UAC yn mynegi siom mewn ymateb i’r cyhoeddiad am y Rhaglen i Ddileu TB

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn teimlo’n rhwystredig unwaith eto yn dilyn datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig ar 16eg Tachwedd ynghylch Rhaglen i Ddileu TB.

Cyhoeddodd y Gweinidog ymgynghoriad 12 wythnos, ‘Rhaglen Ddiwygiedig i Ddileu TB’, sy’n amlinellu cynigion polisi yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru i daclo’r clefyd ymhlith gwartheg yng Nghymru.

Gyda’r achosion o TB yn cynyddu yn Ardaloedd TB Isel Cymru, mae’n rhwystredig mai unig ymateb Llywodraeth Cymru i daclo’r mater hwn yw cynyddu’r rheolau ar wartheg, a gosod beichiau profi ychwanegol ar deuluoedd ffermio gweithgar.

Mae pryder cynyddol ynghylch iechyd a lles meddyliol ffermwyr, ac ni fydd y datganiad diweddaraf hwn yn gwneud dim i liniaru’r straen emosiynol ac ariannol.

Mae’n siom gweld ymgynghoriad arall sy’n adolygu taliadau am wartheg a brynwyd yn orfodol oherwydd TB. Mae UAC wedi rhoi ei barn ar y mater hwn yn glir; ni ddylai unhryw ffermwr gael gormod neu rhy ychydig o iawndal am wartheg o’r fath.


Er bod UAC yn cydnabod bod canfod y clefyd yn gyflym, yn gywir ac yn gynnar yn elfen allweddol o’r rhaglen i ddileu TB, mae’n siom bod y rhaglen yn anelu at ‘gryfhau rheoliadau TB’, ar yr un pryd â dileu yn raddol y gwaith dal a phrofi moch daear mewn buchesi sydd ag achosion mynych.

Mae UAC yn dadlau bod angen dull holistig o ddelio â TB er mwyn cael gwared â holl ffynonellau’r haint. Mae’r datganiad diweddaraf hwn yn parhau i ymlid y clefyd tra’n lleihau’r ymdrechion i fynd i’r afael â chyfrannwr sylweddol i ledaeniad yr haint.

Wrth i dreialon y brechlyn TB barhau yn Lloegr, mae’n bwysig cael disgwyliadau realistig ynghylch gallu brechlyn i reoli’r clefyd. Gan na fydd brechlyn a strategaeth gyflenwi ymarferol ar gael am nifer fawr o flynyddoedd o bosib, rhaid i’r frwydr bresennol yn erbyn TB ddefnyddio pob dull sydd ar gael i sicrhau canlyniadau positif go iawn nawr.