Diwygio Safonau Tractor Coch Fersiwn 5

Yn dilyn ymgynghoriad yn gynharach eleni, mae’r cynllun Tractor Coch wedi diwygio Safonau Fersiwn 5 ar gyfer y pum sector gwahanol.

Mae mwyafrif y safonau amgylcheddol arfaethedig wedi’u cadw’n ôl am y tro nes daw’r ddeddfwriaeth derfynol ar ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru a Lloegr.

Bydd angen storio gwrtaith nitrogen yn ddiogel ac o’r golwg, yn hytrach na’i gloi dan do fel y cynigiwyd yn wreiddiol, a bydd gofyn i gynhyrchwyr gadw cofnod o’r cyfrifiadau stori slyri diweddaraf.

Yn nhermau personél, bydd yn ofynnol i staff newydd gael sesiwn sefydlu, a bydd angen cadw cofnod o hynny, gan gynnwys esboniad o’r polisïau iechyd a diogelwch, a’r llinellau adrodd mewn perthynas â rheoli. Hefyd, bydd angen i bob fferm gael polisi iechyd a diogelwch.

Mae’r safonau personél ac amgylcheddol na chafwyd eu cynnwys yn safonau diwygiedig Fersiwn 5 wedi dod yn safonau ‘modiwlaidd’, a fydd yn caniatáu i’r cynhyrchydd a phroseswr neu brynwr y llaeth i gytuno ar y rhai maent am eu cynnwys fel rhan o’u sicrwydd fferm

O ran meddyginiaethau anifeiliaid, bydd gofyn i un aelod staff ymgymryd ag hyfforddiant meddyginiaethau anifeiliaid, a dylid nodi hynny yn y cofnodion hyfforddiant fferm, ond gellir ei ‘sianelu’ i aelodau staff eraill, gan gadw cofnod o hynny.

Ni chaniateir systemau lletya ar dennyn ar ffermydd Tractor Coch ond caniateir y defnydd o arferion rheoli, er gall y rhai sy’n defnyddio systemau lletya ar dennyn wneud cais am randdirymiad gan Tractor Coch cyn 1af Tachwedd 2021.

Mae dileu BVD, fel y manylir arno yn y cynllun iechyd, eisoes yn ofyniad llawn ar gyfer cynhyrchwyr llaeth, ond bydd yn parhau i fod yn argymhelliad ar gyfer ffermwyr cig eidion am y tro, nes iddo ddod yn safon lawn yn Hydref 2022.

Mae’r gofyniad i lwytho’r defnydd o wrthfiotigau ar Hwb Meddyginiaeth AHDB hefyd wedi’i ddileu am ei fod dan ddatblygiad o hyd, er y gall ddod yn argymhelliad yn Ebrill 2022.

Mae’r safonau diwygiedig i’w gweld yma: https://assurance.redtractor.org.uk/red-tractor-review-2021?o=alphabetical