Pwyllgor Arallgyfeirio UAC yn Tynnu Sylw at yr Argyfwng Tai

Mae Pwyllgor Arallgyfeirio Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi pwysleisio’r angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau cadarn i warchod cymunedau gwledig rhag effeithiau perchnogaeth ail gartrefi, a ffactorau eraill sy’n effeithio ar y farchnad dai leol.

Yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Arallgyfeirio UAC a gynhaliwyd Ddydd Iau 14eg Hydref, pan drafodwyd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar, mynegodd yr aelodau bryderon mawr am yr effaith a gaiff perchnogaeth ail gartrefi a ffactorau tebyg ar y nifer o dai fforddiadwy sydd ar gael i bobl leol, a sut mae hyn yn bygwth cymunedau cefn gwlad Cymru.

Ar hyn o bryd mae 60% o drigolion Gwynedd yn methu â fforddio prynu tŷ, ac mae tua 11% o’r stoc dai gyfan yn y sir yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi. Mae’r broblem hon yn un sy’n effeithio ar ardaloedd ar draws Cymru ac mae’n dal i waethygu.

Mae’r cynnydd enfawr ym mherchnogaeth ail gartrefi, a nifer y tai a brynir gan fuddsoddwyr o’r tu allan fel llety AirBnB ers dechrau’r pandemig, wedi ychwanegu at y problemau oedd yn bodoli eisoes.

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth a llety hunanddarpar i’r economi, ond mae nifer o bentrefi gwledig ac arfordirol yng Nghymru’n gweld eu cymunedau’n chwalu, gyda goblygiadau difrifol i dreftadaeth a diwylliant Cymru.

Wrth ystyried ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, cyfeiriodd y Pwyllgor at nifer o gamau y dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau eraill eu cymryd i liniaru’r effaith.



Mae angen cau’r bylchau presennol sy’n caniatáu i berchnogion ail gartrefi osgoi premiwm y dreth gyngor sydd ar waith gan nifer o awdurdodau lleol erbyn hyn, drwy gofrestru eu heiddo fel llety gwyliau tymor byr, a thalu trethi busnes annomestig.

Mae angen monitro a phlismona hyn yn iawn o ystyried bod nifer fawr o berchnogion ail gartrefi’n hawlio Ryddhad Arderthi i Fusnesau Bach drwy ffugio eu bod yn llety gwyliau annomestig, gan olygu mai pobl leol sy’n talu’r gyfran fwyaf o’r costau yn eu cymunedau lleol drwy’r dreth gyngor.

Hefyd mae angen codi’r trothwy sy’n caniatáu i dai o’r fath gael eu hystyried yn eiddo busnes - mae pobl leol sydd wedi arallgyfeirio i gynnig llety hunanddarpar yn fusnesau go iawn, gyda’r llety hwnnw ar gael am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, nid am ran ohoni’n unig. Ac eto, dan y rheolau presennol, does dim ond angen i’r llety fod ar gael am tua thraean o’r flwyddyn i allu hawlio rhyddhad ardrethi.

Byddai codi’r trothwy hwn yn osgoi newidiadau cyffredinol i drethi busnes, a fyddai’n targedu ffermydd ac eraill sydd wedi arallgyfeirio i sefydlu mentrau hunanddarpar go iawn, mewn ffordd annheg.

Roedd y pwyllgor hefyd yn cynnig newidiadau i’r rheolau cynllunio, a fyddai’n golygu bod angen caniatâd i newid defnydd a throi eiddo domestig yn ail gartref neu’n lety gwyliau, ynghyd â chwota ar gyfer cymunedau lleol a fyddai’n sicrhau bod canran benodol o dai o fewn cymuned ar gael i gwrdd ag anghenion lleol.

I rai cymunedau, gall eisoes fod yn rhy hwyr, ond mae angen cymryd camau cadarn ar frys, gan gynnwys rhoi pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol i ddelio â materion o’r fath, cyn i’r broblem hon waethygu ymhellach ym mwyafrif cymunedau cefn gwlad Cymru.

Bydd UAC yn tynnu sylw at bryderon o’r fath ac atebion posib yn ei ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar, sy’n cau ar 17eg Tachwedd 2021.