Anelu at ffordd bositif drwy broblemau

Anelu at ffordd bositif drwy broblemau

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

Anodd credu bod ni wedi cyrraedd mis Mawrth yn barod! Gyda dyfodiad mis Mawrth, daw’r tymor wyna hefyd wrth gwrs, ac rwy’n siŵr bod nifer fawr ohonoch chi, fel ninnau fan hyn, ynghanol un o gyfnodau prysura’r flwyddyn ar hyn o bryd. Mae’n gyfnod bach digon heriol yn dydi? Oriau o ddiffyg cwsg, oriau maith o waith llafurus, weithiau’n brwydro rhwng bywyd a marwolaeth yn y sied wyna, a thywydd heriol ar adegau - Mawrth a ladd, Ebrill a fling! Mae’r holl bethau yma’n ffactorau sy’n gallu arwain at storm berffaith i gynhyrfu iechyd meddwl person.

Er bod y diwydiant amaeth yn parhau i fod yn ddiwydiant anodd, heriol ac unig i weithio ynddo, mae’r stigma sy’n amgylchynu iechyd meddwl yn chwalu gan bwyll bach. Rydym yn ffodus tu hwnt o gael cefnogaeth nifer fawr o sefydliadau sydd ar gael i fod yn gefn a helpu ffermwyr a’r gymuned amaethyddol yn gyffredinol trwy adegau anodd.

Un sy’n gyfarwydd iawn i ni yma yn yr Undeb ac sydd wedi bod yn helpu ffermwyr ers blynyddoedd lawer erbyn hyn yw Linda Jones, (gweler ar y dde). Mae 2023 wedi cychwyn gyda her newydd i Linda sef cychwyn swydd newydd a hynny fel Rheolwr Cenedlaethol Cymru, The Farming Community Network (FCN). 

Manteisiodd Cornel Clecs ar y cyfle i ddal lan gyda Linda yn ddiweddar er mwyn gweld sut mae’r swydd newydd yn mynd hyd yn hyn. Dyma Linda i egluro mwy: “Efallai bod rhai ohonoch wedi clywed erbyn hyn fy mod wedi cychwyn swydd newydd ym mis Ionawr gyda’r elusen The Farming Community Network (FCN) fel Rheolwr Cenedlaethol Cymru,” eglura Linda. “Roedd y swydd hon, sy’n newydd i FCN, wedi apelio ataf oherwydd bod cyfle gennyf i lywio’n benodol y gefnogaeth mae’r elusen yn gynnig i ffermwyr a’u teuluoedd yng Nghymru.

“Mae FCN yn bodoli i gefnogi pawb sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth - y rhai sy’n ffermio, y rhai sy’n gweithio ar ffermydd, a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau a chyflenwadau i ffermydd.

“Rydym yn anelu at helpu pobl i ddod o hyd i ffordd bositif drwy eu problemau. Bob blwyddyn yng Nghymru, rydym yn helpu nifer o deuluoedd gydag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys anawsterau ariannol, clefydau anifeiliaid, iechyd meddwl ac anghydfodau teuluol.

“Mae gan FCN bedwar grŵp o wirfoddolwyr wedi’u lleoli ar draws Cymru. Mae gan lawer ohonynt gysylltiad â ffermio, neu â chysylltiadau agos ag amaethyddiaeth, ac felly mae ganddynt ddealltwriaeth wych o faterion sy’n wynebu gweithwyr fferm a theuluoedd ffermio yn rheolaidd. Mae ein gwirfoddolwyr yn darparu cefnogaeth gyfrinachol, fugeiliol, ac ymarferol am ddim i unrhyw un sy’n gofyn am gymorth. Ni waeth a yw’r mater yn bersonol, neu’n gysylltiedig â busnes.

“Yn ddiweddar, mae FCN yn ymwneud fwyfwy â gwaith rhagweithiol i gefnogi’r gymuned amaeth yn y gobaith bod modd cynorthwyo pobl cyn iddynt gyrraedd pwynt o argyfwng. Mae hyn yn cynnwys gwaith ymchwil, ymgyrchoedd, datblygu cyhoeddiadau defnyddiol, cyfleoedd cymdeithasol, presenoldeb mewn marchnadoedd da byw, sioeau, a digwyddiadau eraill.  

“Gobeithir bod ein dull rhagweithiol yn medru meithrin gwytnwch a chael gwared ar anghydraddoldebau iechyd cyn i broblemau godi, a chreu diwydiant mwy gwydn, deallus a chefnogol.

“Gyda ffermio yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae disgwyl i lwyth gwaith gwirfoddolwyr FCN gynyddu’n sylweddol. Wrth gwrs, rwyf innau hefyd yn bersonol fel ffermwraig yn awyddus i wybod mwy ynghylch y taliadau fydd ar gael i ffermwyr o dan y cynllun newydd, Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Sylweddolaf fod y fframwaith newydd hwn yn peri gofid i nifer ar hyn o bryd.  

“Yn ogystal â grwpiau lleol o wirfoddolwyr, mae FCN yn rhedeg llinell gymorth genedlaethol gyfrinachol (03000 111 999, sydd ar agor o 7yb - 11yh bob dydd o’r flwyddyn) ac e-linell gymorth (This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.). Cofiwch ein bod yma i sgwrsio a gwrando.”

Rwy’n siŵr fy mod yn siarad ar ran holl staff ac aelodau UAC wrth ddymuno’n dda i Linda gyda’i rôl newydd gyda’r FCN. Yn sicr mae ganddi ddigon o brofiad i sicrhau bod iechyd meddwl ffermwyr Cymru yn parhau ar frig pob agenda yn y dyfodol.