gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Mae mis Medi wedi bod ac wedi mynd ac mae'n anodd credu ei bod hi eisoes yn amser ar gyfer colofn mis Hydref! Roedd y mis diwethaf unwaith eto yn un prysur i ni i gyd, gyda siroedd yn parhau â'u hymweliadau gwleidyddol â ffermydd, a’r sgyrsiau gwleidyddol ehangach yn digwydd - pob un â'r nod o sicrhau bod gennym ffermydd teuluol cynaliadwy, ffyniannus am genedlaethau i ddod.
Pan fyddwn yn siarad am gynaliadwyedd, mae'n rhaid i ni siarad am gyllid. Nid oes unrhyw fusnes fferm yn gynaliadwy os nad yw’n ddiogel yn ariannol a chyda hynny mewn golwg ysgrifennwyd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart AS i’w atgoffa bod UAC yn credu bod hi wedi bod yn anonest o Drysorlys y DU i gynnwys cyllid heb ei wario gan yr UE o Gyfnod Cyllido 2014 - 2020 wrth gyfrifo cyllideb Polisi Amaethyddol Cyffredin Cymru 2021-2022 - methodoleg a arweiniodd at ddyraniad a oedd £95 miliwn yn llai na'r hyn a ragwelwyd.
Nid oedd y £243 miliwn mewn cyllid Cynllun y Taliad Sylfaenol a gyhoeddwyd ar Ragfyr 30 2019 yn cynnwys oddeutu £42 miliwn a drosglwyddwyd yn flynyddol i gyllideb Piler 2 (Datblygu Gwledig) trwy'r mecanwaith Trosglwyddo Piler.
Yn hynny o beth, ailadroddwyd y ffaith bod Cymru wedi derbyn tua £137 miliwn yn llai mewn cyllid amaethyddol a datblygu gwledig nag a ragwelwyd o ystyried honiadau dro ar ôl tro na fyddai ymadawiad y DU â'r UE yn arwain at gwymp mewn cyllid o'r fath.