gan Sam Carey
Er mwyn datblygu meddylfryd gadarnhaol, rwy’n credu bod rhai pethau sylfaenol pwysig sef:
* Bwyta’n dda
* Yfed llai (o alcohol)
* Cysgu’n dda
* a Lleihau dylanwadau negyddol
Mae’r uchod yn gosod sail gadarn fel y gall rhywun ddatblygu meddylfryd cadarnhaol. I mi, mae fel hyfforddi eich cyhyrau, os ydych chi am gryfhau yna mae’n rhaid i chi ymarfer. Mae fel mynd i’r gampfa - po fwyaf o bwysau rydych chi’n eu codi a’r trymaf ydyn nhw, yna’r cryfa’ y byddwch chi. Mae datblygu cryfder meddyliol yn gweithio yn yr un ffordd.
Yr hyn a helpodd fi i ddatblygu meddylfryd cadarnhaol oedd dod yn ymwybodol o fy emosiynau neu fy nheimladau. Ydyn nhw’n bositif neu’n negyddol? Mae’n bwysig gwybod mai chi sy’n rheoli eich meddyliau, ac yn eu hanfod eich teimladau hefyd. Os oes meddyliau negyddol yn dod i’ch pen, a allwch chi gael gwared arnynt heb ddal eich gafael ynddynt am gyfnod hir? Os ydy’r meddyliau hyn yn aros gyda chi; byddant yn troi yn deimlad ac yn effeithio ar eich hwyliau.