Mae Euros Jones, ein Swyddog Cynlluniau Amaeth-Amgylchedd yn gadael UAC y mis hwn, ond ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith o gwbl ar yr holl wasanaethau Glastir sydd gan UAC i'w chynnig. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Heledd Williams wedi bod yn cynorthwyo Euros ym mhob agwedd o’r gwasanaeth yr ydym ni fel Undeb yn ei ddarparu i'n haelodau.
Ar ôl ennill gradd mewn Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes Fferm ym Mhrifysgol Harper Adams, cwrs a oedd yn ymdrin â phynciau fel Rheolaeth Cefn Gwlad a Thir, Gwyddor yr Amgylchedd, Cyfraith Busnes Fferm a Datblygu Busnes Amaethyddol, mae Heledd yn fwy na chymwys i gymryd yr awenau a pharhau i ddatblygu gwasanaethau Cynlluniau Amaeth-Amgylchedd yr Undeb.
Bydd y gwasanaethau hyn yn cynnwys yr holl weithgareddau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â Chynlluniau Glastir Llywodraeth Cymru. Ffoniwch eich Swyddfa Sir leol er mwyn cysylltu â Heledd. Manteisiwn ar y cyfle hwn i ddiolch i Euros am ei holl waith ac yn dymuno'n dda iddo yn y dyfodol yn dilyn ei lwyddiant yn sicrhau tenantiaeth fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghwm Eidda.