Gweminar Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol ar gael nawr i’w hail-wylio

Gweithiodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Anifeiliaid Hela a Chadwraeth Bywyd Gwyllt (GWCT) i dynnu sylw at y rôl bwysig mae ffermwyr yn ei chwarae yn gofalu am adar tir amaethyddol, yn ogystal â helpu ffermwyr i ddeall beth allan’ nhw ei wneud ar eu ffermydd i ddiogelu adar.

Cyn y Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol (4-20 Chwefror), cynhaliodd UAC weminar ar y cyd â GWCT ar 1af Chwefror.

Roedd y siaradwyr gwadd yn y weminar, a oedd dan gadeiryddiaeth Dirprwy Lywydd UAC, Ian Rickman yn cynnwys Matthew Goodall o GWCT, a siaradodd am bwysigrwydd cymryd rhan yn y Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol, cefndir y fenter, a sut y gellir cynyddu niferoedd adar tir amaethyddol. Trafododd Uwch Swyddog Polisi a Chyfathrebu UAC, Gareth Parry, y materion polisi sy’n effeithio ar y ffordd rydym yn cynhyrchu bwyd ac yn gofalu am yr amgylchedd er budd rhywogaethau adar Cymru, a chlywodd y weminar hefyd gan y ffermwr defaid a chig eidion o Gymru a chyn-lywydd sirol UAC ym Meirionnydd, Geraint Davies, a oedd wedi cymryd rhan mewn Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol blaenorol.

Mae’r weminar ar gael nawr i’w gwylio yma: https://www.fuw.org.uk/cy/adnoddau/seminarau-aelodau