gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Daw eto haul ar fryn yw un o’r ymadroddion eiconig hynny erbyn hyn, ac yn un sydd wedi cynnal sawl un ohonom drwy gyfnod hir y pandemig. OND, mae’r haul hynny bellach wedi dechrau disgleirio ar rai o ddigwyddiadau pwysig ein calendr amaethyddol, ac yn rhoi cyfle i ail gydio yn y cymdeithasu hynny y mae pawb wedi gweld cymaint o’i eisiau. Mae tŷ ni bellach yn ferw gwyllt o gynnwrf y sioeau sydd ar y gweill dros gyfnod yr haf.
Pa ffordd well i ddechrau’r tymor sioeau na chynnal chwip o sioe yn Nefyn ar ddechrau mis Mai. Heidiodd y torfeydd nôl i gaeau Botacho Wyn am ddiwrnod bendigedig o gystadlu a chymdeithasu. Ond nid ar chwarae bach mae trefnu sioe mor llwyddiannus! Tu ôl i’r llwyddiant mae yna waith trefnu trylwyr yn digwydd, ac mae Eirian Lloyd Hughes, (gweler uchod ar y dde), Gweithredwr Yswiriant Gwasanaethau Yswiriant UAC Cyf yn Nolgellau yn gwybod hynny’n well na neb, gan mae hi yw Ysgrifennydd Cyffredinol Sioe Nefyn.
Ar ôl prysurdeb y sioe, cafodd Cornel Clecs gyfle i longyfarch Eirian a’r tîm am gynnal sioe gofiadwy a’i holi ychydig am ba mor anodd oedd ail-gydio yn y gwaith trefnu ar ôl cyfnod o ddwy flynedd heb sioe oherwydd cyfyngiadau Covid? Beth oedd yr anawsterau mwyaf?
Dywedodd Eirian: “Mi oedd yn benderfyniad gafodd ei wneud tua diwedd mis Ionawr pan oedd y cyfyngiadau yn ymddangos i fod yn llacio dipyn, ac mi oedd yn dipyn bach o risg ar y pryd gan nad oedd pethau yn glir iawn, ond ‘roedd pawb ohonom yn unfrydol fod angen ail-gydio yn y gwaith. Felly dim ond cwta tri mis a gawsom i wneud popeth yn lle’r chwe mis arferol, ond daeth pethau at ei gilydd yn rhyfeddol o dda yn y diwedd.