Cyfarfod adeiladol gyda’r Gweinidog Materion Gwledig yn tynnu sylw at gamau posib mewn ymateb i effeithiau Wcráin ar gynhyrchu bwyd

Cafodd cynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) gyfarfod adeiladol â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd Lesley Griffiths i dynnu sylw at, a thrafod y camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru effeithiau rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin.

Ysgrifennodd UAC at y Gweinidog ar 4ydd Mawrth yn tynnu sylw at effeithiau’r rhyfel ac yn gofyn am drefnu cyfarfod bwrdd crwn brys gyda rhanddeiliaid.

Mae’r rhyfel yn cael, a bydd yn parhau i gael effaith fawr ar gadwyni cyflenwi bwyd y DU a chostau mewnbwn. Mae’r DU yn dibynnu’n drwm ar Wcráin a Rwsia am oddeutu tri deg y cant o’i india-corn, yn ogystal â nifer o gynhwysion eraill a ddefnyddir mewn bwydydd anifeiliaid, ac mae gwrtaith erbyn hyn yn costio tua mil o bunnau’r dunnell.

Ni fydd yr effeithiau go iawn yn cael eu teimlo yn y DU am fisoedd, wrth i’r lefelau cynhyrchu bwyd ostwng yn fyd-eang yn sgil prinder, a phrisiau mewnbwn anfforddiadwy.

Er mai dim ond hyn a hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i liniaru effeithiau o’r fath, mi fydd hi’n hanfodol sicrhau bod Cymru’n cynhyrchu gymaint â phosib o gnydau a phorthiant ar gyfer gaeaf 2022-23 ac i mewn i 2023 a thu hwnt.

Gyda hyn mewn golwg, ac yn dilyn cyfarfodydd llwyddiannus yn ystod Cynhadledd Plaid Lafur Cymru’n ddiweddar, cynigiodd UAC fod angen i fframwaith Bil Amaethyddiaeth Cymru fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu newidiadau, mewn ymateb i ddigwyddiad byd-eang fel hwn, a bod cynhyrchu bwyd yn cael ei ystyried fel budd cyhoeddus yng ngoleuni pryderon ynghylch diogelu’r cyflenwad bwyd.

Hefyd, gofynnwyd i’r Gweinidog ystyried llacio rheolau’r cynllun Glastir i helpu i liniaru’r effeithiau.

Unwaith eto, pwysleisiodd UAC yr angen i adolygu’r rheoliadau Adnoddau Dŵr ‘NVZ’ er mwyn galluogi ffermwyr Cymru i gynhyrchu mwy o borthiant eleni, a rhoi ystyriaeth i gostau cynyddol adeiladu.

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd lobïo Llywodraeth y DU i leihau’r TAW ar danwydd a chadw at ei hymrwymiad i leihau tariffau ar fewnforion grawn o’r Unol Daleithiau, i gymryd lle mewnforion o Wcráin a Rwsia - yn ogystal â thariffau ar ddeunydd arall pwysig megis dur.