Doniau actio Libby ni!

Doniau actio Libby ni!

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

Ydych chi wedi cwrdd â Mrs White? Pwy yw Mrs White rwy’n clywed chi’n holi? Gadewch i mi egluro i chi pwy yw hi! Dyma’r rhan roedd Libby Davies, ein Swyddog y Senedd a Materion Seneddol yn ei chwarae yng ngŵyl Drama’r CFfI yn ddiweddar, a chafodd tipyn o lwyddiant wrth wneud hynny! 

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Libby wedi ennill teitl Aelod Hŷn y Flwyddyn ym Mrycheiniog a’r Actores Orau dan 28 yn chwarae rhan Mrs White yn nrama ‘True Colours’ CFfI Pontsenni, ac mae’r cyfleoedd hyn i gyd wedi dod i ran Libby diolch i fudiad y CFfI.  

Mae Libby’n aelod ffyddlon o’i CFfI lleol sef Pontsenni a hi yw Ysgrifenyddes bresennol y clwb. Dewch i ni gael dysgu mwy am bwysigrwydd y CFfI i Libby.

 

Wyt ti wastad wedi cymryd diddordeb mewn actio?

Mwynheais Drama yn yr ysgol a chymerais ran mewn ychydig o gynyrchiadau ysgol. Rwyf hefyd wedi bod mewn cynyrchiadau CFfI o’r blaen er na chefais i erioed ran siarad. Dwi wedi mwynhau bod yn rhan o’r cast yn fawr iawn a dwi’n edrych ymlaen at wneud y cyfan eto’r flwyddyn nesaf... er mae’n debyg bydd rhaid i mi ddechrau dysgu fy llinellau ynghynt!

 

Beth yw dy farn am bwysigrwydd clybiau CFfI?

Mae clybiau CFfI mor bwysig! Dros y cyfnodau clo, sylweddolais gymaint roeddwn yn gweld eisiau’r CFfI pan nad oedd modd cynnal gweithgareddau. Fe wnaethon ni geisio llenwi’r bwlch gyda digwyddiadau rhithwir ond does dim byd yn well na dod at ein gilydd wyneb-yn-wyneb. Mae CFfI yn darparu cyfleoedd cymdeithasol gwych i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig lle yn aml does dim llawer arall i’w wneud, ond o’m profiad i, mae clybiau hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn eu cymunedau ehangach ac yn cefnogi elusennau hefyd.

 

Beth yw’r manteision o fod yn aelod o CFfI?

Mae’r manteision yn ddiddiwedd. Rwyf wedi gwneud rhai o fy ffrindiau gorau drwy’r CFfI, wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd ac wedi cael cyfleoedd na fyddwn wedi’u cael fel arall. Mae rhywbeth at ddant pawb o goginio i ddawnsio, crefft i farnu stoc, byddwch yn sicr yn dysgu rhywbeth newydd! Rwyf wedi mwynhau siarad cyhoeddus, ac ni fyddwn yn medru gwneud y swydd hon heb y sgiliau a’r wybodaeth rwyf wedi’u dysgu gan y CFfI. Eleni rydw i hefyd yn teithio gyda CFfI am y tro cyntaf sy’n gyfle i weld lle newydd a chwrdd â phobl newydd.

 

Ac yn olaf, beth fyddet yn dweud wrth rywun sy’n ystyried ymuno â’r CFfI?

Yn bendant, ymuna! Doeddwn ddim yn nabod llawer o bobl pan ymunais â’r CFfI, ac roedd hynny braidd yn frawychus, ond nid wyf yn difaru dim. Dywedwch ie pan ddaw cyfleoedd i’ch rhan a pheidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar bethau! Gall y CFfI gynnig cyfleoedd gwych, felly ewch amdani!

Diolch yn fawr Libby am rannu ei phrofiadau o’r CFfI gyda ni, ac mae’n amlwg iawn, faint mae hi wedi elwa o fod yn aelod, manteisio ar bob cyfle sydd wedi dod i’w rhan, mwynhau llwyddiant a gallu defnyddio’r sgiliau yn ei gwaith bob dydd.  

Pob llwyddiant i ti yn y dyfodol gyda’r CFfI, a pwy a ŵyr, efallai daw yna gyfle i gwrdd â Mrs White eto yn y dyfodol!