Llywodraeth Cymru’n chwilio am ffermwyr i fod yn rhan o gam nesaf y broses gyd-ddylunio

Mae Llywodraeth Cymru’n chwilio am fwy o ffermwyr i gymryd rhan yng ngham nesaf y broses o gyd-ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bwriedir cyflwyno’r cynllun arfaethedig yn 2025, gan ganiatáu cyfnod pontio o sawl blwyddyn i symud i ffwrdd o’r system bresennol, sef Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS).

Mae ffermwyr Cymru’n cael eu hannog i gofrestru i gymryd rhan yn y broses, er mwyn rhoi barn uniongyrchol ar ymarferoldeb y cynigion sy’n sail i’r cynllun newydd a’i bolisïau ehangach.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cynllun ‘yn cynorthwyo ffermwyr i leihau ôl troed carbon eu ffermydd, yn helpu i wella’r amglchedd, a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.’

Bydd cam nesaf y cyd-ddylunio’n arwain at ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng ngwanwyn 2023.

I gofrestru ar gyfer ail gam y broses o gyd-ddylunio’r cynllun newydd, gall ffermwyr gofrestru eu diddordeb ar wefan Llywodraeth Cymru neu siarad â’u cynrychiolydd Gwasanaeth Cyswllt Ffermio lleol.