gan Caryl Roberts, Rheolwr Aelodaeth a Gweithrediadau UAC
Yn tydi hi’n hawdd mynd i rigol? Codi, molchi, gweithio, cysgu. Mae rŵtin yn gyfforddus ac yn hawdd, sydd fel arfer yn golygu eich bod yn cyflawni tasgau mor effeithlon a wyddoch chi’n bosib i’w gwneud. Ond, anfantais y byd bach delfrydol yma ydi, dim datblygiad, dim gweledigaeth a dim dysgu pethau newydd. Mae dysg i’w gael o’ch bedydd i’ch bedd a chyfle i ddysgu trwy gamgymeriadau, siarad, dadlau, a sgwrsio gyda phobol newydd.
Felly dros y misoedd diwetha’ dwi wedi mentro allan i’r byd mawr i ddysgu a chlywed mwy gan fusnesau a mudiadau aelodaeth, a dysgu mwy am ein systemau presennol a sut gallen nhw weithio’n well i ni fel undeb.
Taith hirfaith ar y trên o Fachynlleth i Lundain i gynhadledd ein cwmni CRM (Customer Relationship Management) o’r enw Zoho. Dyma’r system sy’n cadw holl fanylion aelodau a darpar aelodau. Mae’r system yn galluogi i ni gadw ffeil electronig o holl alwadau, gwaith achos a ffurflenni sy’n cael eu cwblhau dros aelodau. Mae hwn wedi bod yn gam mawr ymlaen i ni wrth leihau ein defnydd o bapur ac argraffu gwastraffus.