Llywodraeth y DU yn cyhoeddi newidiadau i brofion ôl-gerbydau a cherbydau HGV

Mae’n arbennig o amlwg mewn rhai ardaloedd o’r DU bod prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm (HGV) yn cael effaith ar y gadwyn cyflenwi bwyd.

Yn ôl y diwydiant Cludo Nwyddau a Logisteg mae’r prinder gyrwyr cerbydau HGV yn y DU wedi cynyddu o 45,000 yn 2016 i 76,000 erbyn heddiw.

Er bod yna nifer o resymau gwahanol am y prinder hwn, mae codi cyfyngiadau Covid-19 a system mewnfudo Brexit wedi rhoi pwysau mawr ar wasanaethau cludo nwyddau a logisteg.

Felly, yn dilyn ymgynghoriad diweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r drefn ar gyfer profion ôl-gerbydau a cherbydau HGV, er mwyn cyflymu’r broses gymhwyso ar gyfer gyrwyr.

Ar hyn o bryd, ni chaiff unrhyw rai a basiodd eu prawf gyrru ar ôl 1af Ionawr 1997 dynnu unrhyw beth lle mae’r ôl-gerbyd a’r cerbyd tynnu dros 3,500 kg o Uchafswm Mas Awdurdodedig (MAM). I dynnu unrhyw beth dros y trothwy hwn, rhaid iddynt basio prawf car ac ôl-gerbyd (B+E).

Fodd bynnag, cadarnhawyd y bydd y gofyniad i basio prawf B+E yn cael ei ddiddymu, felly bydd y rhai a basiodd eu prawf ar ôl 1af Ionawr 1997 yn cael tynnu car ac ôl-gerbyd sydd hyd at 8,250 kg MAM, fel y mae’r rhai a basiodd eu prawf gyrru cyn y dyddiad hwnnw’n cael gwneud.

Felly bydd y brawf ôl-gerbyd B+E yn cael ei ddiddymu o 20fed Medi a bydd y newid yn y gyfraith yn cael ei gyhoeddi’n nes ymlaen yn yr Hydref.