Crynodeb o newyddion Tachwedd 2021

i) Arolwg mawr yn rhoi hwb i’r sector cig coch yng Nghymru

Mae arolwg mawr o 1,000 o ddefnyddwyr a gynhaliwyd gan gwmni ymchwil MRQual ar ran Hybu Cig Cymru (HCC) wedi dangos bod cig oen gyda brand Cymru yn cael ei ffafrio dros gig gyda label Prydeinig.

Dywedodd ddwywaith yn fwy o bobl (47%) mai cig oen o Gymru oedd yn blasu orau, o’i gymharu â chig oen Prydeinig (23%), roedd 54% o’r ymatebwyr o’r farn mai Cymru oedd y lle mwyaf naturiol i fagu ŵyn (o’i gymharu â Phrydain yn ei chyfanrwydd – 27%), ac roedd 64% yn credu bod cig oen Cymru’n cael ei gynhyrchu ar ffermydd bach teuluol, o’i gymharu â 43% ar gyfer cig oen Prydeinig.

ii) Cig oen Cymru’n dod yn rhan o sector lletygarwch y Dwyrain Canol

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn gweithio ar raglen gyda mewnforwyr, gwestai a bwytai yn sector lletygarwch y Dwyrain Canol, a welodd cig oen Cymru fel un o brif noddwyr y Gwobrau Arweinwyr Mewn Bwyd a Diod.

Mi ddyblodd y swm a wariwyd gan ymwelwyr â’r Emiradau Arabaidd Unedig rhwng 2016 and 2019 ac arweiniodd y gwaith a wnaed gan HCC, proseswyr yng Nghymru a Llywodraeth Cymru at gynnydd yn yr allforion cig oen i’r Dwyrain Canol o tua 400% rhwng 2018 a 2020.

iii) Pum manwerthwr mawr yn addo haneru effaith amgylcheddol y fasged fwyd wythnosol

Mae Tesco, Sainsbury’s, Waitrose, Co-op a Marks & Spencer wedi cytuno i haneru effaith amgylcheddol y fasged fwyd wythnosol erbyn 2030.

Fel rhan o’r adduned, maent wedi cytuno i haneru’r gwastraff bwyd maent yn ei gynhyrchu, effaith amgylcheddol y nwyddau amaethyddol a bwyd môr sydd ym masged siopwyr, y coedwigoedd sy’n cael eu cwympo i greu cynnyrch, a maint y cynhesu byd-eang a achosir gan eu cynnyrch.