gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Mae mis Medi wedi bod ac wedi mynd ac mae'n anodd credu ei bod hi eisoes yn amser ar gyfer colofn mis Hydref! Roedd y mis diwethaf unwaith eto yn un prysur i ni i gyd, gyda siroedd yn parhau â'u hymweliadau gwleidyddol â ffermydd, a’r sgyrsiau gwleidyddol ehangach yn digwydd - pob un â'r nod o sicrhau bod gennym ffermydd teuluol cynaliadwy, ffyniannus am genedlaethau i ddod.
Pan fyddwn yn siarad am gynaliadwyedd, mae'n rhaid i ni siarad am gyllid. Nid oes unrhyw fusnes fferm yn gynaliadwy os nad yw’n ddiogel yn ariannol a chyda hynny mewn golwg ysgrifennwyd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart AS i’w atgoffa bod UAC yn credu bod hi wedi bod yn anonest o Drysorlys y DU i gynnwys cyllid heb ei wario gan yr UE o Gyfnod Cyllido 2014 - 2020 wrth gyfrifo cyllideb Polisi Amaethyddol Cyffredin Cymru 2021-2022 - methodoleg a arweiniodd at ddyraniad a oedd £95 miliwn yn llai na'r hyn a ragwelwyd.
Nid oedd y £243 miliwn mewn cyllid Cynllun y Taliad Sylfaenol a gyhoeddwyd ar Ragfyr 30 2019 yn cynnwys oddeutu £42 miliwn a drosglwyddwyd yn flynyddol i gyllideb Piler 2 (Datblygu Gwledig) trwy'r mecanwaith Trosglwyddo Piler.
Yn hynny o beth, ailadroddwyd y ffaith bod Cymru wedi derbyn tua £137 miliwn yn llai mewn cyllid amaethyddol a datblygu gwledig nag a ragwelwyd o ystyried honiadau dro ar ôl tro na fyddai ymadawiad y DU â'r UE yn arwain at gwymp mewn cyllid o'r fath.
Er na wnaethom ailadrodd ein dadleuon ynghylch dilysrwydd cynnwys cronfeydd heb eu gwario o gyfnod cyllidebol gwahanol wrth gyfrifo dyraniad Cymru, mae’n werth nodi bod cyllideb PAC 2021-2027 yr UE bellach wedi’i gosod ar €386.6 biliwn.
Yn hynny o beth, pe bai'r DU wedi aros yn yr UE a Chymru wedi parhau i dderbyn yr un gyfran o'r gyllideb hon, credwn y byddai dyraniad blynyddol Cymru o gyllid y PAC wedi bod yn £334 miliwn (yn seiliedig ar y gyfradd gyfnewid o £0.89 /€) yn ychwanegol at unrhyw gronfeydd sydd heb eu gwario - oddeutu £92 miliwn yn uwch na'r hyn a gyhoeddwyd ar Dachwedd 25 2020.
Yn dilyn ein sgyrsiau â Simon Hart AS y llynedd ynglŷn â’r mater hwn, rydym yn ymwybodol iddo wneud sylwadau cryf i Drysorlys y DU ynghylch pwysigrwydd cyllid amaethyddol Cymru.
Yn sgil penderfyniad Trysorlys y DU llynedd i fabwysiadu dehongliad creadigol o ymrwymiad y maniffesto i “... warantu’r gyllideb flynyddol gyfredol ...”, gwnaethom dynnu sylw at y ffaith ein bod yn naturiol bryderus y byddant yn mabwysiadu’r un dull yn yr adolygiad presennol.
O ystyried hyn, gofynnwyd iddo wneud ei orau glas i sicrhau nad yw cyllid sydd ddim yn cael ei wario’n cael ei gynnwys unwaith eto yng nghyfrifiad Trysorlys y DU, gan y byddai hyn yn ychwanegu at ostyngiad mewn cyllid sydd eisoes tua £137 miliwn yn is na'r hyn a ragwelwyd yn seiliedig ar ymrwymiadau.
Er gwaethaf hyn, os yw Trysorlys y DU yn bendant na fydd yn anrhydeddu ymrwymiad y maniffesto a'r addewidion a wnaed gan lawer sydd bellach yn y Llywodraeth yn y cyfnod yn arwain at refferendwm Brexit, dylai o leiaf eithrio cyllid a ddyrannwyd o unrhyw ostyngiadau yng nghyllideb 2022 -2023.
Yn ddiweddar cawsom drafodaethau defnyddiol ar y mater hwn gydag Is-Ysgrifennydd Seneddol Cymru David T C Davies yn ystod Sioe Brynbuga, ac rydym yn gobeithio trafod y mater hwn ymhellach gyda’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru maes o law.
O ddiddordeb hefyd i aelodau yw’r ffaith ein bod wedi ysgrifennu at David TC Davies AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol, yn gyntaf i ddiolch iddo am gymryd yr amser i gwrdd â ni yn Sioe Brynbuga i drafod nifer o faterion sy'n ein hwynebu fel diwydiant amaethyddol yng Nghymru a'r DU, ond hefyd i ailadrodd ein barn bod angen cynrychiolaeth gref o Gymru ar y Comisiwn Masnach ac Amaeth (TAC).
Mae angen i gynrychiolaeth o Gymru ar y Comisiwn Masnach ac Amaeth adlewyrchu pwysigrwydd amaethyddiaeth i economïau a chymunedau gwledig Cymru lle byddai cytundebau masnach rydd sy’n tanseilio ein safonau amddiffyn amgylcheddol uchel, lles anifeiliaid a bwyd yn cael yr effaith fwyaf. Er bod Llywodraeth y DU wedi addo y bydd y Comisiwn Masnach ac Amaeth yn cael amser i archwilio Cytundeb Masnach Rydd y DU - Awstralia, nid oes unrhyw arwydd o hyd pryd y bydd yn cael ei sefydlu. Mae yna ddryswch o hyd hefyd o ran y pwerau archwilio fydd gan y Comisiwn Masnach ac Amaeth o ran ystyried cytundebau masnach ryngwladol fel cytundeb masnach rydd y DU - Awstralia ac a fydd ganddo'r gallu i wneud hynny cyn iddynt gael eu llofnodi.
Felly rydym wedi gofyn i Is-Ysgrifennydd Seneddol Cymru am esboniad clir o broses archwilio cytundeb masnach rydd y DU - Awstralia a chytundebau masnach yn y dyfodol. Hefyd, gofynnwyd iddo geisio sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli’n deg ar y Comisiwn Masnach ac Amaeth a’i bod yn cael ei sefydlu mewn modd amserol.
Heb os nac oni bai, bydd y misoedd i ddod yn cyflwyno llawer mwy o heriau i ni, ond hefyd yn cyflwyno cyfleoedd, a thrwy weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, rwy'n sicr y gallwn sicrhau dyfodol ffafriol, cynaliadwy a ffyniannus i'n haelodau ac amaethyddiaeth yng Nghymru yn gyffredinol.