HCC yn lansio adnoddau addysgol i ddangos sut mae cig coch Cymru’n cael ei gynhyrchu

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio detholiad o adnoddau addysgol yn ddiweddar ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd.

Y bwriad yw bod yr adnoddau dwyieithog hyn yn cael eu defnyddio gan athrawon a gweithwyr iechyd proffesiynol, i helpu i ddangos sut mae cig coch yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, a’r buddiannau mae’n ei ddarparu o ran yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus.

Cafodd y cyflwyniadau, taflenni gwaith, fideos, posteri a llyfrynnau eu cynhyrchu drwy weithio gyda chyrff addysgol, i sicrhau eu bod yn berthnasol i gwricwlwm plant lefel sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 4 (TGAU).

Mae’n bwysig bod y genhedlaeth iau yn dysgu ble a sut mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu, a’u bod yn deall bod cig coch a gynhyrchir yng Nghymru’n fwy cynaliadwy o lawer na’r ffigurau a ddefnyddir ar raddfa fyd-eang.

Bydd yr adnoddau’n cael eu diweddaru’n barhaus i adlewyrchu newidiadau o fewn canllawiau iechyd ac addysg, ac maent ar gael i’w lawrlwytho am ddim yma: https://hwbcigcoch.cymru/