gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Mae wastad yn bleser cael ymfalchïo yn llwyddiannau ein pobl ifanc, ac mae gan Cornel Clecs stori arbennig iawn ar eich cyfer mis yma, un sydd hefyd a chysylltiad arbennig iawn gyda UAC, mi esboniai mwy i chi am hyn yn y man.
Dewch i ni ddod i nabod un o sêr disgleiriaf ddiweddaraf y cae rygbi. Ond nid y cae rygbi yn unig sy’n mynd a bryd merch o fferm fynyddig yn Eryri, ac mae’r hanes yn cychwyn ar fuarth y fferm.
Ar ôl profi llwyddiant rhyngwladol mewn treialon cŵn defaid, mae Gwenllian Pyrs ymhlith y merched cyntaf i gael eu dewis i chwarae rygbi’n broffesiynol llawn-amser dros Gymru.
Mae Gwenllian yn un o 12 sydd wedi derbyn cytundeb llawn amser gan Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddar. Mae’n gryn newid byd i’r ferch o Padog ger Ysbyty Ifan ym mhen uchaf Dyffryn Conwy sydd bellach wedi symud i Gaerdydd er mwyn gallu hyfforddi’n ddyddiol gyda charfan Cymru.
Yn un o ddeg o blant cafodd Gwenllian ei magu ar fferm Tŷ Mawr Eidda, mae rygbi yn y gwaed ac mae pob un o’i phump o frodyr a’i phedair chwaer wedi chwarae i Glwb Rygbi Nant Conwy, neu’n dal i wneud hynny. Mae dwy o’i chwiorydd sef Elin a Non wedi chwarae i dîm ‘Gogledd Cymru’ ac Alaw, Ifan, Maredudd a Rhodri wedi chwarae i ‘Eryri’. Maent yn dilyn ôl troed eu tad Eryl, sy’n un o sylfaenwyr a chyn capten Clwb Rygbi Nant Conwy.
“Mae ‘Nant Conwy’ yn llawer mwy na chlwb rygbi,” meddai Eryl. “Mae’n glwb cymdeithasol pwysig, gyda’r Gymraeg yn gyfrwng naturiol i weithgareddau a hyfforddiant ac yn fodd i ieuenctid yr ardal gael bywyd cymdeithasol hollol naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae canran uchel iawn - oddeutu 80% o’r aelodau yn dod o gefndir amaeth ac mae’n gyfrwng pwysig i’r wlad a’r dref ddod at ei gilydd.