gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Mae yna newidiadau mawr ar droed a fydd yn newid amaethyddiaeth dros y blynyddoedd nesaf. Mae’n hollbwysig felly bod gan ffermwyr Cymru lais cryf a chyson i sicrhau bod yna ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy i’r diwydiant yn sgil y newidiadau.
Fel sefydliad democrataidd, mae UAC yn lobïo barn aelodau ar lefel sirol ac yng Nghaerdydd a San Steffan. I gyflawni hyn mae gennym deg pwyllgor sefydlog, ac mae pob un ohonynt yn delio â sector neu agwedd wahanol o amaethyddiaeth.
Crëwyd hanes mewn un o’r pwyllgorau hynny yn ddiweddar, sef Pwyllgor Llais yr Ifanc dros Ffermio, lle cafodd bachgen 15 oed ei ethol fel Is Gadeirydd y pwyllgor. Caleb Vater, ger Y Fenni yw Is Gadeirydd pwyllgor ieuengaf erioed yn hanes yr Undeb.
Ar ôl yr etholiad hanesyddol, cafodd Cornel Clecs y cyfle i ddod i nabod Caleb yn well, a dyma fe i gyflwyno’i hunan i ni: “Fy enw i yw Caleb Vater, rwy’n 15 oed, ac yn ddiweddar cefais fy ethol yn Is-gadeirydd Pwyllgor Llais yr Ifanc dros Ffermio UAC. Ar hyn o bryd, rwy’n astudio ar gyfer TGAU yng Ngholeg yr Iesu Aberhonddu, lle byddaf yn sefyll fy arholiadau’r haf hwn. Un o’r pynciau TGAU rwy’n astudio yw Busnes, ac wrth fyw ar y fferm deuluol rydw i wedi bod yn ffodus i gael profiad busnes uniongyrchol drwy helpu fy Nhad-cu gyda’r gwaith papur.
“Rwy’n byw gyda fy nheulu ar fferm bîff a defaid ger y Fenni yn Sir Fynwy. Mae’r teulu wedi bod yn gysylltiedig â’r Undeb ers blynyddoedd maith, ac o oedran ifanc rwyf wedi cael fy magu i wybod pa mor bwysig yw hi i ffermwyr gael llais drwy UAC, a gyda’n gilydd gallwn gael llais cryf a chadarnhaol i UAC.
“Ar ein fferm deuluol mae gennym wartheg Henffordd pedigri, gwartheg masnachol ynghyd â defaid cofrestredig a masnachol. Mae gen i ddiadell fechan o ddefaid Mynydd Du Cymreig, a dros y blynyddoedd rwyf wedi eu dangos mewn sioeau lleol ac yn y Sioe Frenhinol.
“Rwy’n aelod brwd o’r CFfI, lle rwyf wedi cynrychioli fy Nghlwb a’m Sir mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau gan gynnwys barnu stoc a siarad cyhoeddus. Yn 14 oed cefais fy newis i fynd i gystadleuaeth Barnu Stoc Brenhinol Smithfield Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc a gyda’r aelod arall o’r tîm, enillon ni’r Tlws ar gyfer y gystadleuaeth beirniadu Cig Oen Byw a Carcas, ac yn unigol, mi ddes i’n drydydd yn nosbarth dan 21 y gystadleuaeth. Roedd yn gamp arbennig iawn gan mai’r tro diwethaf i dîm o’n sir ennill y Tlws oedd bron i ddeugain mlynedd yn ôl.
“Ar ôl fy arholiadau TGAU rwy’n edrych ymlaen at dreulio amser ar y fferm deuluol yn ystod yr haf ynghyd â chystadlu yn Sioe Frenhinol Cymru. Ym mis Medi rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r ysgol i astudio Lefel A Mathemateg, Cemeg, Ffiseg a Bioleg. Hoffwn fynd ymlaen i astudio peirianneg bio-fecanyddol.
“Rwy’n mwynhau teithio a hoffwn gymryd rhan mewn taith astudio i Awstralia a Seland Newydd yn y dyfodol i weld sut mae eu harferion ffermio yn cymharu ag yn cyferbynnu â’n systemau ni a hefyd sut maen nhw’n ymdopi â’r tywydd cynhesach,” esboniodd Caleb.
Mae’n gwbl glir faint o angerdd a brwdfrydedd sydd gan Caleb, nid yn unig dros UAC, ond dros y diwydiant amaethyddol hefyd. Mae’r egni, a’r syniadau newydd yn mynd i sicrhau bod pwyllgor, sydd mor hanfodol a phwysig i ddyfodol yr Undeb yn amhrisiadwy, a gydag arweinyddiaeth Gemma Haines, y Cadeirydd newydd a Caleb, mae’r dyfodol yn edrych yn gyffrous.
Mae’n bwysig bod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr ac arweinwyr yn cael y cyfle i roi ei stamp nhw ar bethau a bod yn rhan o drafodaethau a phenderfyniadau a fydd yn effeithio’i dyfodol nhw.
Dymunwn yn dda i Caleb yn rhinwedd ei swydd newydd a hefyd yn ei astudiaethau a’i arholiadau dros yr haf.