gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg
Mae’n gyd-ddigwyddiad rhyfeddol bod ymdrechion yn parhau i ddileu Covid-19 yn cyd-fynd gyda 20 mlynedd ers i glwy’r traed a’r genau chwalu a dinistrio amaethyddiaeth yn 2001 gan adael creithiau ar amaethyddiaeth Cymru a fydd yn para oes.
Er mwyn nodi’r achlysur, mae Cornel Clecs wedi cael cyfle i holi i Arwyn Owen, cyn Cyfarwyddwr Polisi UAC, ac Alan Gardner, Cadeirydd Pwyllgor Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd yr Undeb yn 2001 am ei hatgofion personol nhw o’r cyfnod:
Arwyn Owen
Ble mae’r ugain mlynedd diwethaf wedi mynd, yw’r hyn sydd ar feddwl llawer wrth inni edrych yn ôl i’r flwyddyn 2001 a chofio effaith drychinebus clefyd y traed a’r genau ar fywyd yng Nghymru. Mae llawer o’r emosiynau yr oedd pobl yn teimlo bryd hynny wedi ail gorddi yn ein meddyliau wrth i Covid ddod â bywyd bob dydd i stop yn 2020. Yn y ddau achos, mae bywoliaethau wedi’u dinistrio ac mae pobl wedi byw mewn ofn o’r gelyn anweledig, heb wybod pryd neu sut y byddai’n taro nesaf.
I mi, rhan anoddaf fy swydd yn 2001 oedd bod yn dyst i bobl a oedd wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw traed a’r genau allan o’u diadelloedd a’u buchesi, ac yna’n gorfod delio gydag achos a’i ganlyniadau. Mae’n hawdd edrych yn ôl a mesur yr effaith yn nhermau ystadegau noeth. Y tu ôl i bob achos, roedd yna deulu ffermio; y tu ôl i fanylion amrwd anifeiliaid a laddwyd, roedd blynyddoedd lawer o fridio manwl a gofalus; a thu hwnt i effaith uniongyrchol y clefyd, roedd llawer o gwestiynau am y dyfodol.