Mae ffermwyr yn cael eu hannog i roi adborth ar broblemau gyda thagiau clust drwy ffurflen ar-lein.
Gellir defnyddio’r ffurflen i roi gwybod am unrhyw adborth cadarnhaol neu negyddol sydd gennych ynghylch tagiau clust, bandiau pigwrn neu folysau.
Mae hyn yn cynnwys:
- heintiau
- cyfraddau colli
- problemau perfformiad
- toriadau
- darllenadwyedd
Mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio i nodi problemau posibl gyda chyflenwyr.Dylech hefyd roi gwybod i’ch cyflenwr tagiau clust, bandiau pigwrn neu folysau am y problemau.
Ar ôl ei llenwi, anfonwch y ffurflen drwy’r e-bost neu’r post at dîm cymorth y Gwasanaeth Adnabod Unigryw ar gyfer Da Byw (LUIS)
LUIS Support Team
British Cattle Movement Service
Curwen Road
Workington
CA14 2DD
E-bost:
Mae’r ffurflen ar gael ar:
https://www.gov.uk/government/publications/give-feedback-on-ear-tags-pastern-bands-or-boluses.cy