gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu'r Iaith Gymraeg
Anodd credu ein bod ni bellach yn cyfri lawr wythnosau diwethaf 2021, blwyddyn heriol arall yn tynnu at ei therfyn, a phawb yn gobeithio y daw cyfnod gwell gyda’r flwyddyn newydd. Ond yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg fwyfwy eleni eto, yw awydd cynyddol pobl i siopa a chefnogi busnesau bach lleol. Mae’n braf gweld ffermwyr a’u teuluoedd yn mentro, yn arallgyfeirio ac yn cynnig cynnyrch fferm o’r fferm yn uniongyrchol - a dyna beth mae’r cwsmer eisiau heddiw - gwybod a deall yn union o le daw’r cynnyrch sy’n mynd ar y plât - o’r giât i’r plât!
Gyda sôn nôl ar ddechrau’r hydref am y posibilrwydd o brinder tyrcwn, a oes modd meddwl am y cinio Nadolig traddodiadol heb dwrci, a meddwl am gig arall?
Dyma Helen Thomas, Dirprwy Swyddog Gweithredol UAC yn siroedd Gwent a Morgannwg i gyflwyno dau aelod sydd wedi mentro gyda’i bocsys cig:- “Mae ein haelodau Ben a’i wraig Julia Jones yn rhedeg fferm draddodiadol mewnbwn isel yn Sir Fynwy, lle mae eu gwartheg a'u defaid yn cael eu bwydo ar borfa’n unig. Maent yn gwerthu eu cig eidion a'u cig oen yn uniongyrchol i gwsmeriaid lleol ac yn bodloni unrhyw geisiadau penodol lle bo hynny'n bosibl. Nid oes ond angen i chi ddarllen y sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol i weld pa mor hapus y mae eu cwsmeriaid o wybod lle daw eu cig o.”
Cafodd Cornel Clecs y cyfle i holi’r ddau o’i Fferm Ffynnonau am lwyddiant eu cwmni, Hillside Beef and Lamb, gyda’r Pasture Fed Livestock Association yn ardystio bod yr holl ddefaid a’r gwartheg yn cael ei magu ar borfa. Dyma Ben i ddweud mwy o’r hanes:-
“Pan ddechreuais Hillside Beef and Lamb, yn ei ffurf wreiddiol, roeddem mewn gwirionedd yn gwerthu bocsys porc a chig oen yn syth o fuarth y fferm, ac yn eu cludo’n lleol yng nghefn hen gar Ford Fiesta fy mam. Roeddwn bob amser yn rhyfeddu at y syniad y gall unrhyw un gael unrhyw beth ond Twrci adeg y Nadolig.
“Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wrth i'r busnes dyfu, mae fy ngwraig a minnau'n gwerthu cig eidion trwy gydol y flwyddyn, a chig oen yn ei dymor. Rydyn ni dal i gludo’n lleol ond yn ein fan rheweiddio erbyn hyn. Rydym bellach wedi darganfod bod cynnydd rhyfeddol mewn archebion o gwmpas amser y Nadolig, wrth i lawer o bobl roi cynnig ar gigoedd Nadolig gwahanol.
Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'r archebion yn newid o stêcs a briwgig i ddarnau mawr o gig, "Digon ar gyfer 9! Digon ar gyfer 12, a digon dros ben!" Ffiledau cyfan ar gyfer Wellington Cig Eidion, coes cyfan o gig oen, asen gyfan i’w gosod ar ganol y bwrdd cinio. Rwy'n credu mai Twrci fydd y cig traddodiadol o ddewis adeg y Nadolig am flynyddoedd lawer i ddod eto, ond mae'n rhaid dweud bod llawer o alw am gig arall ar yr adeg hon hefyd.
Wrth i newid hinsawdd gymryd lle blaenllaw yn y newyddion, efallai mai cig eidion neu gig oen sy'n cael ei fagu ar borfa dda, yn lleol yw'r anrheg orau adeg y Nadolig - mae’r milltiroedd bwyd yn isel, cefnogi ffermydd a busnesau lleol sy’n cefnogi'r economi leol, yn ogystal â bod yn gyfeillgar i’r amgylchedd.
Gyda llawer o gynnwrf yn y sector amaethyddol yn ddiweddar, mae'n hanfodol bwysig cofio mai'r ffermydd bach teuluol hyn sy'n ffurfio asgwrn cefn yr economi leol, meddai Helen.
Ychwanega Helen: “Cig wedi'i seilio ar borfa fel yr hyn y mae Ben a Julia yn ei gynhyrchu yw'r cynhyrchiad bwyd mwyaf cynaliadwy a pham bod hi’n bwysig prynu'n lleol. Y buddion eraill o brynu'n lleol yw ei fod yn cryfhau'r economi ac yn lleihau'r effaith amgylcheddol.
Pa bynnag gig fydd ar y eich plât y Nadolig hwn, sicrhewch ei fod yn lleol ac o’r ansawdd gorau posib. Dymunaf Nadolig Llawen a dedwydd iawn i chi a’ch teuluoedd i gyd. Diolch am eich cefnogaeth ac am fod yn ddarllenwyr ffyddlon unwaith eto. Welai chi gyd yn 2022, a chofiwch gysylltu os fydd gyda chi unrhyw stori neu hanesyn a fydd o ddiddordeb i Gornel Clecs – byddai’n braf iawn clywed wrthych.