Crynodeb o newyddion Chwefror 2022

i) Cynnydd yn nifer y taliadau Glastir a wnaed yn gynnar

Talwyd dros 2,200 o hawiadau dan gynlluniau Glastir yn Ionawr 2022, sef 78% o’r holl hawliadau gwerth £26.2 miliwn i ffermwyr yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, gwnaed hyn yn bosib yn sgil cyflwyno rhagdaliadau BPS ym mis Hydref y llynedd. Mae hyn yn rhan o’r £66.7 miliwn a glustnodwyd i ymestyn y cynlluniau Glastir tan Rhagfyr 2023.

ii) Iceland yn ymrwymo i rewi prisiau 60 o eitemau tan ddiwedd y flwyddyn

Mae’r manwerthwr mawr, Iceland, wedi ail-ddatgan ei ymrwymiad i rewi prisiau dros 60 o’i nwyddau gwerth gorau hyd at ddiwedd 2022.

Credir y bydd yr holl fanwerthwyr yn gorfod codi eu prisiau, ond bydd yr holl nwyddau rhewedig a werthir gan Iceland am £1 yn aros felly, er nad oes cap ar brisiau ynni busnesau, ac er gwaetha’r cynnydd ym mhris nwyddau, cludiant a llafur.

iii) Tesco’n disgwyl i brisiau’r archfarchnad godi 5%

Mae Cadeirydd Tesco, John Allen, wedi amcangyfrif y gallai prisiau’r archfarchnad godi cymaint â 5% yn ystod chwarter cyntaf 2022 yn sgil y cynnydd ym mhrisiau ynni.

Ar hyn o bryd mae tua 2,100 o’u nwyddau ar eu pris isaf.