gan Elin Jones AS
Mae’n siŵr nad oes llawer o wleidyddion yn medru dweud fod eu magwraeth wleidyddol wedi ei wreiddio ar hanesion sefydlu a blynyddoedd cynnar Undeb Amaethwyr Cymru. Ond mae hynny’n wir yn fy achos i. Bydd rhai o ddarllenwyr Y Tir yn gwybod i mi ysgrifennu yn y gorffennol am fy Wncwl Jac, J.B. Evans Llanybydder. Wncwl Jac oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf yr Undeb ac yn un o’r ffigurau allweddol adawodd yr NFU 65 mlynedd yn ôl a chreu Undeb Amaethwyr Cymru.
Roedd ef yn swyddog cyflogedig gyda’r NFU ac yn gweithio yn Shir Gâr gyda’r ffermwyr tenant yn nyffryn Tywi uchaf oedd yn wynebu colli eu ffermydd i bryniant gorfodol gan y Comisiwn Coedwigaeth ar ddechrau 50au y ganrif ddiwethaf. Yng ngeiriau Gwenallt yn ei gerdd enwog Rhydcymerau, brwydr Wncwl Jac a’r Undeb bryd hynny oedd i wrthwynebu:
“Coed lle bu cymdogaeth/Fforest lle bu ffermydd”
Wrth i mi dyfu lan yn y 70au felly mi ges hanesion lu gan fy Wncwl Jac am y dyddiau cynnar a hefyd am y cyfnod cythryblus o ymuno gyda’r Farchnad Gyffredin. A nawr fe rydyn ar fin gadael y Farchnad honno, yr undeb honno, a dwi’n gwybod pa mor drist y byddai Wncwl Jac o weld colli’r berthynas honno - mi oedd e o’r genhedlaeth a welodd ymladd rhwng gwledydd Ewrop gan wario cyfnod hir fel carcharor rhyfel yn yr Eidal.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dal lle arbennig yn fy nghalon felly, ond ers 1999 mae’r Undeb wedi bod hefyd yn rhan annatod o fy mywyd gwaith yn cynrychioli Ceredigion yn Senedd Cymru. Ac mae’n rhaid dweud fod yr Undeb wedi gwneud gwaith arbennig yn cynrychioli eu haelodau dros gyfnodau digon heriol yn yr ugain mlynedd diwethaf - dau gyfnod o glwy’ traed a genau, a nawr her fawr Brexit.
Pan o’n i yn Weinidog Amaeth rhwng 2007-2011 mi roedd yr Undeb yn gefnogol iawn i fy mholisi o waredu TB mewn bywyd gwyllt yn ogystal â gwartheg ffarm. Yn wir un o awdurdodau’r pwnc, y diweddar Evan R Thomas, eisteddodd fi lawr yn swyddfa’r Undeb yng Nghaerfyrddin tua 2006 a rhoi seminar i fi am hanes a dwyster problem TB yn y gorllewin. Mi oedd y cyfarfod yna yn ddylanwadol iawn arna’ i ac mae’n aros yn y cof hyd heddi’.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn 65 mlwydd oed eleni. Mae gweledigaeth y sylfaenwyr dal yn fyw - i roi llais cryf ac annibynnol i ffermwyr Cymru. Hir bydded i hynny barhau.