Newidiadau i Reolau TB Gwartheg yng Nghymru

O 17eg Ionawr 2022, bydd 2 newid newydd i’r rheolau mewn perthynas ag achosion o TB Gwartheg yn dod i rym yng Nghymru.

Newid 1: Statws Heb TB Swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW) yn Ddiofyn

Bydd pob achos newydd o TB ledled Cymru (gyda’r 2 eithriad a restrir isod) yn cael eu categoreiddio fel Statws Heb TB Swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW).

Y ddau eithriad, a fydd yn parhau i gael eu categoreiddio fel Statws Heb TB Swyddogol Wedi’i Atal (OTFS) yw:

  1. Buchesi Statws Heb TB Swyddogol (OTF) lle mae un neu ragor o achosion lladd-dy tybiedig wedi’u datgelu ac mae canlyniadau meithriniad yn dal i fod yn yr arfaeth
  2. Achosion mewn buchesi lle mae anifeiliaid nad ydynt wedi’u magu ar y fferm yn ymateb yn bositif i brofion gwrthgyrff Interfferon-gamma a/neu IDEXX yn unig (h.y. dim adweithyddion croen) ac nad yw'r clefyd wedi'i gadarnhau ar ganlyniadau PME/meithriniad.

Bydd buchesi OTFS lle dechreuodd yr achos o TB cyn 15fed Tachwedd 2020 yn aros yn OTFS oni bai bod adweithydd prawf croen pellach yn cael ei ddatgelu, neu bod yna ffactorau risg epidemiolegol.

Beth mae’r newid hwn yn ei olygu i mi?

Pan gaiff buches ei chategoreiddio fel un OTFW, bydd gofyn cael dau brawf TB clir dilynol o leiaf 60 diwrnod ar wahân, gydag o leiaf y prawf cyntaf yn cael ei gynnal dan amodau llym, er mwyn adennill statws OTF a chodi’r cyfyngiadau symud.

Cymerir camau ychwanegol eraill pan fydd yna achos mewn buches OTFW, sef:

  1. Mae anifeiliaid a symudwyd o fuches gyda TB yn cael eu holrhain a’u profi os yn briodol
  2. Mae buchesi cyfagos yn cael eu harchwilio a’u profi os yn briodol
  3. Gellir ystyried difa anifeiliaid ychwanegol sydd mewn perygl o gael eu heintio fel Cysylltiadau Uniongyrchol
  4. Gellir ystyried difa gweddill yr anifeiliaid yn y grŵp neu’r fuches os ydy’r haint yn ddifrifol ac yn eang

Newid 2: Adweithyddion Amhendant

Bydd buchesi â Statws Heb TB Swyddogol (OTF) yng Nghymru sydd ag adweithyddion amhendant yn unig yn aros o dan gyfyngiadau nes y rhoddir prawf arall i’r adweithyddion amhendant. Yna:

  • os caiff yr adweithyddion amhendant ganlyniad negyddol eto, codir y cyfyngiadau ar anifeiliaid unigol a’r fuches, neu
  • os bydd un neu fwy o’r adweithyddion amhendant yn dod yn adweithyddion a/neu’n adweithyddion amhendant am yr eildro (os felly byddant hefyd yn cael eu hystyried yn adweithyddion nawr), bydd statws OTF y fuches yn cael ei ddiddymu (OTFW).

Dyna’r drefn hefyd gydag unrhyw brawf rhannol sy’n dangos adweithyddion amhendant sydd â dyddiad TT2 cyn 17 Ionawr, a bod rhan ola’r prawf yn cael ei gynnal ar, neu ar ôl 17 Ionawr.