Atgoffa ffermwyr i gwblhau eu stocrestr flynyddol defaid a geifr

Mae ffermwyr ledled Cymru sy’n cadw defaid a geifr yn cael eu hatgoffa i gyflwyno eu stocrestr flynyddol erbyn 1af Chwefror 2022.

Mae angen i’r stocrestr nodi nifer y defaid a/neu eifr oedd yn berchen i bob daliad (CPH) ar 1 Ionawr 2022.

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i gwblhau’r ffurflen ar-lein drwy eu cyfrif EIDCymru ond gellir cyflwyno copïau papur hefyd.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen yw Dydd Mawrth 1af Chwefror ac mi all ei chyflwyno’n hwyr gynyddu’r risg o gael eich dewis ar gyfer archwiliad.

Mae angen i ffermwyr nad ydynt yn cadw defaid neu eifr bellach ddatgofrestru, arwyddo a dychwelyd y ffurflen ddatgan.

Gellir llenwi ffurflenni ar-lein drwy fewngofnodi ar www.eidcymru.org. Dylid anfon copïau drwy’r post i EIDCymru, Tŷ Merlin, Parc Merlin, Aberystwyth, SY23 3FF.