gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Mae wastad yn bleser cael ymfalchïo yn llwyddiannau ein pobl ifanc, ac mae gan Cornel Clecs stori arbennig iawn ar eich cyfer mis yma, un sydd hefyd a chysylltiad arbennig iawn gyda UAC, mi esboniai mwy i chi am hyn yn y man.
Dewch i ni ddod i nabod un o sêr disgleiriaf ddiweddaraf y cae rygbi. Ond nid y cae rygbi yn unig sy’n mynd a bryd merch o fferm fynyddig yn Eryri, ac mae’r hanes yn cychwyn ar fuarth y fferm.
Ar ôl profi llwyddiant rhyngwladol mewn treialon cŵn defaid, mae Gwenllian Pyrs ymhlith y merched cyntaf i gael eu dewis i chwarae rygbi’n broffesiynol llawn-amser dros Gymru.
Mae Gwenllian yn un o 12 sydd wedi derbyn cytundeb llawn amser gan Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddar. Mae’n gryn newid byd i’r ferch o Padog ger Ysbyty Ifan ym mhen uchaf Dyffryn Conwy sydd bellach wedi symud i Gaerdydd er mwyn gallu hyfforddi’n ddyddiol gyda charfan Cymru.
Yn un o ddeg o blant cafodd Gwenllian ei magu ar fferm Tŷ Mawr Eidda, mae rygbi yn y gwaed ac mae pob un o’i phump o frodyr a’i phedair chwaer wedi chwarae i Glwb Rygbi Nant Conwy, neu’n dal i wneud hynny. Mae dwy o’i chwiorydd sef Elin a Non wedi chwarae i dîm ‘Gogledd Cymru’ ac Alaw, Ifan, Maredudd a Rhodri wedi chwarae i ‘Eryri’. Maent yn dilyn ôl troed eu tad Eryl, sy’n un o sylfaenwyr a chyn capten Clwb Rygbi Nant Conwy.
“Mae ‘Nant Conwy’ yn llawer mwy na chlwb rygbi,” meddai Eryl. “Mae’n glwb cymdeithasol pwysig, gyda’r Gymraeg yn gyfrwng naturiol i weithgareddau a hyfforddiant ac yn fodd i ieuenctid yr ardal gael bywyd cymdeithasol hollol naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae canran uchel iawn - oddeutu 80% o’r aelodau yn dod o gefndir amaeth ac mae’n gyfrwng pwysig i’r wlad a’r dref ddod at ei gilydd.
“Yn ôl pob sôn roedd yr heddlu lleol yn falch iawn o weld y clwb yn datblygu - gan fod llawer llai o helyntion yn Llanrwst ar benwythnosau oherwydd y berthynas oedd yn datblygu rhwng hogiau’r wlad a hogiau’r dre!”
Mae’n credu bod llwyddiant ei ferch yn glod i’r addysg a gafodd yn ysgol gynradd Ysbyty Ifan ac Ysgol Dyffryn Conwy.
“Ysgol fach yn y wlad yw Ysgol Ysbyty Ifan ac er bod gwybodusion o’r byd addysg yn honni bod ysgolion bach yn llyffethair i ddatblygiadau a chyfleoedd ym myd chwaraeon, ymddengys bod amheuaeth ynglŷn â chymhellion y rhai sydd yn coleddu’r farn hon,” meddai. Ychwanegodd mai un arall o’r ysgol i gael cap i Gymru yw Dyddgu Hywel, perthynas i Gwenllian, sydd bellach yn sylwebydd rygbi, ar ôl ennill sawl cap i Gymru fel cefnwraig gadarn yn y ddegawd ddiwethaf.
Roedd Gwenllian yn 16 oed pan ddechreuodd chwarae i Nant Conwy, er hyn roedd hi wedi bod yn chwarae yn yr ysgol gynradd a hefo’i brodyr a’i chwiorydd a’i thad ar y fferm ers yn ieuanc iawn. Cafodd wahoddiad i chwarae i’r Scarlets dan 18 ac yna i’r tîm hŷn. Roedd hi wedi cael ei hystyried fel capten ond roedd amheuaeth a fyddai’n gallu cyfathrebu’n ddigon da yn y Saesneg i allu ysgogi’r garfan.
Caernarfon oedd y clwb lleol i ferched dros 18 ac wrth chwarae yn erbyn Abertawe dewiswyd hi fel ‘chwaraewr y gêm’. Cafodd alwad ffôn ar y ffordd adref ar y bws gan Rowland Phillips, hyfforddwr Cymru ar y pryd, yn rhoi gwahoddiad i ymarfer gyda Chymru. Mae ganddi 16 cap i Gymru erbyn hyn ac mae’r gweddill yn hanes.
Er yr holl lwyddiant ar y cae rygbi, mae Gwenllian yn dal wrth ei bodd yn helpu ar y fferm ac wedi cwblhau cwrs cneifio gyda’r ‘Bwrdd Marchnata Gwlân’ a chyrsiau busnes fferm gyda chwmni ‘Simply the Best’, drwy gynllun hyfforddiant Cyswllt Ffermio. Un o’i phrif ddiddordebau ar y fferm yw dysgu a thrin cŵn defaid, ac yn y gorffennol mae hi wedi cynrychioli Cymru yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol ac ar y rhaglen deledu ‘One Man and His Dog’.
Mae cyfoeth a pharhad y bywyd gwledig Cymraeg yn holl bwysig i deulu Tŷ Mawr Eidda.
“Mae bywyd cefn gwlad a chefndir amaethyddol wedi cyfrannu’n fawr tuag at ddatblygiad Gwenllian,” meddai Eryl.
“Ac ysgolion bach y wlad hefyd - ble mae plant yn cael magu personoliaeth a chyfle i ddatblygu er mwyn sicrhau dinasyddion ymroddedig i’r dyfodol.
“Mae parhad y diwydiant amaeth yn hanfodol bwysig i ddyfodol cymdeithasau a gweithgareddau yng nghefn gwlad ac mae cyfleoedd gwych yn gallu deillio o fod yn rhan o gymdeithas fyrlymus fel hon.”
Er bod bywyd yn brysur iawn i Gwenllian, rydym yn ddiolchgar iddi am gael sgwrs gyflym gyda ni, dywedodd: “Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael fy newis yn un o’r chwaraewyr merched cyntaf i gael cynnig cytundeb llawn amser gydag Undeb Rygbi Cymru ac mae’n dangos bod gwaith caled a dyfalbarhad yn talu ar ei ganfed.
“Pan gesi alwad ffôn gan yr hyfforddwr Ioan Cunningham yn cynnig cytundeb llawn amser i mi, allan ar y ffarm oeddwn i gyda’r cŵn. Pan gynigiodd Ioan y cytundeb i mi doeddwn i ddim yn coelio’r peth a dwi dal i binchio fy hun hyd heddiw. Ar ôl darfod y galwad, esi yn syth i’r tŷ i ddweud wrth fy nhad. Mae’n rhywbeth mae’r tîm menywod wedi bod yn disgwyl am ers blynyddoedd ac rydym yn gobeithio am dorfeydd yn dod i’n gwylio yn ystod y chwe gwlad.”
Felly, beth meddai chi yw’r cysylltiad arbennig rhwng Gwenllian a UAC? Mae’n nith i’n llywydd Glyn Roberts, ac mae’n siŵr y bydd Glyn a phob un ohonom yn ymfalchïo yng nghamp Gwenllian ar y cae rygbi. Pob llwyddiant i ti Gwenllian.