Rydym ynghanol dathliadau pen-blwydd Undeb Amaethwyr Cymru yn 65 mlwydd oed, carreg filltir bwysig yn ein hanes. Pwy well i nodi’r achlysur hyn na’n Llywydd Mr Glyn Roberts
Wel.... lle mae’r pum mlynedd diwethaf ma wedi mynd?? Dwi’n cofio fel ddoe fy araith ddathliad trigain mlynedd yr Undeb yng Nghaerfyrddin. Yn fy araith y noson honno mi ddefnyddiais long fel cymhariaeth o bwysigrwydd strwythur i’r Undeb er mwyn gwasanaethu’r aelodau. Pum mlynedd yn ddiweddarach ac mae fy ngwallt wedi gwynnu’n arw! Ni feddyliais ar y pryd beth oedd ar y gorwel i’r diwydiant.
Doedd dim sôn y noson honno am…
- Brexit,
- Covid-19,
- newid strwythur ariannu’r diwydiant,
- mesur y farchnad fewnol,
- yr anghydfod sy’n deillio o’r mesur amaeth, a’r posibiliadau na fydd safon bwyd sy’n cael ei fewnforio o’r un safon a beth sy’n cael ei gynhyrchu yn y wlad yma.
I ni fel pobl mae cyrraedd 65 mlynedd yn arwydd o arafu lawr.....ond ga i ddweud wrthoch chi..does fiw i Undeb Amaethwyr Cymru arafu i lawr o gwbl.
Mi ydw i’n grediniol fod angen Undeb Amaethwyr Cymru yn awr - yn fwy nag erioed - os ydym am ddiwallu anghenion amaethwyr Cymru. Cofiwch mai lles amaethwyr Cymru yw ein hunig nod ni.
Peidiwch byth a gadael i ni anghofio’r ymdrech, dyfalbarhad a dewder yr arloeswyr cynnar.
Rhaid peidio gwyro oddi wrth eu dymuniadau, eu dyheadau ac wrth gwrs - yr egwyddor o Undeb annibynnol i Gymru.
Un o’r adnoddau pwysicaf sydd gennym yw staff ymroddedig a galluog.
Arf gwerthfawr sydd gennym yw’r croesdoriad o staff profiadol ac ifanc sydd yn cael eu meithrin gan y to hŷn - a’r ifanc yn eu tro yn addysgu’r to hwn - yn enwedig eleni gyda’r galw am sgiliau technegol. - Diolch i bob aelod am sicrhau fod y felin yn parhau i droi.
Mae’n rhaid i mi nodi yn fan hyn nad oeddwn byth yn meddwl y buaswn yn dweud wrth Eleri ffasiwn beth a ..”rhaid fi fynd, mae gen i gyfarfod Zoom!!”
Mae’r cyfarfodydd wedi bod yn llwyddiant yn gyffredinol, a rhaid dweud bod Zoom wedi arbed sawl ffrae gan Eifion wrth iddo aros ar fuarth Dylasau yn disgwyl amdanaf i gychwyn am Aber..!
Rwyf hefyd yn falch iawn o’r ail strwythuro sydd wedi ei wneud yn dilyn y gwaith caled gafodd ei wneud gan y grŵp “gorchwyl a gorffen” dan gadeiryddiaeth y cawr o Faldwyn: Rees Roberts. Dilynwyd y drefn ddemocrataidd o gael sêl bendith y Cyngor i’r newid.
Mae’r tîm polisi llywyddol gyda chadeiryddion y pwyllgorau canolig wedi cyfarfod yn rhithwir bob mis. Mi ydw’n falch iawn ohonynt.
Dyma i chi bobl alluog a blaengar, yn rhoi eu hamser i hel gwybodaeth a thrafod.
Darn arall o’r adroddiad o’r grŵp gorchwyl a gorffen oedd creu bwrdd UAC (mae gan FUWIS fwrdd eisoes) unwaith eto rwyf yn falch iawn o aelodau’r bwrdd yma, mae’n fwrdd eithaf ifanc ar wahân i mi, gyda dwy gyfarwyddes anweithredol allanol dawnus iawn. Gan fod y bwrdd yn cynnwys aelodau galluog a chryf mae hyn yn heriol iawn i’r cadeirydd ambell i waith! O ddifrif rŵan... cymeraf hi yn fraint i gadeirio criw mor dalentog.
Hoffwn hefyd ddiolch o waelod calon i’r cyn dirprwy lywydd - Brian Thomas - am fod yn gymaint o gefn i mi (wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn WW) hefyd am gae fy meithrin gan Gareth Vaughan ac Emyr Jones, y ddau gyn Llywydd.
O bosib y ddau gyflawniad a roddodd y mwyaf o wefr i mi hyd yma oedd ein bod wedi darbwyllo Llywodraeth Cymru o’r pwysigrwydd bod ffermwyr sy’n amaethu i fyny at 54 hectar yn cael blaenoriaeth ariannol. Ac yn ychwanegol, ein bod wedi cael dylanwad ar Lywodraeth Cymru i newid eu barn er mwyn cynnal asesiad economaidd ar effeithiau newid y system daliadau. Rhaid cofio bod yr elfen economaidd yn bwysig er mwyn cynnal pobl, diwylliant ac iaith cefn gwlad Cymru.
Hoffwn gloi wrth ddweud diolch o galon i bob un - boed yn aelod neu yn staff o deulu’r Undeb - rydw i wir yn gwerthfawrogi eich ymroddiad i’n Hundeb ..ble mae ein nerth..!?
Mae llawer her o’n blaen ond dwi yn ffyddiog bod yr allwedd am ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy yn nwylo Undeb Amaethwyr Cymru.
Ni wn am hynt yfory
Na beth fydd tynged Cymru
Ond gwn bydd og yn dilyn âr
Ac adar yma’n canu. (WJ)