gan Caryl Roberts, Rheolwr Aelodaeth a Gweithrediadau UAC
Yn tydi hi’n hawdd mynd i rigol? Codi, molchi, gweithio, cysgu. Mae rŵtin yn gyfforddus ac yn hawdd, sydd fel arfer yn golygu eich bod yn cyflawni tasgau mor effeithlon a wyddoch chi’n bosib i’w gwneud. Ond, anfantais y byd bach delfrydol yma ydi, dim datblygiad, dim gweledigaeth a dim dysgu pethau newydd. Mae dysg i’w gael o’ch bedydd i’ch bedd a chyfle i ddysgu trwy gamgymeriadau, siarad, dadlau, a sgwrsio gyda phobol newydd.
Felly dros y misoedd diwetha’ dwi wedi mentro allan i’r byd mawr i ddysgu a chlywed mwy gan fusnesau a mudiadau aelodaeth, a dysgu mwy am ein systemau presennol a sut gallen nhw weithio’n well i ni fel undeb.
Taith hirfaith ar y trên o Fachynlleth i Lundain i gynhadledd ein cwmni CRM (Customer Relationship Management) o’r enw Zoho. Dyma’r system sy’n cadw holl fanylion aelodau a darpar aelodau. Mae’r system yn galluogi i ni gadw ffeil electronig o holl alwadau, gwaith achos a ffurflenni sy’n cael eu cwblhau dros aelodau. Mae hwn wedi bod yn gam mawr ymlaen i ni wrth leihau ein defnydd o bapur ac argraffu gwastraffus.
Mae’r system yn byw yn y “cloud” sy’n golygu gallai staff yr undeb fewngofnodi i’r system o unrhyw gyfrifiadur o unrhyw leoliad (gyda chyfrinair wrth gwrs!) Mae’r system hefyd yn gyrru negeseuon testun ac e-byst yn awtomatig o’r system. Galluogir hyn i ni gadw cofnod o’r nifer o weithiau rydym ni’n cysylltu gydag aelodau, a pha wybodaeth rydym ni’n rhannu er mwyn sicrhau nad oes dyblygiad.
Y cam nesa yn dilyn y gynhadledd i’w gweld sut allwn ni blethu system yr undeb gyda system glyfar y cwmni yswiriant fel bod modd i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhannu cyfleodd i werthu yswiriant neu gynnig aelodaeth. Cwrddais i hefyd â chwmni oedd yn arbenigo mewn ceir a hofrenyddion moethus… ddim yn siŵr os oes dyfodol i’r bartneriaeth honno i fod yn onest…
Nol i Lundain ymhen pythefnos i gynhadledd fwyaf Prydain i fudiadau Aelodaeth. Rhai o’r uchafbwyntiau i mi o ran ysgogi syniadau newydd oedd clywed rhai o gyfrinachau gan Reolwyr Marchnata'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, British Horse Society, British Museum a’r Royal College of Veterinary Surgeons. Rhai o’r prif themâu trwy’r rhan fwyaf o areithiau'r siaradwyr oedd gwella sut ydym ni’n cyfathrebu gwerth (Value) gwasnaethau a buddion aelodaeth.
Rydym ni’n tueddu i gymryd yn ganiataol fod pawb yn gwybod beth sydd ar gael yn eu pecyn aelodaeth. Ond tydi hynny ddim yn wir ac mae nifer o’n haelodau yn talu ffioedd mawr i ymgynghorwyr gwblhau eu ffurflenni er bod y gwasanaeth yn rhan o’u pecyn aelodaeth.
Yn olaf draw i Fanceinion i ymuno â Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni yswiriant - Roger Van Praet ac ambell aelod cydwybodol o’i dîm heb anghofio Dafydd P! Cynhadledd BIBA oedd hwn - British Insurers Brokers’ Association. Y gynhadledd fwyaf chwaethus welais i erioed. Cwmnïau yswiriant enfawr fel Legal and General, NIG, ERS, Aviva ac AXA ynghyd â channoedd o gwmnïau canolig am y gorau i arddangos eu gwasanaethau i froceriaid.
Y rheswm dros fynd i’r gynhadledd yma oedd cael cipolwg ar y byd mae fy nghydweithwyr yswiriant yn troelli ynddyn nhw. Roeddwn i’n awyddus i ddeall a gweld y byd mae Yswiriant FUW yn cylchdroi ynddo. Mae o wedi agor fy llygaid i’r pwysau mae’r busnes yn cario oherwydd maint y busnes, roedd hi’n galonogol iawn gweld y cwmnïau yn baglu dros ei gilydd i greu perthynas â’r FUW.
Erbyn dod adref mi roeddwn i’n desbret am y rhigol o’r rŵtin cyfforddus. Ond nawr mae fy mhen i’n troelli gyda syniadau newydd ac yn fwy na dim yn llawn brwdfrydedd ar sut i ddatblygu ein gwasanaethau. Mi fydd rhaid newid rhai o’n prosesau a threialu syniadau newydd ond mae’n glir bod craidd ein gwasanaethau yn sbot on. Diolch byth bod brwdfrydedd i fod yn heintus!