RABI yn lansio gwasanaethau newydd mewn ymateb i’r Arolwg Ffermio Mawr

Mae’r Sefydliad Amaethyddol Brenhinol Llesiannol (RABI) wedi lansio dau wasanaeth cymorth newydd mewn ymateb i ganlyniadau’r Arolwg Ffermio Mawr, a ddatgelodd bod 36% o’r gymuned ffermio’n debygol o ddioddef, neu o bosib yn dioddef o iselder.

Mae cwnsela personol ar gyfer pobl ffermio, a hyfforddiant iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar ffermio ar gyfer y sector amaethyddol ehangach, yn ddau wasanaeth newydd sy’n anelu at ddarparu cymorth iechyd meddwl cynnar.

Mae’r cwnsela personol cyfrinachol a di-dâl yn darparu:
• Mynediad at gwnselydd proffesiynol o fewn 24 awr o alwad
• Cymorth heb atgyfeiriad clinigol
• Cymorth wedi’i ddarparu gan bobl broffesiynol hyfforddedig sy’n deall pwysau a heriau ffermio
• Cwnsela wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy fideo gynadledda.

Mae RABI yn gobeithio y bydd yr hyfforddiant iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar ffermio yn darparu platfform i unigolion o fewn y sector i siarad am eu profiadau, a magu’r hyder i gael y sgyrsiau hyn â phobl eraill.

Mae’r ddau wasanaeth yn cael eu darparu mewn partneriaeth â Red Umbrella, sef darparwr arbenigol, di-elw sy’n cynnig cwnsela iechyd meddwl achrededig, hyfforddiant iechyd meddwl, a chymorth ôl-ofal.


Ewch i www.rabi.org.uk i gael mwy o wybodaeth, neu i gael help ffoniwch llinell gymorth 24/7 RABI ar 0800 188 4444.