hwn ar gael yn awtomatig.  

Gwasanaeth Rhagolygon Nematodirus

Mae APHA wrthi’n cynorthwyo gyda Rheolaeth Gynaliadwy o Barasitiaid mewn Defaid (SCOPS) drwy greu gwasanaeth Rhagolygon Nematodirus. 

Mae Nematodirosis yn glefyd hynod o gas mewn ŵyn, sy’n arwain at nifer fawr o farwolaethau ac yn amharu ar dyfiant llawer o rai eraill.    Fe’i achosir gan y llyngyr Nematodirus battus, sydd â chylch oes gwahanol i lyngyr defaid eraill.  Dan rhai amodau hinsawdd, gall daro’n sydyn iawn, heb ddim, neu fawr ddim rhybudd.

Mae Gwasanaeth Rhagolygon Nematodirus SCOPS wedi bod ar waith ers diwedd Chwefror.  Mae’r map rhagolygon yn cael ei ddiweddaru bob dydd, gan ddefnyddio data 140 o orsafoedd tywydd (a ddarperir gan y Swyddfa Dywydd), ac mae’n tracio newidiadau o ran risg trwy gydol y gwanwyn a’r haf cynnar. 

Gweithdai Gwerthuso Cyswllt Ffermio

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research i gynnal gwerthusiad allanol annibynnol o Cyswllt Ffermio, ac mae’n awyddus i gael barn y rhai sydd wedi derbyn cymorth gan Cyswllt Ffermio rhwng 2014 a 2022.

Maent yn chwilio am ffermwyr i gymryd rhan mewn gweithdy ar-lein awr o hyd, i gasglu adborth ar Cyswllt Ffermio, er mwyn helpu i siapio’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Cynhelir y gweithdai ar y dyddiadau canlynol rhwng 7 ac 8pm:

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Ebrill 2023

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Ebrill 2023

UAC yn croesawu’r cyhoeddiad am fuddsoddiad o £17 miliwn yn Pembrokeshire Creamery Ltd.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhoi croeso twymgalon i’r cyhoeddiad am fuddsoddiad o £17 miliwn i ddatblygu cyfleuster prosesu llaeth newydd yn Sir Benfro, gan greu 80 o swyddi newydd dros y blynyddoedd sydd i ddod yn ne orllewin Cymru.

Bydd Pembrokeshire Creamery Ltd yn cael ei laeth o ffermydd teuluol lleol i gyflenwi capasiti 70 miliwn litr y cyfleuster prosesu newydd, gan roi hwb i gadwyni cyflenwi llaeth lleol a’r economi ehangach. 

Mae llwyddiant y buddsoddiad hwn yn greiddiol i lwyddiant y sector ffermio llaeth yn ne orllewin Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £2 filiwn yn safle Parc Bwyd Sir Benfro ger Hwlffordd, ac mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn Pembrokeshire Creamery Ltd yn arddangos buddiannau creu cadwyni cyflenwi cynaliadwy a byr ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru.

Dylai’r cynnydd mewn mewnforion cig oen fod yn rhybudd difrifol, yn ôl UAC

Mi ddylai’r cynnydd o 17% mewn mewnforion cig oen y llynedd, yn ôl data masnachu 2022 y DU, a’r lefelau anarferol o uchel o gynnyrch wedi’i rewi o Seland Newydd yn dod i mewn i’r DU (ffigurau HCC) a gofnodwyd rhwng Medi a Thachwedd, fod yn rhybudd difrifol i Lywodraeth y DU, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (UAC). 

Bu Gweinidogion, Aelodau Seneddol ac Arglwyddi oedd yn cefnogi agwedd ryddfrydol Llywodraeth y DU tuag at drafodaethau masnach â Seland Newydd ac Awstralia yn dadlau, ar y pryd, na ddylai diwydiant defaid Cymru fod yn bryderus, am fod y gwledydd hynny ymhell islaw’r cyfyngiadau cwota presennol, a bod hynny’n annhebygol o newid.

Rhybuddiodd UAC bryd hynny fod hon yn farn naïf neu fwriadol gamarweiniol, nad oedd yn rhoi ystyriaeth i’r modd y gall marchnadoedd byd-eang, cyfraddau cyfnewid a ffactorau eraill newid yn gyflym, gan gynyddu meintiau mewnforion, a chael effaith negyddol ar farchnadoedd y DU.  Roedd y cynnydd sylweddol mewn mewnforion cig oen o Seland Newydd yn 2022 yn dangos hynny’n glir, er bod UAC yn cydnabod bod yna ffactorau eraill hefyd ar droed o fewn y farchnad cig oen.

UAC yn gwrthwynebu’r bwriad i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer darparwyr llety yng Nghymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi mynegi pryderon ynghylch cynigion gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer darparwyr llety yng Nghymru.  Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, pwysleisiodd yr Undeb y dylid cyflwyno cynllun cofrestru statudol di-dâl yn lle.

Mae yna deimlad cryf ymhlith y gymuned ffermio sydd wedi arallgyfeirio i gynnig llety hunanddarpar y bydd nifer o’r polisïau sydd wedi’u cynllunio gan Lywodraeth Cymru, gyda’r bwriad da o daclo effeithiau ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, yn cael effaith andwyol ar ddarparwyr dilys.

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw polisïau o’r fath yn cael effaith ddi-droi’n-ôl ar ddiwydiant twristiaeth Cymru, a fyddai yn ei dro’n arwain at gynnydd sydyn yn y nifer o ddarparwyr llety sy’n gweithredu dan y radar.  O ganlyniad, mi allai hyn hefyd arwain at eiddo gwag na ellir ei ddefnyddio at ddibenion preswyl oherwydd amodau cynllunio.

Crynodeb o newyddion Mawrth 2023

Datgelu taliadau PAC yr Alban dan gais Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r symiau a dalodd yr Alban i hawlwyr yn 2022 dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Alban wedi’u datgelu yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth..

Serch terfyn uchaf o tua £500,000 ar gyfer y Taliad Arwynebedd Sylfaenol, roedd cyfanswm y taliad uchaf bron yn £3.4 miliwn, ac roedd y 10 taliad uchaf bron yn £1.2 miliwn a mwy.

Roedd mwyafrif y 10 taliad uchaf yn ystadau, tirfeddianwyr ac elusennau mawr, yn cynnwys taliadau cynlluniau amgylcheddol a phlannu coed ar raddfa eang.

Briff UAC – Y Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghymru ar ôl Brexit

Yn dilyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru ynghylch gwariant Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) yr UE, cadarnhaodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd fod y cyfanswm gwariant, ar ddiwedd 2022, yn £680 miliwn.  Mae gwerth y rhaglen  gyfan yn £842 miliwn felly mae tua £162 miliwn heb ei wario o hyd.

Dan reolau’r UE rhaid i Gymru fod wedi ymrwymo ei gwariant erbyn diwedd 2020 ac mae ganddi tan ddiwedd 2023 i ddefnyddio cyllid o’r fath, neu fel arall mi fydd yn cael ei ddychwelyd i’r UE.

Dywedodd y gweinidog fod y rhaglen wedi’i gor-ymrwymo, ac mae’n disgwyl i brosiectau gyflawni yn erbyn eu hamcanion cytunedig yn unol â rheol N+3 RDP 2014-2020.

Mae pryderon UAC ynghylch gweinyddu a monitro RDP Cymru 2014-2020 wedi cael cryn gyhoeddusrwydd, gan gynnwys yn nhermau’r tanwariant o 2020 ymlaen, a arweiniodd at y cyllid a ddisodlodd PAC yng Nghymru’n cael ei leihau o tua £250 miliwn gan Lywodraeth y DU.

Fodd bynnag, mae UAC hefyd yn bryderus, wrth i Gymru nesáu at ddiwedd cyfnod gwario cyllid RDP 2014-2020, bod Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen yn hynod o araf yn nhermau datblygu RDP cynhwysfawr i ddisodli’r un blaenorol, a bod ganddi, man gorau felly, gynllun elfennol yn ei le - heb fawr o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ynghylch datblygu cynllun disodli o’r fath.

Er bod UAC yn cydnabod bod ambell i gyhoeddiad wedi’i wneud sy’n ymwneud yn uniongyrchol â datblygu gwledig, mae yna bryder sylweddol bod dull tameidiog wedi datblygu/yn mynd i ddatblygu, gyda chynlluniau a mentrau’n cael eu cyhoeddi yn dilyn datblygiadau mewnol gan Lywodraeth Cymru, heb fawr ddim mewnbwn gan randdeiliaid ac arbenigwyr allanol, a dim rhaglen gyffredinol gynhwysfawr yn seiliedig ar dystiolaeth.

Yn naturiol, mae’r diffyg prosesau craffu ymddangosiadol (o’i gymharu ag RDP yr UE) yn nhermau rhoi cynlluniau o’r fath at ei gilydd a monitro eu cynnydd yn bryder, ac yn y cyd-destun hwn, ymddengys bod Llywodraeth Cymru’n symud/wedi symud tuag at y math o brosesau dylunio, asesu a gweinyddu ‘mwy hamddenol’ sydd yn eu lle erbyn hyn dan fodelau ariannu math Ffyniant Cyffredin/Ffyniant Bro Llywodraeth y DU - sydd wedi arwain at  feirniadaeth haeddiannol, gan gynnwys o du Llywodraeth Cymru, am eu dulliau gwasgaredig.

Hefyd, mae UAC yn bryderus bod diffyg cynllun RDP cynhwysfawr yng Nghymru’n golygu ein bod mewn perygl cynyddol o beidio â derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU, ar sail y ffaith na ddylid disodli cyllid Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) heb weld cynllun a thystiolaeth glir o’r modd y mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwario cyllid o’r fath, a sut y bydd Cymru’n elwa ohono.

Newidiadau i brofion TB yng Ngogledd Cymru

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi cyhoeddi newidiadau i brofion TB yn Ardaloedd TB Isel a Chanolradd Gogledd Cymru.  Bydd y newidiadau’n dod i rym ar 3ydd Ebrill 2023.

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd y profion cyffiniol a phrofion ar ôl achos (6 mis a 18 mis ar ôl codi’r cyfyngiadau symud) yn cael eu darllen gan ddefnyddio’r dehongliad llym yn lle’r dehongliad safonol.

Gyda buchesi lle mae’r profion wedi canfod buchod sydd wedi cael adwaith amhendant (IRs) (ond dim buchod adweithiol), bydd yr holl fuchod sydd wedi cael adwaith amhendant yn cael prawf gwaed gama.  Bydd canlyniadau’r prawf gama’n penderfynu beth fydd yn digwydd nesaf o fewn y fuches.

Bydd profion cyffiniol dilynol ar 6 mis, 12 mis a 18 mis yn cael eu darllen gan ddefnyddio’r dehongliad safonol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma 

Ardoll cig coch yn newid o 1af Ebrill

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi gwneud newidiadau i gyfraddau ardoll cig coch yng Nghymru, a fydd yn dod i rym o 1af Ebrill 2023.

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd y cyfraddau ardoll, o 1af Ebrill, yn cynyddu’n unol â  chwyddiant, gan olygu 6c ychwanegol o ardoll ar gyfer defaid i ffermwyr a 2c i broseswyr, a chynnydd cymesur o 40c yn yr ardoll ar gyfer gwartheg i ffermwyr, a 12c i broseswyr.

Hwn fydd y cynnydd cyntaf yn y cyfraddau ardoll cig coch yng Nghymru ers 2011.  Yn ôl HCC bydd y newidiadau’n caniatáu iddyn nhw wella’u marchnata ac effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi, ac yn sicrhau mwy o gynaliadwyedd yn y dyfodol.

Lansio rhaglen newydd Cyswllt Ffermio

Cafodd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £22.9 miliwn ei lansio gan Lywodraeth Cymru ar 23ain Chwefror i gefnogi ffermwyr wrth iddyn nhw baratoi i symud at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Mae’r rhaglen newydd, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths, yn gynnig cymorth i fusnesau, yn anelu at wella cadernid, yn sicrhau cyfleoedd i fanteisio ar y datblygiadau arloesol diweddaraf ac yn helpu i ddatblygu busnesau fferm.  Themâu cyffredinol y rhaglen newydd fydd cynaliadwyedd, gwell perfformiad amgylcheddol a gwell cystadleurwydd byd-eang.

Bydd y cymorth yn cynnwys rhaglen arddwriaethol a fydd yn darparu cymorth sector-benodol ar gyfer tyfwyr gwledig, a rhaglen ‘geneteg defaid’ newydd a ddatblygwyd ar gyfer ffermwyr defaid.

Bydd y rhaglen newydd hon yn rhedeg am ddwy flynedd tan fis Mawrth 2025 a bydd yn canolbwyntio ar baratoi ffermwyr at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Gallwch gysylltu â Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 neu ar: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy

Chwilio am ffermwyr ar gyfer treialon TB gwartheg

Dechreuodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gam cyntaf y treialon i berfformiad a diogelwch y prawf croen DIVA (Gwahaniaethu Rhwng Anifeiliaid Wedi’u Brechu ac Anifeiliaid Wedi’u Heintio) newydd i ganfod bTB mewn da byw heb eu brechu yn 2021.  Mae canlyniadau cam un yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.

Mae cam dau yn cynnwys treialon maes a fydd yn asesu diogelwch y brechlyn CattleBCG a diogelwch a pherfformiad y prawf croen DIVA pan gaiff ei ddefnyddio ar wartheg sydd wedi’u brechu.  Os bydd y cam hwn o’r profion yn llwyddiannus, mi allai’r DU fod un cam yn nes at frechu gwartheg yn erbyn bTB yn ddiogel a llwyddiannus.

Mae ffermwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y profion, a bwrw bod eu ffermydd yn bodloni’r meini prawf perthnasol.  Disgwylir y bydd y treialon wedi’u cwblhau cyn diwedd y flwyddyn.

Gofynnir i unrhyw rai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, ac sy’n bodloni’r meini prawf canlynol i ebostio This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. am fanylion pellach.

Y meini prawf ar gyfer cymryd rhan:

  • Buchesi â Statws heb TB Swyddogol (OTF) yn Ardaloedd Risg Isel (LRA) Lloegr neu Ardaloedd TB Isel (LTBA) Cymru
  • Buchesi sydd wedi bod mewn bodolaeth am wyth mlynedd neu fwy
  • O leiaf tair blynedd di-dor heb TB (statws OTF) gyda phrawf croen Twbercwlin Sengl (SICCT) wedi’i gwblhau o fewn tair blwyddyn galendr o Ddiwrnod -7
  • Ddim yn rhan o gyfundrefn profion TB ddwys neu gyffiniol ar hyn o bryd
  • Ddim o fewn ardal â phroblem TB gyfredol (fel y’u diffinnir gan APHA)
  • Heb brynu gwartheg o ardal TB risg uwch yn ystod y 12 mis diwethaf (o Ddiwrnod -7)
  • Dim profion TB statudol wedi’u trefnu yn ystod cyfnod yr astudiaeth arfaethedig (Diwrnod -7 i Ddiwrnod 91).

Arolwg Ailgyflwyno Afancod yng Nghymru

Cafodd afancod eu rhyddhau i’r gwyllt yn gyfreithiol yng Nghymru yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi ym Mhowys yn 2021, pan wnaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn gais llwyddiannus am drwydded i ryddhau chwe afanc.  Does dim ceisiadau ar droed ar hyn o bryd, ond dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn disgwyl un.

Mae’r rhai sy’n cefnogi’r ailgyflwyno’n honni eu bod yn helpu i daclo materion pwysig fel llifogydd, eu bod yn creu cynefinoedd newydd, a’u bod yn rhan bwysig o’r broses honno fel peirianwyr amgylcheddol.

Mae ffermwyr a physgotwyr yn tynnu sylw at eu heffeithiau negyddol ar y dirwedd, y difrod i lannau afonydd, colli tir cynhyrchiol oherwydd llifogydd, a phryder cyffredinol ynghylch rheoli poblogaethau o afancod dros y tymor hir, ymhlith pethau eraill.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru am gael darlun cliriach o ailgyflwyno afancod yng Nghymru fel rhan o’r adolygiad, ac maent wedi gofyn i Brifysgol Exeter i gynnal arolwg cyhoeddus i gael barn y cyhoedd ar ryddhau afancod, a lleoliadau addas ar gyfer gwneud hynny.

Mae’r arolwg yn debygol o ffurfio rhan o’r adolygiad, gan effeithio ar ganlyniad ceisiadau am drwyddedau rhyddhau yn y dyfodol.

Mae’r arolwg dienw’n cymryd tua 10-15 munud i’w gwblhau.  I ddweud eich dweud dilynwch y ddolen yma

Barn UAC ar ryddhau afancod yng Nghymru

Mae UAC yn erbyn ailgyflwyno afancod, o ystyried y dystiolaeth am y difrod y gallant ei achosi’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i dir ffermio, cnydau, a’r seilwaith, yn ogystal â’r effeithiau ehangach posib o fewn rhai ardaloedd gwledig - er enghraifft, llifogydd yn effeithio ar dai, ffyrdd a seilwaith tebyg, gan gynnwys atal cerbydau brys rhag defnyddio ffyrdd mewn ardaloedd sydd â seilwaith ffyrdd gwael.

Fodd bynnag, o ystyried bod afancod yn cael eu gwarchod yn Lloegr (a’r dybiaeth na fydd rheolaeth farwol); profiadau gwledydd eraill yn nhermau lledaeniad afancod, a’r perygl y bydd afancod yn cael eu hailgyflwyno’n gyfreithlon a/neu’n anghyfreithlon yng Nghymru serch y pryderon, dylid sefydlu fframwaith a strategaeth synhwyrol yng Nghymru i ddelio â’r canlynol:

1. Problemau a achosir gan y poblogaethau presennol

2. Problemau a achosir wrth i afancod ledaenu i diriogaethau newydd

3. Cynlluniau arfaethedig i ailgyflwyno afancod dan drwydded

4. Cyflwyno’n anghyfreithlon

Yn nhermau sicrhau bod modd mynd i’r afael â phroblemau a achosir gan afancod yn ddi-oed, ni ddylai Cymru roi statws gwarchodedig i afancod, oherwydd mi fyddai hynny’n rhwystro unrhyw gamau sydd angen eu cymryd - ar frys yn aml - i atal difrod sylweddol neu hyd yn oed berygl i fywydau o bosib.

Mae UAC o blaid gweithio gyda chyrff eraill sy’n rhannu pryderon yr Undeb, i sicrhau bod strategaeth a fframwaith cenedlaethol yn cael eu sefydlu sy’n atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf, a sicrhau bod yna ddulliau yn eu lle i reoli unrhyw effeithiau a all godi, yn seiliedig ar y profiadau ledled Ewrop ac yn fwy diweddar, yn y DU.

Dylai’r broses o greu strategaeth o’r fath ac unrhyw waith rheoli parhaus gael ei lywodraethu gan gorff sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob ochr sydd â diddordeb, gan gynnwys sefydliadau ffermio, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Traffig Cymru a Network Rail.  Dylai corff o’r fath fod ag adnoddau digonol, ac anelu at sicrhau cydbwysedd rhwng dyheadau’r rhai sydd am weld afancod yn cael eu hailgyflwyno â buddiannau rhywogaethau eraill a chynefinoedd Cymru, perchnogion a rheolwyr eiddo a seilwaith, a’r holl randdeiliaid perthnasol.

Os bydd yr awdurdodau’n caniatáu ailgyflwyno afancod, dylai’r rhai sy’n gyfrifol am y rhyddhau fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am negyddu’r holl effeithiau andwyol, gan gynnwys colledion ariannol a chostau dilynol i ffermwyr ac eraill, yn ogystal ag unrhyw gostau rheoli/cael gwared ag argloddiau ac ati.

UAC ac UK Fuels – Partneriaeth busnes newydd er budd aelodau’r Undeb

Fel rhan o aelodaeth Undeb Amaethwyr Cymru, gallwn bellach gynnig gostyngiadau unigryw ar bris tanwydd, gan arbed o leiaf 4c y litr ichi wrth y pwmp.  Mae hyn yn bosib, diolch i bartneriaeth busnes newydd rydym wedi’i sefydlu ar eich rhan gydag UK Fuels.

Mae cardiau tanwydd ar gyfer UK Fuels, Shell, Esso, BP a Texaco bellach ar gael gan UK Fuels ar gyfer holl aelodau UAC, gyda gostyngiad gwarantedig i’ch helpu i reoli eich gwariant ar danwydd yn well.  Mae buddiannau defnyddio’r cardiau tanwydd yn cynnwys:

  • Gostyngiad gwarantedig o 4c y litr oddi ar bris diesel safonol wrth y pwmp.
  • Mynediad at dros 3,700 o safleoedd ar rwydwaith UK Fuels.
  • Dim contract, taliadau cyfrif na thaliadau cerdyn.
  • Rheoli cyfrifon ar-lein gan ddefnyddio ap a gwefan Velocity.
  • Cynllunio’ch teithiau gydag e-route ar eich ffôn clyfar neu SatNav.
  • Bydd tanwydd di-blwm ar gael am y pris wrth y pwmp.
  • Codir pris y pwmp ar ddiesel a brynir yng ngorsafoedd tanwydd archfarchnadoedd.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru am eich cerdyn tanwydd, ewch i: https://www.ukfuels.co.uk/fuw-cym/

Ymgyrch Dawns Glaw a negeseuon llosgi dan reolaeth

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy'n dasglu amlasiantaeth o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny'n bosibl, i ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru. Lansiwyd ymgyrch Dawns Glaw 2023 ar ddiwedd Chwefror.  

Yn awr yn ei seithfed flwyddyn, mae rôl a chylch gwaith y tasglu’n parhau i ehangu i gynnwys canolbwyntio ar danau damweiniol, yn ogystal ag ymgysylltu mwy â ffermwyr a pherchnogion tir ynghylch cynlluniau rheoli tir.  Gallwch ddarllen mwy am Dawns Glaw yma

Maent hefyd yn hyrwyddo negeseuon cyffredinol ynghylch llosgi dan reolaeth drwy sianelau cyfryngau cymdeithasol, gan annog ffermwyr a pherchnogion tir i  ‘ffonio cyn llosgi’ a dilyn gweithdrefnau diogelwch sylfaenol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma

Lansio cynllun benthyciadau busnes gwyrdd

Mae Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd gwerth £10 miliwn i helpu busnesau yng Nghymru i leihau eu costau ynni a dod yn fwy effeithlon o ran ynni.  Bydd y cynllun yn rhedeg am 3 blynedd.

Mae prosiectau sy’n gymwys ar gyfer y cynllun yn cynnwys buddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwella effeithlonrwydd ynni o fewn adeiladau, uwchraddio systemau i leihau defnydd o ynni, a lleihau gwastraff/gwella defnydd o ddŵr.

I’w gwneud hi’n haws i fusnesau wneud y buddsoddiad cychwynnol sydd ei angen i ddod yn amgylcheddol gynaliadwy, bydd y cynllun benthyciadau’n cynnig cyfraddau llog gostyngedig a dyddiadau ad-dalu hyblyg.  Gall busnesau a fu’n masnachu am ddwy flynedd neu fwy wneud cais am fenthyciad busnes gwyrdd, o £1,000 hyd at £1.5 million.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cymorth a chyngor i helpu busnesau i leihau eu hôl troed carbon, all fod wedi’i ariannu’n llawn neu’n rhannol.

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://developmentbank.wales/cy/angen-busnes/cynllun-benthyciadau-busnes-gwyrdd

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Mawrth 2023

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Mawrth 2023

Datganiad UAC: Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Mae’r Bil Amaethyddiaeth yn gosod newidiadau sylfaenol i’r egwyddorion a fu’n greiddiol i’n diwydiant amaeth a’n cymunedau gwledig ers yr 1940au.  Mi fydd yn diffinio economi, amgylchedd, cymdeithas a diwylliant cefn gwlad Cymru am ddegawdau, felly mae angen iddo fod yn iawn.

Er bod Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu nifer o elfennau’r Bil ar ôl iddo gael ei gyflwyno i’r Senedd ym Medi 2022, mae UAC wedi codi nifer o bryderon ac wedi tynnu sylw at feysydd sydd angen eu gwella ym marn yr Undeb, i wneud darn mor bwysig o ddeddfwriaeth yn addas i’r diben.

Yn arbennig, o ystyried rhyng-gysylltedd a chyd-ddibyniaeth rheoli tir, cynhyrchu bwyd, a bywoliaethau gwledig, cafodd UAC ei syfrdanu gan y diffyg sylw neu amcanion yn ymwneud â hyfywedd economaidd teuluoedd ffermio a bywoliaethau trigolion cefn gwlad o fewn y diffiniad o Reoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) a’r egwyddorion cymorth a osodwyd yn y Bil.

Mae angen i’r cynllun trwyddedu arfaethedig fod yn hyblyg a gweithio i ffermwyr Cymru dros y tymor hir, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reoli maethynnau:  rheoli mewn ffordd gynaliadwy y modd y mae tail da byw yn cael ei wasgaru, gan bwysleisio bod angen i ofynion y cynllun fod yn hyblyg a gweithio i ffermwyr yng Nghymru dros y tymor hir. 

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig cynllun trwyddedu tebyg i system randdirymu’r Undeb Ewropeaidd, a fyddai’n caniatáu i ffermydd cymwys  gynyddu terfyn nitrogen blynyddol y daliad, o 170kg yr hectar i 250kg yn unol ag amodau arbennig - cynllun a fyddai’n cynnig sicrwydd i’r ffermwyr cymwys hynny sydd eisoes uwchlaw’r terfyn 170kg ond nad yw lleihau niferoedd stoc neu brynu/rhentu tir ychwanegol yn opsiynau ymarferol iddynt.

Fodd bynnag, mae yna bryder mawr o hyd am y meini prawf a’r gofynion arfaethedig a sut y bydd hynny’n pennu, i bob pwrpas, faint o ffermydd fydd yn gymwys mewn gwirionedd ar gyfer y cynllun trwyddedu.

UAC yn Rhwystredig o Hyd am yr Oedi gyda Deddfwriaeth BVD

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu’r ffaith bod y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cydnabod yr angen am raglen orfodol i reoli Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) ar lefel genedlaethol yng Nghymru, ond mae’r Undeb yn pwysleisio‘r angen i fynd ati i ddeddfu’n fuan fel na fydd y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn mynd yn ofer.

Cafodd yr angen i ddeddfu er mwyn rheoli BVD ei amlinellu mewn datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ar 31ain Ionawr.

Mae UAC yn croesawu’r ffaith bod y Gweinidog yn cydnabod yr angen am gydlyniad cenedlaethol i waredu’r wlad o BVD.  Fodd bynnag, mae’r Undeb wedi bod yn glir ers dechrau’r rhaglen wirfoddol Gwaredu BVD, sy’n cael ei hariannu gan y Cynllun Datblygu Gwledig, y gall unrhyw gynnydd a wnaed yn ystod y cam gwirfoddol fynd yn ofer os bydd yna fwlch sylweddol rhwng diwedd y rhaglen wirfoddol a dechrau’r ddeddfwriaeth.

Ni ddylai Teledu Cylch Cyfyng Mandadol mewn Lladd-dai roi baich ariannol ychwanegol ar ein cynhyrchwyr

Cafodd ymgynghoriad diweddar ar wneud Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) yn fandadol yn lladd-dai Cymru gefnogaeth gyffredinol gan aelodau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).  Roedd yr aelodau a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn gobeithio y byddai Teledu Cylch Cyfyng mandadol yn helpu i gynyddu hyder defnyddwyr yn y safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel a ddefnyddir i gynhyrchu da byw yng Nghymru.

Er bod yr aelodau’n cytuno gyda gosod Teledu Cylch Cyfyng mandadol mewn lladd-dai, roeddent yn glir na ddylid gorfodi’r diwydiant i ysgwyddo costau system gymhleth sy’n or-fiwrocrataidd, ymyrgar a haearnaidd.  Gall y modd y mae’r gadwyn gyflenwi bresennol  yn gweithredu gael effaith andwyol ar gynhyrchwyr cynradd, ac yn aml gall cynhyrchwyr ddod yn gyfrifol am ysgwyddo costau ychwanegol sydd wedi digwydd yn uwch i fyny’r gadwyn gyflenwi.  Wrth ymateb i ymgynghoriad diweddaraf Llywodraeth Cymru, pwysleisiodd UAC hefyd bod yna berygl y gall costau eithafol gosbi mentrau bach a chanolig.

Mae safleoedd o’r fath yn chwarae rôl allweddol o fewn y diwydiant cyfan, yn cyflenwi amryw o farchnadoedd a gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys marchnadoedd lleol domestig a marchnadoedd arbenigol, drwy siopau cigydd, siopau delicatessen a mannau gwerthu eraill; marchnadoedd ethnig, sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r gadwyn gyflenwi, ac sy’n dibynnu’n bennaf ar ladd-dai canolig eu maint, yn ogystal â busnesau megis gwestai a bwytai, y mae eu llwyddiant yn dibynnu ar eu gallu i ddefnyddio cynnyrch busnesau lleol bach a chanolig.

Crynodeb o newyddion Chwefror 2023

Senedd yr UE yn cymeradwyo cynnig am strategaeth gwrtaith UE hirdymor 

Mewn cynnig a gymeradwywyd ym mis Chwefror, mae Senedd yr UE wedi annog Comisiwn yr UE i gymryd camau i ostwng prisiau a chynyddu ymreolaeth strategol yr UE dros wrteithiau.

Yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, cododd prisiau gwrtaith ac ynni yn sydyn iawn, gyda phrisiau gwrtaith nitrogen yn cynyddu o 149%, a’r gwneuthurwyr gwrtaith mwyaf yn cofnodi elw mwy nag erioed.

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Chwefror 2023

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Chwefror 2023

Adroddiad UAC ar y Farchnad Laeth

Gellid yn hawdd anghofio bod costau mewnbwn megis porthiant, tanwydd a gwrtaith eisoes yn codi’n raddol tua diwedd 2021.  Fodd bynnag, roedd rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin yn gatalydd ar gyfer y cynnydd enfawr mewn costau, a dechrau’r cynnydd cyflym yn y prisiau llaeth a gynigiwyd gan broseswyr yn 2022, gydag AHDB yn datgan cynnydd enfawr o 52.9% yn holl laeth Prydain rhwng Tachwedd 2021 a Thachwedd 2022. 

Daeth y proseswyr yn ymwybodol o’r cynnydd difrifol yng nghostau cynhyrchu llaeth yn fuan iawn, gan weithredu’n gyflym i godi’r pris a dalwyd am laeth i gefnogi a chynnal cyflenwadau, ond oherwydd y tywydd sych dros yr haf, cafodd ffermwyr drafferth cyrraedd lefelau 2021.

Cododd y lefelau cynhyrchu 2.5% ym Medi a Thachwedd, o’u cymharu â lefelau 2021 ac maent yn annhebygol o ostwng fel y gwnânt fel arfer yn y gaeaf.  Mi all hyn fod yn broblem toc pan fydd y lefelau ar eu hanterth yn y gwanwyn, a’r gormodedd tymhorol arferol o laeth ar y farchnad.

Taflenni Gwybodaeth Cyswllt Ffermio ar Reoliadau Adnoddau Dŵr 2021

Mae Cyswllt Ffermio wedi ychwanegu dwy daflen wybodaeth newydd i’w gwefan, sef:

Fel rhan o Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol 2021, mae’n ofynnol erbyn hyn i bob  busnes fferm sy’n taenu tail organig i gynhyrchu map risg.

Chwiliad Di-dâl am Filiau Cyfleustodau Busnes Rhatach

Gall Aelodau UAC chwilio am ddim am filiau cyfleustodau busnes rhatach drwy Love Energy Savings.

Mae amaethyddiaeth yn ddiwydiant sy’n defnyddio llawer o ynni, ac i nifer o ffermydd ledled Cymru mae’r cynnydd yn y prisiau ynni’n bryder parhaus.

Mewn sector lle mae llwyddo neu fethu’n dibynnu ar linellau elw a cholled tynn, mi all fod yn hanfodol i fferm ystyried ffyrdd o leihau costau, a gwario llai o arian ar nwy a thrydan er mwyn goroesi a ffynnu. 

Crafiadau croen am ddim ar gyfer y clafr

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n cynnig crafiadau croen am ddim ar gyfer y clafr trwy’r flwyddyn.

Mae’r prawf diagnostig di-dâl ar gyfer defaid sy’n arddangos arwyddion clinigol yn unig.

Bydd y samplau o grafiadau croen yn cael eu derbyn yn y ffordd arferol drwy filfeddyg, a dylid eu postio’n uniongyrchol i Ganolfan Ymchwil Milfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yng Nghaerfyrddin, lle byddant yn cynnal profion arnynt.  Does dim angen llenwi holiadur epidemioleg bellach i fod yn gymwys ar gyfer profion am ddim.

Arolwg Clefyd Johne

Mae prosiect ymchwil ar Glefyd Johne sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Cranfield, ar y cyd ag Interherd+, My Healthy Herd a’r BBSRC (Y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol) yn chwilio am gyfranogwyr.  Nod y prosiect yw ymchwilio i’r rhwystrau rhag rhoi mesurau rheoli Clefyd Johne ar waith ar ffermydd.

Maent am siarad â milfeddygon a ffermwyr am eu profiad o reoli Clefyd Johne.  Maent wedi datblygu arolwg byr i gasglu barn gychwynnol ar reoli Clefyd Johne ac i ofyn i filfeddygon a ffermwyr a fyddent yn fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad ymchwil byr.

I fynegi’ch diddordeb mewn cymryd rhan yn yr arolwg llenwch yr holiadur byr yma

Adroddiad Cig Oen Hybu Cig Cymru

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio adroddiad ‘Rhwng y Llinellau’ newydd sy’n dadansoddi’r cyflenwad cig oen a ffactorau ehangach sy’n effeithio ar y farchnad.

Mae’r adroddiad yn astudiaeth fanwl o’r gymysgedd o heriau marchnad sydd wedi rhoi pwysau ar brisiau cig oen ar ddechrau 2023.  Mae’r rhain yn cynnwys yr argyfwng costau byw, rhyfel Wcráin, y cynnydd mewn mewnforion, a’r sychder yn ystod haf 2022.

Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ymlaen at y misoedd sydd i ddod, gan ddadansoddi data amrywiol i helpu ffermwyr i asesu’r cyflenwad posib o ŵyn ar y farchnad dros y tymor sydd i ddod.

Clinig Iechyd Anifeiliaid Cyswllt Ffermio

Mae Cyswllt Ffermio’n cynnig gwasanaeth samplo, profion, a chyngor un i un gan feddygon lleol i fusnesau fferm yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda nhw.

Mae cyllid ar gael ar gyfer unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd anifeiliaid, all gynnwys profion ffrwythlondeb, profion gwaed, cyfri’r wyau mewn carthion, IBR, Leptosbirosis a chloffni.

I fod yn gymwys, rhaid ichi fod wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio, a rhaid i ffermwyr a milfeddygon gadarnhau eu diddordeb gyda Cyswllt Ffermio cyn y gwneir unrhyw samplo/profion, a rhaid i’r profion gymryd lle o fewn 30 diwrnod o’r dyddiad dosbarthu.

Gweminar ar y Sychder yng Nghymru yn 2022

Mae Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd (CIWEM) yn cynnal gweminar a fydd yn rhoi darlun o’r modd y rheolir sychder yng Nghymru, ynghyd â chrynodeb o’r uchafbwyntiau hydrolegol a’r dilyniant o ddigwyddiadau yn ystod 2022.

Cynhelir y weminar ar 16eg Mawrth 2023 rhwng 4pm a 5.30pm ac mae’n un ddi-dâl. 

Yn 2022, rhwng Mawrth a Medi, cafodd Cymru 63.8% yn unig o’i glawiad arferol yn ystod y saith mis sychaf mewn 150 o flynyddoedd.  O ganlyniad, cyhoeddwyd cyfnod o Sychder am ran helaeth o’r haf ledled Cymru gyfan, gyda’r adferiad yn dechrau ar ôl glaw bendithiol yr hydref, tua diwedd Tachwedd 2022. 

Incwm ffermydd Cymru’n codi yn 2021-2022

Mae’r ffigurau diweddaraf a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru yn sgil yr Arolwg Busnesau Fferm yn dangos bod incwm ffermydd yng Nghymru, am y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mawrth 2022, wedi codi am y drydedd flwyddyn yn olynol ar ffermydd Llaeth a Gwartheg a Defaid ALFf (Ardaloedd Llai Ffafriol), ac am yr ail flwyddyn yn olynol ar ffermydd Gwartheg a Defaid yr Iseldir.

Gwelodd ffermydd Llaeth gynnydd o 46%, i fyny i £88,000 o’i gymharu â 2021, gyda ffermydd Gwartheg a Defaid ALFf yn gweld cynnydd o 29%, i fyny i £38,600. Gwelodd ffermydd Gwartheg a Defaid yr Iseldir gynnydd o 6%, i fyny i £26,500.

Mae’r ffigurau a ryddhawyd yn ymwneud â’r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31ain Mawrth 2022.  Roedd hynny yn ystod pandemig Covid-19 ac oherwydd y cyfyngiadau, roedd y sampl o ffermydd y llwyddwyd i’w cofnodi ychydig yn llai nag arfer.  Hefyd, nid yw’n cynnwys Argyfwng Wcráin ar y cyfan, a ddechreuodd yn ystod wythnos olaf Chwefror 2022.  Mae’n bur debyg y bydd yna lawer o effeithiau yn sgil y rhyfel, ond mae’r canlyniadau hynny’n debygol o ddod i’r fei pan ryddheir ffigurau 2022-23 y flwyddyn nesaf.

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.gov.wales/sites/default/files/statistics-and-research/2023-01/farm-incomes-april-2021-march-2022-673.pdf

Arolwg ar agweddau ffermydd y DU tuag at glefydau rhewfryn mewn defaid

Mae Carys Vaughan, myfyriwr Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal arolwg fel rhan o brosiect traethawd hir ar:   Dirnadaeth ac agweddau ffermwyr y DU tuag at glefydau rhewfryn mewn defaid.  A oes cyfle ar gyfer cynllun sgrinio am glefydau rhewfryn i wella gwerth marchnad mamogiaid ac ŵyn benyw?

Y nod yw pennu’r ddealltwriaeth bresennol o glefydau rhewfryn o fewn y gymuned ffermio, a ph’un ai oes cyfle ar gyfer sgrinio am glefydau rhewfryn.

Saesneg

Cymraeg

 

Gwobrau Farmers Weekly 2023

Mae’r ceisiadau a’r enwebiadau ar agor erbyn hyn ar gyfer gwobrau Farmers Weekly 2023.  Mae 15 o gategorïau a’r dyddiad cau yw 30ain Ebrill 2023.  Gallwch wneud cais eich hunan neu enwebu rhywun arall o fewn y diwydiant amaeth.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflawniad ffermwyr ledled y DU.

Y 15 categori ar gyfer 2023 yw:-

Datganoli’n darparu cyfle i greu atebion penodol i Gymru i’r argyfwng bwyd ac ynni

Mae datganoli’n darparu cyfle i greu atebion penodol i Gymru i’r argyfwng bwyd ac ynni  – dyna oedd y neges allweddol a gyflwynwyd gan UAC wrth gwrdd ag Aelodau’r Senedd yn nigwyddiad Brecwast Fferm blynyddol yr Undeb yng Nghaerdydd.

Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd yn yr Eglwys Norwyaidd Ddydd Mawrth 24 Ionawr 2023 pwysleisiwyd bod gan y Bil Amaethyddiaeth sy’n cael ei ystyried gan y Senedd ar hyn o bryd – Bil sy’n cynrychioli’r newidiadau mwyaf ym myd amaeth ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd – y potensial i ddatrys nifer o’r problemau mae’r wlad yn eu hwynebu ar hyn o bryd.  

Trwy ddiffiniad bron, mae ffermwyr yn gynhyrchwyr bwyd, ac mae’n werth cofio, yn ystod y Brecwast Senedd cyntaf i’w gynnal ers i’r pandemig droi’r byd cyfan wyneb i waered yn 2020, pa mor agos y daeth y wlad at weld cadwyni cyflenwi bwyd domestig a byd-eang hanfodol yn dymchwel yn ystod y pandemig. 

Y niferoedd bach sy’n rhan o gynlluniau sy’n disodli’r BPS yn Lloegr yn bryder i gymunedau trawsffiniol yng Nghymru

Hyd yn hyn mae’r Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy (SFI) a lansiwyd yn Lloegr ym Mehefin y llynedd, i gymryd lle Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), wedi talu 224 o ffermydd yn unig, yn ôl ffigurau a ryddhawyd yn answyddogol gan bapur newydd The Guardian.  Cafodd taliadau BPS i ffermwyr yn Lloegr eu cwtogi yn 2021 a’r bwriad yw eu diddymu’n llwyr erbyn 2027.  Mae’r cyfanswm o 224 o ffermydd sy’n derbyn taliadau SFI yn cyfrif am 0.2% yn unig o’r 102,000 o hawlwyr BPS.

Mae gweinidog ffermio DEFRA, Mike Spencer, wedi dweud fod yr arian a gymerwyd o’r BPS wedi bod ar gael i ffermwyr drwy grantiau unigol a chynlluniau parhaus.  Mae’r ffaith mai dim ond nifer fach sydd wedi manteisio ar yr SFI wedi arwain at feirniadaeth ynghylch diffyg hyder, yn sgil diffyg manylion am y cyfraddau tâl a’r safonau gofynnol.

O 2023, cyflwynwyd taliad newydd o £20 yr hectar ar gyfer y 50 hectar cyntaf, i gwrdd â chostau cymryd rhan yn y cynllun SFI, a bwriedir ychwanegu mwy o opsiynau.

Mewnforion Bwyd a Diod o Iwerddon i’r DU yn cynyddu yn 2022

Mae ffigurau a ryddhawyd gan lywodraeth Iwerddon yn dangos bod allforion bwyd i’r DU wedi cynyddu’n sylweddol yn 2022, gan gyrraedd €5.4 biliwn, sef bron €1 biliwn o gynnydd o un flwyddyn i’r llall.  Cafodd cyfanswm uwch nag erioed, sef gwerth €16.7 biliwn o fwyd, diodydd a chynnyrch garddwriaethol ei allforio o’r Weriniaeth y llynedd, i fyny 22% neu €3 biliwn ar y flwyddyn flaenorol, gyda 32% yn cael ei allforio i’r DU fel y farchnad sengl fwyaf.  Cafodd  34% ei allforio i’r UE,  a’r 34% arall i farchnadoedd rhyngwladol.

Gellir priodoli’r cynnydd mewn allforion bwyd a diodydd i’r prisiau uwch fesul uned, yn sgil chwyddiant a chostau mewnbwn cynyddol, a chynnydd ym meitniau’r nwyddau a allforiwyd.  Cynyddodd gwerth y bwyd a’r diodydd a allforiwyd i’r DU ar draws y rhan fwyaf o’r categorïau.

Cododd gwerth Bwydydd Wedi’u Paratoi ar gyfer y Defnyddiwr i’r DU o 14%, i  €2 biliwn, gan gynnwys cig eidion a chig dofednod gwerth ychwanegol, melysion a phrydau cyfleus yn bennaf. Cynyddodd allforion Cynnyrch Llaeth Iwerddon i’r DU o 39%, i €1.2 biliwn, gyda chaws a menyn yn perfformio orau, ac yn cyfrif am 50% o’r allforion.  Cynyddodd allforion cig eidion o Iwerddon i’r DU o 15% gan gyrraedd €1.1 biliwn, sef 43% o holl allforion cig eidion Iwerddon.  Cynyddodd allforion cig defaid Iwerddon 15% o un flwyddyn i’r llall, i €78 miliwn, a hynny’n rhannol am fod gan rhai o broseswyr cig oen mawr Iwerddon gyfleusterau yn y DU hefyd, a’u bod am wneud y defnydd mwyaf o’r rheiny.  Cynyddodd allforion garddwriaethol Iwerddon i’r DU o 3% yn 2022, i €276 miliwn, gyda madarch yn cyfrif am dros hanner y gwerth hwnnw.  Gwelwyd cynnydd o 4% yn y diodydd o Iwerddon, i €276 miliwn.

Comisiynydd Amaeth yr UE yn galw am fwy o gyllideb

Mae Comisiynydd Amaeth yr UE, Janusz Wojciechowski wedi dadlau dros gynyddu cyllideb y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ar gyfer y cyfnod nesaf, sy’n dechrau yn 2028.  Wrth siarad mewn cyfarfod o Bwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop ar 9fed Ionawr, ac yna’n nes ymlaen yng nghyfarfod llawn Senedd Ewrop ar 17eg Ionawr, cyflwynodd ei ddadl dros gynyddu’r gyllideb ar gyfer cymorthdaliadau fferm

Rhai misoedd yn gynharach, mewn cyfweliad â gwasanaeth newyddion Comisiwn yr UE, Euractiv, dywedodd Mr Wojciechowski nad oedd y gyllideb PAC yn ddigonol i sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd, a bod hynny wedi dod i’r amlwg yn ystod pandemig Covid-19 a’r rhyfel yn Wcráin.  Dywedodd hefyd fod y PAC presennol yn cael ei ledaenu’n rhy denau a dylid cyfeirio taliadau yn y dyfodol at ffermwyr a chynhyrchu bwyd.

Wrth siarad yn ystod y mis hwn, dywedodd fod lefelau chwyddiant uchel yn erydu’r gyllideb PAC, a bod pob hyblygrwydd dan y fframwaith presennol i geisio lliniaru effaith chwyddiant uchel eisoes wedi’i roi ar waith.  Dadleuodd hefyd nad oedd y cynnydd a welwyd ym mhrisiau bwyd yn ddigon i wrthsefyll y cynnydd mewn costau mewnbwn, ac nad oedd y refeniw ffermio’n codi digon i wneud iawn am yr erydiad yn y taliadau PAC yn sgil chwyddiant.

Crynodeb o Newyddion Ionawr 2023

Cynnydd yn y mewnforion cig oen o Seland Newydd yn effeithio ar Fasnach Cig Oen y DU

Mae cynnydd o 11% yn y mewnforion cig oen wedi’i rewi o Seland Newydd yn 2022 yn golygu bod prisiau cig oen y DU wedi gostwng i’w lefel isaf mewn deufis.  Mae’r gostyngiad hwn wedi dod ar adeg pan mae ŵyn yn cael eu pesgi ar ddwysfwyd yn bennaf, ac mae pris hwnnw wedi codi’n sylweddol, o tua 30%, dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ochr yn ochr ag amgylchedd manwerthu anoddach oherwydd yr argyfwng costau byw, mae cwymp yn y prisiau pwysau byw a phwysau marw, yn ogystal â phrisiau ŵyn stôr, ar adeg pan mae prisiau fel arfer wedi codi yn y gorffennol, yn peri pryder o fewn y sector defaid.

Stocrestr Flynyddol Defaid

Mae ceidwaid defaid a geifr yng Nghymru’n cael eu hatgoffa i gyflwyno’u stocrestr flynyddol erbyn 1af Chwefror 2023 i osgoi cosbau posib. 

Mae’n ofyniad cyfreithiol ar geidwaid i lenwi Stocrestr Flynyddol dan Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015.

Dylai nifer y defaid a gofnodir gynnwys defaid bridio, hyrddod, ŵyn hyrddod, ŵyn stôr ac ŵyn wedi’u pesgi, mamogiaid/hyrddod i’w difa a defaid eraill.  Rhaid i ffermwyr hefyd gofnodi nifer y defaid a’r geifr ar y daliad ar y dyddiad dynodedig yng Nghofnod Diadell y fferm.

Rhaid i hwn restru rhifau pob daliad (CPH) lle rydych yn berchen defaid a/neu eifr ar y dyddiad dynodedig.  Mae hyn yn cynnwys tir comin a thir dros dro.  Bydd methu â llenwi’r gofrestr yn cynyddu’r risg o gael eich dewis ar gyfer archwiliad.  Gallwch lenwi’r gofrestr ar-lein ar www.eidcymru.org

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â llinell gymorth gwasanaeth EIDCymru ar 01970 636959 neu e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Profion BVD am Ddim yn Dod i Ben

Daeth y cynllun sgrinio BVD a chanfod gwartheg sydd wedi’u heintio’n gyson, a gynigiwyd am ddim fel rhan o’r Rhaglen Gwaredu BVD gorfodol, i ben ar 31ain Rhagfyr 2022.  Cymerodd dros 9300 (85%) o ffermydd gwartheg yng Nghymru ran yn y rhaglen 5 mlynedd hon.

O 1af Ionawr 2023, bydd yn rhaid i bob ffermwr dalu i’w filfeddyg am unrhyw brofion BVD a gynhelir.  Bydd y costau’n dibynnu ar y filfeddygfa unigol.  Mae UAC yn argymell bod aelodau’n dal ati i sgrinio’u buchesi a, lle bo angen, yn canfod gwartheg sydd wedi’u heintio’n gyson, ac yn cael gwared ag unrhyw anifeiliaid o’r fath a ganfyddir er mwyn dal ati gydag unrhyw welliannau a wnaed eisoes i daclo’r clefyd sylweddol a chostus hwn.

Gall milfeddygon barhau i ddefnyddio’r ffurflen Gwaredu BVD pan fydd ceidwaid gwartheg sydd â buchesi gyda chanlyniadau gwrthgyrff negyddol am dderbyn eu tystysgrif Gwaredu BVD.

Angen ffermwyr i gymryd rhan mewn ymchwil Llinad y Dŵr

Mae Prifysgol Aberystwyth yn chwilio am ffermwyr i gymryd rhan mewn ymchwil ar dyfu Llinad y Dŵr mewn slyri a storfeydd dŵr gwastraff,  Mae Llinad y Dŵr yn un o’r planhigion cyflymaf ei dwf ac mae’n llawn protein, a’r gobaith yw y gallai ddarparu ffynhonnell werthfawr o fwyd ar ffermydd, gan ‘lanhau’ dŵr gwastraff a slyri ar yr un pryd.

Mae’r ymchwil, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cork, wedi’i gynnal mewn labordai ac mewn tanciau ar dir Prifysgol Aberystwyth hyd yn hyn.

Dylai ffermwyr sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect Brainwaves (Bilateral Regional Accord between Ireland and Wales for Agricultural Valorisation and Environmental Sustainability) fynd i wefan Brainwaves: https://www.ucc.ie/en/brainwaves/

Grant Gwyrddu Amaethyddiaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n chwilio am bartneriaid o fewn y diwydiant llaeth i weithio gyda nhw er mwyn ehangu eu prosiect peilot Gwyrddu Amaethyddiaeth. 

Mae Gwyrddu Amaethyddiaeth yn brosiect Carbon sy’n edrych ar ddulliau o wrthbwyso allyriadau, a dal a storio carbon yn y tir a’r gwrychoedd, gan weithio efo’r diwydiant llaeth yn arbennig.  

Mae cyllid o hyd at 80% ar gael i gefnogi datblygiadau newydd i arbed ynni, datblygiadau a all gynnwys ynni adnewyddadwy, storio ynni, cynaeafu dŵr glaw, systemau bancio rhew a chyfnewid gwres, a llu o ddulliau eraill a fydd yn helpu ffermydd llaeth i leihau neu wrthbwyso’u hallyriadau carbon.

Mae’r Parc Cenedlaethol am gefnogi Prosiectau o rhwng £10,000 a £40,000 gyda chyllid cyfalaf.  Mae un Ffenestr Ariannu ar ôl yn 2023 a fydd yn cau ar 30ain Ebrill 2023. Bydd angen dychwelyd ffurflen datgan diddordeb erbyn y dyddiad hwnnw.

Rhaid i’r daliad fferm fod o fewn Ffiniau’r Parc Cenedlaethol yn gyfan gwbl neu’n rhannol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid. 

Am sgwrs anffurfiol neu i drafod unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag  Arwel Evans , Swyddog Cadwraeth Ffermydd ar 01646 624 948 neu e-bostiwch: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. 

Arolwg Prifysgol Bangor: Cyfleoedd a Rhwystrau rhag cyrraedd Sero Net ar Ffermydd Cig Eidion a Defaid yn y DU

Mae’r myfyriwr PhD Louise McNichol yn archwilio strategaethau i gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr Sero Net ar ffermydd cig eidion a defaid (wedi’i hariannu gan raglen Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) a Hybu Cig Cymru).

Fel rhan o’r ymchwil ym Mhrifysgol Bangor mae hi’n cynnal arolwg i gael gwell dealltwriaeth o agweddau ffermwyr tuag at y targed Sero Net, ac i nodi cyfleoedd a rhwystrau rhag cyrraedd y targed.  Mae’r arolwg yn agored i bob ffermwr cig eidion a defaid yn y DU, ac mae’r cwestiynau’n ymwneud â rheolaeth fferm, ôl troed carbon, a’r defnydd o fesurau lliniaru nwyon tŷ gwydr.

Mae’r arolwg ar gael ar-lein ac mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau’n rhai ‘tic yn y blwch’ syml a ddylai gymryd tua 20 - 30 munud i’w cwblhau.  I gymryd rhan yn yr arolwg  ewch i https://bangor.onlinesurveys.ac.uk/net-zero-beef-and-sheep

Cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru

Mae’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru’n cynnig grantiau i ariannu, neu ariannu’n rhannol, y gost o osod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru. Mae’r cynllun yn cynnig cyllid ar gyfer gosod cysylltiadau’n unig ac nid yw'n cynnwys costau rhentu misol. 

Rhaid i gysylltiadau newydd drwy'r cynllun hwn sicrhau newid sylweddol mewn cyflymder. Rhaid i'r cysylltiad newydd o leiaf ddyblu’r cyflymderau lawr lwytho cyfredol.

Mae’r cyllid y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:

Hyrwyddo Cig Oen Cymreig PGI yn Japan

Am y tro cyntaf ers 2019 cafodd Gŵyl Hitsuji yn Japan, sy’n dathlu cig oen, ei chynnal yn Tokyo.  Daeth yr ŵyl â chyflenwyr a bwytai o America, Awstralia, Gwlad yr Iâ, Seland Newydd a Japan at ei gilydd.

Roedd Hybu Cig Cymru yn bresennol yn y digwyddiad i hyrwyddo Cig Oen Cymreig PGI, fel rhan o’i strategaeth fasnachu ar ôl Brexit i agor drysau newydd o fewn y farchnad fyd-eang.

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Ionawr 2023

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Ionawr 2023

UAC yn codi pryderon ynghylch cwtogi’r gyllideb materion gwledig a gwariant y Rhaglen Datblygu Gwledig

Codwyd pryderon sylweddol mewn cyfarfod o Brif Gyngor Undeb Amaethwyr Cymru ynghylch cwtogi cyllideb Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, a cholledion pellach posib os na fydd cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei wario.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ddiweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 ar 13 Rhagfyr, yn dangos gwahaniaethau sylweddol ym meintiau a dyraniadau’r gyllideb ers cyhoeddi’r gyllideb ddangosol ym mis Mawrth.

Serch bod Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU wedi arwain at £666 miliwn o gyllid pellach i Lywodraeth Cymru yn 2023-24, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cwtogi ei chyllideb materion gwledig o bron i naw miliwn o bunnoedd.