Mae amser wir yn hedfan! Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn heriol a phrysur arall i Grŵp UAC a rhaid i mi ddiolch i’r holl staff a swyddogion am eu gwaith caled parhaus yn sicrhau bod gennym ni ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru. Rydym wedi ffarwelio ag ambell wyneb cyfarwydd eleni a diolchaf i’r cyn-aelodau o staff sydd wedi gwasanaethu’r Undeb yn ddiwyd ers cymaint o flynyddoedd, gyda diolch arbennig i Peter Davies.
Mae’r pynciau yr ydym wedi ymdrin â hwy wedi bod eang, yn amrywio o faterion bachu tir, y rheoliadau ‘NVZ’, pryderon iechyd anifeiliaid, newid hinsawdd a thargedau plannu coed, y Bil Amaethyddiaeth gyntaf erioed i Gymru a fydd yn newid sut yr ydym yn ffermio am genedlaethau i ddod, yn ogystal â llawer o helyntion gwleidyddol yn San Steffan. Mae’n deg dweud inni gael ein cadw ar flaenau’n traed trwy gydol y flwyddyn.
Mae 2022 wedi bod yn her i economi’r DU gyda chyfraddau chwyddiant yn parhau i gynyddu’r pwysau ar aelwydydd yn ogystal â busnesau a chynhyrchwyr bwyd yn arbennig. Ar ddechrau’r flwyddyn, rhybuddiodd ein Pwyllgor Llaeth nad oedd y prisiau ynni cynyddol – ac sy’n wir o hyd, yn gynaliadwy i’r sector. Daeth y rhybudd yn syth ar ôl adroddiadau gan ffermwyr llaeth bod costau ynni yn codi hyd at £1,000 y mis.
Cynhalion gyfarfod adeiladol gyda Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths i dynnu sylw at, a thrafod camau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru effeithiau rhyfel Rwsia ar y Wcráin. Rhybuddion ni nôl ym mis Mawrth fod y rhyfel yn cael, ac y byddai’n parhau i gael effeithiau mawr ar ein cadwyni cyflenwi bwyd a chostau mewnbwn, yn enwedig gan fod y DU yn dibynnu ar y Wcráin a Rwsia am tua thri deg y cant o’i chorn, yn ogystal â nifer o gynhwysion arall sy’n cael eu defnyddio ar gyfer porthiant anifeiliaid, a gwrtaith, a oedd ar y pryd tua mil o bunnoedd y dunnell.