Cytundeb Seland Newydd yn dangoss parodrwydd Llywodraeth y DU i aberthu diogelwch ffermio a bwyd

Mae’r sêl fendith ar gytundeb masnach â Seland Newydd yn dangos parodrwydd Llywodraeth y DU i danseilio ffermio a diogelwch bwyd yn y DU yn gyfnewid am fuddion dibwys i’r economi.

Mae ffigurau Llywodraeth y DU ei hun yn dangos mai gwerth £112 miliwn yn unig o allforion ychwanegol y bydd y cytundeb yn ei greu ar gyfer cwmnïau’r DU o’i gymharu â’r lefelau cyn y pandemig.

Bydd y cytundeb yn caniatáu i Seland newydd gynyddu ei hallforion bwyd i’r DU, a fydd yn fygythiad mawr i ffermwyr Cymru a Phrydain, yn ogystal â diogelwch bwyd y DU.

Ym mlwyddyn 1 byddai’r cytundeb yn caniatáu cynnydd o 30% yn y cyfanswm o gig oen Seland Newydd y gellir ei fewnforio i’r DU yn ddi-doll (h.y. heb dariffau), gyda’r ffigur hwn yn codi i 44% ar ôl pum mlynedd, yna cynnydd pellach, ac yn y pen draw, cael gwared ar yr holl derfynau ar ôl 15 mlynedd.


Mi fyddai cig eidion yn dilyn trywydd tebyg, gyda masnachu menyn a chaws yn mynd yn gwbl rydd o flwyddyn 6 ymlaen.

Nid yw’r cytundeb hwn, ynghyd â chytundeb masnach Awstralia a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, yn gadael fawr o amheuaeth bod Llywodraeth y DU yn tanseilio amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, a diogelwch ein cyflenwad bwyd, yn fwriadol neu’n ddiofal.

Mae cael gwared ar gymorth i ffermydd a chynnydd mewn biwrocratiaeth a rheoliadau ar gyfer ffermwyr y DU, ochr yn ochr â chreu cytundebau masnach â gwledydd sydd â safonau rheoleiddio llawer is yn ychwanegu at yr agraff hon.

Bydd UAC yn parhau i rybuddio Aelodau Seneddol ac Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi am beryglon cytundeb masnach Seland Newydd a chytundebau eraill, gan eu hannog i weithredu er budd eu hetholwyr a’n cenedl pan ddaw hi’n fater o wneud penderfyniadau Seneddol.